– Senedd Cymru am 4:41 pm ar 16 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), ac rydw i'n galw ar Hefin David i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6682 Hefin David, Angela Burns, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth, Dawn Bowden, Mandy Jones
Cefnogwyd gan Neil Hamilton
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adroddiad diweddar gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt.
2. Yn cydnabod cyfraniad dewr cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol.
3. Yn cydnabod mai canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion gan bod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis diwethaf.
4. Yn croesawu cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn y gall gyrraedd ei photensial llawn ymdrin â materion o amgylch:
a) y trothwy arfaethedig ar gyfer prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019;
b) heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl;
c) yr angen i ostwng yr oedran sgrinio cymwys o 60 i 50.
Diolch, Lywydd. Efallai y bydd Aelodau yn y Siambr hon wedi sylwi fy mod yn gwisgo'r sêl-fodrwy hon. Fe'i rhoddwyd i mi gan fy nhad pan oeddwn yn 16 mlwydd oed. Modrwy fy nhad-cu oedd hi mewn gwirionedd. Mae hi wedi tynhau wrth imi heneiddio, rhaid dweud. Cafodd fy nhad-cu ddiagnosis o ganser y coluddyn yn y 1970au, a goroesodd i mewn i'r 1980au. Un o'r pethau a ddywedodd wrthyf oedd, 'Hoffwn fyw yn ddigon hir i dy weld yn mynd i brifysgol.' Bu farw fy nhad-cu pan oeddwn yn 10 mlwydd oed. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi cael ein cyffwrdd gan straeon am ganser y coluddyn, ac felly mae'n bleser gennyf gyflwyno'r ddadl hon yn y Siambr heddiw.
Mae sgrinio ar gyfer canser y coluddyn ar gael bellach yn genedlaethol ar draws pedair gwlad y DU, ac yng Nghymru caiff ei ddarparu ar gyfer pobl rhwng 60 a 75 oed. Rydym wedi gweld newidiadau arloesol mawr yn yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer triniaeth, ac maent wedi arwain at ostyngiad o 13 y cant yn y cyfraddau marwolaeth ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd. Dyma deyrnged i waith caled llawer o weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac ymchwilwyr yn y gwasanaeth iechyd gwladol a'r diwydiant fferyllol. Fodd bynnag, mae'n amlwg fod gennym waith i'w wneud o hyd, ac mae elusen Bowel Cancer UK wedi ein helpu i weld lle y gellir gwneud y gwaith hwnnw. Caiff oddeutu 41,000 o bobl ledled y DU ddiagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Mae mwy na 2,200 ohonynt yma yng Nghymru. Felly, y realiti poenus a thorcalonnus yw, o'r 16,000 o bobl ledled y DU, bydd dros 900 yng Nghymru yn colli eu brwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwy'n siŵr y byddai pawb yn y Siambr heddiw yn cytuno ei fod dros 900 yn ormod.
Yn syml, po gynharaf y ceir diagnosis, y mwyaf yw'r tebygolrwydd y byddwch yn goroesi pum mlynedd neu fwy. Mae diagnosis cynnar yn allweddol a rhan hanfodol o hyn yw codi ymwybyddiaeth a sgrinio, ac rwyf am sôn am hynny wrth Lywodraeth Cymru yn fy araith heddiw. Mae angen i bobl fod yn ymwybodol o symptomau posibl canser y coluddyn, a gwn fod gan yr Aelodau rwyf wedi siarad â hwy gynlluniau i drafod hynny'n fanwl. Os ydych yn meddwl efallai fod gennych symptomau canser y coluddyn, peidiwch â theimlo cywilydd a pheidiwch â'u hanwybyddu, ewch i'w cael wedi'u harchwilio.
Rwy'n cydnabod bod pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn methu cyrraedd targedau gorfodol Llywodraeth Cymru ar gyfer amseroedd aros—mae dros 1,800 o gleifion yng Nghymru yn aros mwy nag wyth wythnos am ddiagnosis canser y coluddyn. Daw hyn o adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror gan Bowel Cancer UK, y gwnaethom helpu i'w lansio. Helpodd Mandy Jones ac Andrew Davies ACau i'w lansio yma ym mis Chwefror. Canfu'r adroddiad hefyd fod llai na hanner y bobl sy'n gymwys ar gyfer profion sgrinio am ganser y coluddyn yng Nghymru wedi gwneud y prawf, ond sgrinio yw'r ffordd fwyaf effeithiol o ganfod canser y coluddyn. Ysgrifennais at y Gweinidog ar y pryd, Rebecca Evans, pan oedd hi'n Weinidog iechyd y cyhoedd ym mis Chwefror 2017 ar fater gostwng yr oedran sgrinio o 60 i 50, fel sy'n digwydd yn yr Alban ar hyn o bryd. Cefais fy nghalonogi pan ddywedodd, ar 23 Chwefror 2017, 'mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymestyn rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru i ddynion a menywod rhwng 50 a 59 oed, ond mae ein ffocws ar gynyddu'r nifer sy'n cael y prawf yn yr ystod oedran presennol a lleihau'r annhegwch y gwyddom ei fod yn bodoli cyn ymestyn y rhaglen ymhellach.'
Rwy'n credu bod heddiw yn gyfle amserol i Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ar ba gynnydd a wnaed ers mis Chwefror 2017 a pha gynnydd y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud yn 2019, sy'n rhan o'n cynnig. Roedd y Gweinidog hefyd yn pwysleisio yn ei llythyr pa mor bwysig yw codi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau incwm is, oherwydd yn ystadegol maent yn llai tebygol o wneud y prawf—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n ddiddorol mai hanner y bobl gymwys yn unig sy'n cael eu sgrinio, ond rwyf hefyd wedi cael etholwr sydd wedi cael ei sgrinio'n rheolaidd, neu wedi gwneud y prawf sgrinio, ac yna, yn 75 oed, mae'n dod i ben, ac mewn gwirionedd mae'n achosi llawer iawn o bryder. Tybed a oes unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod parhau i sgrinio y tu hwnt i 75 yn fuddiol hefyd.
Mae angen cyflwyno tystiolaeth o'r fath gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a hoffwn roi cyfle i Ysgrifennydd y Cabinet ateb y cwestiwn penodol hwnnw.
Yn y Senedd ar 6 Chwefror, fodd bynnag, siaradais innau hefyd—ac efallai i ateb David Melding—ag oncolegydd a ofynnodd gwestiynau ynghylch newid yr ystod oedran. Nid oedd yn sôn am bobl dros 75 oed, roedd yn sôn am ei ostwng i 50, a'i farn broffesiynol oedd y gallai'r rhwyd risg gael ei lledaenu'n rhy eang ac yn rhy denau os nad oedd y mecanweithiau cymorth priodol ar waith pe baech yn gostwng yr ystod oedran. Felly, os ydych yn mynd i ostwng yr ystod oedran, rhaid i chi gael cyngor proffesiynol iechyd y cyhoedd i ddweud bod y system yn barod i gefnogi hynny. Pe bai Llywodraeth Cymru'n gallu, rwy'n credu y byddent yn ei ostwng yn syth i 50, ond rhaid ichi gael dulliau cymorth digonol yn cael eu gosod na fyddant yn creu anfantais i'r rhai sydd eisoes yn cael eu profi. Rwy'n ymwybodol fod yna weithwyr iechyd y cyhoedd eraill a fyddai'n arddel safbwynt gwahanol, ac maent oll yn ffurfio cyfraniad gwerthfawr, ond rwy'n meddwl mai'r allwedd yw gwrando ar gyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru a sicrhau bod yr ystod oedran yn cael ei ostwng, buaswn yn gobeithio, cyn gynted ag y gall y Llywodraeth wneud hynny.
Hefyd bydd cyd-Aelodau am gyfrannu at y ddadl heddiw ynglŷn â'u profiadau eu hunain, ac mae Dawn Bowden wedi rhoi pecyn sgrinio'r prawf imiwnogemegol ysgarthion i mi, drwy garedigrwydd Bowel Cancer UK, a deallaf fod hwn wrthi'n cael ei gyflwyno yng Nghymru, yn dilyn cynlluniau peilot a awgrymodd ei fod wedi arwain at gynnydd o 5 i 10 y cant yn nifer y bobl sy'n ei wneud. Gallaf weld eich un chi ar eich desg yno hefyd, Dawn Bowden. Drwy gyflwyno enghreifftiau o becynnau sgrinio'r profion hyn, gobeithiwn dorri'r tabŵ sydd ynghlwm wrth y profion. Dyna ran o'r hyn y ceisiwn ei wneud heddiw—torri'r tabŵ o wneud prawf.
Ond rwyf am orffen gyda fy straeon personol am ffrindiau sydd â chanser y coluddyn. Yn etholiad 2016, fy ngwrthwynebwr UKIP oedd yr unigolyn hynod ddiddorol hwnnw o'r enw Sam Gould. Roedd personoliaeth, ynni a brwdfrydedd a chariad at fywyd Sam yn disgleirio ym mhob dim a wnâi. Cafodd ei daro y llynedd â chanser y coluddyn a bu farw yn 33 oed. Daeth Sam yn ffrind i mi, ymwelais ag ef yn yr ysbyty, a gwelaf ei golli. Credaf fod dewrder Sam yn rhywbeth y gallwn ddysgu llawer o wersi ohono. Ni wnaf anghofio'r tro y daeth Sam â Nigel Farage i Gelli-gaer yn ystod etholiad y Cynulliad 2016, a thynnodd lun ohonof fi yn ysgwyd llaw gyda Nigel Farage hyd yn oed, sy'n mynd o gwmpas yn rhywle ar y rhyngrwyd. Credaf y byddai Sam yn chwerthin nawr pe bai hwnnw byth yn dod i'r golwg.
Rwy'n siarad hefyd am ein cyfaill mawr ac annwyl Steffan Lewis. Mae Steffan yn unigolyn gwych ac mae wedi gwneud cyfraniad aruthrol i'r Cynulliad hwn. Mae ar hyn o bryd yn absennol oherwydd ei salwch. Rydym yn meddwl am Steffan heddiw, gyda'i salwch, ac rwyf am wneud fy araith yn ei enw. Rydym yn aros iddo ddod yn ôl a dymunwn y gorau iddo gyda'i driniaeth a'i adferiad. Fel y gŵyr yr Aelodau rwy'n siŵr, mae chwaer Steffan wedi trefnu taith gerdded noddedig ar 14 Gorffennaf i godi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac ni allaf feddwl am ffordd well inni ei gefnogi ef a'i achos.
Felly, rwy'n argymell y cynnig hwn i'r Siambr heddiw, ac yn gobeithio y bydd y ddadl yn nodi'n fanylach ac yn fwy trylwyr y materion sy'n ein hwynebu, fel y gallwn weithio gyda'n gilydd wedyn i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i gleifion â chanser y coluddyn yma yng Nghymru a gwneud yr hyn y mae pawb ohonom am ei wneud, sef curo canser y coluddyn.
Wel, yr unig brofiad sydd gennyf fi yw bod un o fy neiniau wedi marw cyn i mi gael cyfle i'w hadnabod, gan iddi gael ei chymryd gan ganser y coluddyn pan oeddwn yn ddau fis oed.
Canser y coluddyn yw'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU. Mae oddeutu 16,000 o bobl yn marw o'r clefyd bob blwyddyn—900 yng Nghymru—gan ei wneud yn ail ganser mwyaf sy'n lladd. Mae'r gyfradd yn tyfu, ac amcangyfrifir rhwng nawr a 2035 y gallai tua 332,000 o fywydau ychwanegol gael eu colli i'r clefyd ledled y DU, ac ni ddylai hyn fod yn wir, gan ei fod yn glefyd y gellir ei atal, ei drin a hyd yn oed ei wella. Bydd naw o bob deg o bobl yn goroesi canser y coluddyn os ceir diagnosis ar y cam cynharaf.
Sgrinio yw'r dull mwyaf effeithiol o ganfod canser y coluddyn yn gynnar ac mae'n chwarae rôl allweddol yn gwella cyfraddau goroesi. Ledled y DU, mae rhaglenni sgrinio canser y coluddyn yn anfon pecyn prawf cartref i bawb rhwng 60 a 74 oed—a nodaf sylwadau David Melding yn gynharach, yn y cyd-destun hwnnw—bob dwy flynedd. Yn yr Alban, cânt eu hanfon hefyd at bobl yn eu 50au. Atgyfeiriad gan feddyg teulu yw'r llwybr y caiff y rhan fwyaf o bobl ddiagnosis o hyd. Mae atgyfeirio drwy ofal sylfaenol yn llwybr allweddol i ddiagnosis ar gyfer y rhai sy'n profi symptomau a allai fod yn ganser y coluddyn, ac ar gyfer rhai o dan yr oed a gwmpesir gan y rhaglen sgrinio. Dylid cyfeirio pobl sy'n profi symptomau am y profion diagnostig mwyaf dibynadwy a manwl sydd ar gael ar gyfer canser y coluddyn: colonosgopi a sigmoidosgopi hyblyg, sy'n gallu canfod canser ar gam cynharaf y clefyd. Er y gall rhaglenni ymwybyddiaeth iechyd cyhoeddus effeithiol hysbysu pobl am symptomau canser y coluddyn a'u hannog i ofyn am gyngor gan eu meddyg teulu, mae hefyd yn bwysig fod meddygon teulu yn gallu adnabod y symptomau hyn a chyfeirio'n briodol a phrydlon.
Fodd bynnag, gan fod symptomau canser y coluddyn yn gallu bod yn anodd gwneud diagnosis cywir ohonynt, a hefyd yn gallu bod yn symptomau cyflyrau'r coluddyn eraill llai difrifol a mwy cyffredin, gall fod yn anodd i feddygon teulu wybod pwy i'w hatgyfeirio a phryd. Gall hyn arwain at oedi cyn y gall cleifion gael gwasanaethau diagnostig ac mewn rhai achosion, rhaid i gleifion weld eu meddyg teulu fwy na phum gwaith cyn cael eu hatgyfeirio. Mae canllawiau NICE ar gyfer achosion lle y ceir amheuaeth o ganser, a ddiweddarwyd ym mis Gorffennaf 2017, ar gael i helpu meddygon teulu i wneud y penderfyniadau hyn. Maent yn argymell y dylid mabwysiadu'r prawf imiwnocemegol ysgarthion, neu FIT, mewn gofal sylfaenol i arwain atgyfeiriadau lle yr amheuir canser y coluddyn mewn pobl heb waedu rhefrol, sydd â symptomau heb eu hesbonio ond nad ydynt yn bodloni'r meini prawf ar gyfer llwybr atgyfeirio oherwydd amheuaeth o ganser. Gallai defnyddio FIT yn y modd hwn helpu meddygon teulu i nodi ac atgyfeirio'r cleifion cywir yn well ac yn gyflym a chanfod canser y coluddyn yn gynnar. Mae angen inni weld hyn yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru cyn 2019, ochr yn ochr â Lloegr a'r Alban, lle mae eisoes wedi'i dreialu ac yn cael ei ddefnyddio mewn rhai ardaloedd.
Mae'r adroddiad blynyddol ar ganser yn cydnabod mai'r berthynas wael rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd sy'n achosi llawer o'r oedi i gleifion canser. Mewn ymateb i hyn, cynhwysodd Llywodraeth Cymru ganfod ac atgyfeirio canser yn gynnar yn rhan o gontract meddygon teulu Cymru ar gyfer 2017-18. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i dimau gofal sylfaenol ddatblygu strategaethau i wella canfod a diagnosis cynnar. Dylai'r ymyriadau hyn gefnogi diagnosis cynharach i bobl â chanser mewn gofal sylfaenol, a gallent hefyd arwain at ostyngiad yn y galw am wasanaethau colonosgopi.
Cafodd Jackie Hill o Wrecsam ddiagnosis o ganser y coluddyn ar ôl sawl ymweliad â'i meddyg teulu. Dywedodd:
'cefais archwiliad gan fy meddyg teulu, ond ni lwyddodd i ganfod lwmp. Rhoddodd garthydd i mi a dweud wrthyf am ddychwelyd yn y flwyddyn newydd. Dychwelais a dywedais wrth fy meddyg teulu fy mod yn gwaedu rhagor hyd yn oed ac yn teimlo'n flinedig iawn. Daeth fy mhrawf gwaed yn ôl yn normal. Dychwelais eto dri mis yn ddiweddarach gan fod y gwaedu'n drwm iawn, ond dywedwyd wrthyf nad oedd unrhyw beth o'i le. Wyth mis ar ôl fy ymweliad cyntaf, dychwelais a chefais fy atgyfeirio i gael y camera er mwyn tawelu fy ofnau, ond ni chafodd canser ei ystyried unwaith gan fod y profion gwaed wedi dod yn ôl yn normal a dywedwyd wrthyf fy mod i'n rhy ifanc i gael canser. Ar un adeg, dywedodd fy meddyg teulu wrthyf: "A beth ydych chi ei eisiau yn yr apwyntiad brys hwn?" Cefais ddiagnosis o ganser cam 2 yn y pen draw. Yn naïf iawn, pan gefais y diagnosis, credwn y buaswn yn cael tynnu'r tiwmor ac yna'n dychwelyd i fywyd normal. Oherwydd canlyniadau fy nhriniaeth, rwy'n gyson yn pryderu am fynd allan o'r tŷ a sawl gwaith pan fyddaf yn barod i adael y tŷ rhaid i mi fynd i'r toiled. Y peth cyntaf sy'n mynd drwy fy meddwl pan af i unman yw ble mae'r toiledau ac a fyddant yn lân.'
Felly rhaid i Gymru wneud y defnydd gorau o sgrinio canser y coluddyn drwy ddefnyddio FIT ar y trothwy sensitifrwydd gorau, ehangu'r ystod oedran a chynyddu'r nifer sy'n cael eu sgrinio ar gyfer canser y coluddyn. Diolch.
Rydw i'n falch i groesawu'r ddadl yma, i ddweud y gwir, ac yn diolch am arweiniad Hefin David, sydd yn rhoi canser y coluddyn yn wirioneddol o dan y chwyddwydr. Hefyd, fel nifer ohonom ni, gan fod y canser yma mor gyffredin, mae profiad teuluol gennyf innau hefyd, gan i fy nhad a'm taid ddioddef o'r cyflwr yma dros y blynyddoedd. Fel yr ydym wedi ei glywed, mae yna her sylweddol i wneud y diagnosis. Mae'r symptomau, megis poenau yn y stumog, dolur rhydd, weithiau yn rhwym, pasio gwaed yn y carthion—mae'r symptomau hynny yn rhai cyffredin iawn. Petai meddygon teulu yn arallgyfeirio pawb efo'r symptomau hynny i'r ysbytai, byddai dim lle i wneud unrhyw waith arall o gwbl.
Felly, mae hanes oddi wrth y claf yn hanfodol bwysig. Mae angen rhywbeth yn yr hanes, neu yn hanes yr unigolyn, i bwyntio'r meddyg i gyfeiriad y diagnosis peryglus yma o ganser y coluddyn. Dyna grefft y meddyg teulu, gan gydnabod hefyd fod ambell ganser y coluddyn yn gyfan gwbl heb symptom o gwbl. Dyna bwysigrwydd rhaglen sgrinio. Er mor amherffaith yw e ar hyn o bryd—ac rydw i yn cefnogi y camau arloesol, fel rydym wedi ei glywed gan Mark Isherwood, sydd yn cael eu cymryd yn y maes i gael prawf llawer mwy dibynadwy a manwl. Felly, mae yna waith i'w wneud, ac mae angen ei wneud e ar frys. Dyna pam rwyf yn cefnogi'r ddadl ac yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma.
Gan ei bod ni yn wythnos codi ymwybyddiaeth o glefyd seliag yn ogystal, fel y gwnes i sôn yn gynharach, fe wnaf i hefyd sôn ychydig am hwnnw. Clefyd seliag ydy’r cyflwr yna lle mae’r corff yn adweithio yn anffafriol i brotin mewn gwenith, haidd, rhyg ac ambell fath o geirch. Y protin yna ydy glwten. Mae pawb yn meddwl taw clefyd digon di-nod, yn wir, ydy clefyd seliag, ac o aros ar y deiet arbenigol di-glwten, mae o yn hollol ddi-nod, oni bai am yr holl drafferth o sicrhau bod yr unigolyn yn osgoi glwten—glwten sydd mewn bara, pasta, blawd, pitsa, cacenni, bisgedi, grefi, bysedd pysgod hyd yn oed, selsig—mae’r rhestr yn gallu bod yn faith—ac unrhyw beth lle mae blawd yn cynnwys glwten yn bodoli.
Ond o beidio â gwneud diagnosis o glefyd seliag, sydd hefyd yn rhywbeth anodd ei wneud: eto, mae’r symptomau yn gyffredin iawn, fel blinder, poenau yn y stumog, dolur rhydd, yn enwedig ar ôl bwyta bara, ond ddim o anghenraid—nid o reidrwydd o gwbl—. Rydym wastad yn darllen yn y llyfrau am y symptomau ond, wrth gwrs, mae pawb yn wahanol o ran y ffordd y maen nhw’n cyflwyno eu hunain i’r meddyg teulu, a dyna grefft y meddyg. Ond o beidio â bod ar ddeiet di-glwten, pan mae clefyd seliag arnoch chi, mae yna berig o ddatblygu anemia, breuder yn yr esgyrn—osteoporosis—sgileffeithiau niwrolegol fel ataxia, a hefyd canser y coluddyn bach, a math o lymffoma yn y coluddyn. Ffactor o risg mewn datblygu canser yn y coluddion ydy clefyd seliag, a dyna’i bwysigrwydd, felly. Fel rydw i'n ei ddweud, rydym i gyd yn tueddu i edrych arno fe fel rhywbeth reit ddi-nod, ond o’i esgeuluso mae clefyd seliag yn gallu bod yn ddifrifol iawn, ac mae’n destun pryder ei bod yn aml yn cymryd blynyddoedd i gael y diagnosis yna. Cefnogwch y cynnig, felly. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i bob Aelod sy'n rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel yr amlygwyd gan y cynnig, mae canser y coluddyn yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un o bob 14 o ddynion ac un o bob 19 o fenywod yn datblygu'r canser yn ystod eu hoes. Mae bron i 16,000 o bobl yn marw o ganser y coluddyn yn y DU bob blwyddyn, a gellid atal llawer o'r marwolaethau hyn pe baem yn gallu gwneud diagnosis o'r clefyd yn gynharach. Mae gennym raglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed, ond dylem fod yn sgrinio pawb dros 50 oed. Mae llawer o bobl yn gwrthod gwneud y prawf oherwydd embaras neu oherwydd cymhlethdod y prawf cartref.
Diolch byth, ceir prawf sgrinio llawer symlach a chywirach, sef y prawf imiwnocemegol ysgarthion neu'r prawf FIT. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am FIT, am yr angen i'w gyflwyno yn gynharach, am yr angen i ostwng yr oedran ar gyfer cynnal profion ac yn bwysicach, yr angen i gyflwyno trothwy sensitifrwydd mwy cadarn yn wyddonol. Mae'r prawf FIT eisoes wedi'i gyflwyno yn yr Alban ac yn fuan dyna fydd y prawf safonol yn Lloegr. Yng Nghymru rydym yn gorfod aros am flwyddyn arall. Mae'r prawf yn symlach o lawer gan mai un sampl yn unig sydd ei angen ac mae'n llawer mwy cywir—neu fe fyddai pe na bai Llywodraeth Cymru wedi dewis gostwng y trothwy sensitifrwydd. Mae Cymru yn cael trothwy profi sy'n hanner yr hyn a argymhellir yn yr Alban ac sy'n is na'r hyn a argymhellir ar gyfer Lloegr. Dywedir wrthym mai'r rheswm am hyn yw oherwydd nad oes gennym gapasiti yn y gwasanaethau endosgopi ar gyfer cynnal profion dilynol. Faint o ganserau a gollir o ganlyniad? Faint o bobl fydd yn marw oherwydd ein bod wedi dewis y llwybr hawdd?
Wrth ymateb i'r ddadl hon, gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei gynllun ar gyfer cynyddu capasiti colonosgopi yng Nghymru, yn amlinellu'r camau y bydd ei Lywodraeth yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith o gynyddu sensitifrwydd y prawf FIT, ac yn amlinellu amserlen ar gyfer gostwng yr oedran sgrinio i 50. Mae sgrinio yn achub bywydau ac amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn eu 50au yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Fel y nododd Aelodau eraill, pan wneir diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, mae 90 y cant o gleifion yn goroesi, yn hytrach nag un o bob 10 yn unig pan wneir diagnosis yn ddiweddarach. Mae'n gwneud synnwyr i ostwng oedran sgrinio i 50, o gofio bod bron 95 y cant o'r achosion mewn pobl dros 50 oed.
Yn anffodus, yma yn y Siambr, rydym yn ymwybodol iawn y gall canser y coluddyn daro ar unrhyw oed—nid yw'n parchu oedran—gydag un o'n plith yn ymladd yr afiechyd, ac ar ôl colli aelod o staff, Sam Gould. Felly, rhaid inni gynyddu ymwybyddiaeth o'r symptomau oherwydd, fel y gwyddom, os caiff ei ddal yn gynnar, gellir trechu'r clefyd ofnadwy hwn.
Rydym hefyd yn gwybod bod cyflyrau genetig megis syndrom Lynch yn gallu cynyddu'r ffactor risg o ddatblygu canser y coluddyn. Dylai pob claf canser y coluddyn gael eu sgrinio ar gyfer syndrom Lynch a dylid cynnig sgrinio wedyn i aelodau'r teulu.
Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i wella sgrinio, i atal pobl rhag marw'n ddiangen am na chanfuwyd y clefyd tan yn rhy hwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.
Rwy'n falch o ychwanegu fy nghefnogaeth i'r cynnig hwn heddiw, a gobeithio y bydd y ddadl hon yn chwarae rhan fach yn y dasg bwysig o godi ymwybyddiaeth o faterion sy'n ymwneud â chanser y coluddyn—yn arbennig ymwybyddiaeth o'r symptomau, a phwysigrwydd hanfodol manteisio ar sgrinio, fel y mae cymaint o bobl eraill eisoes wedi sôn.
Pan ddechreuais edrych ar y mater hwn cefais fy nharo'n arbennig gan ffigurau niferoedd yr achosion o ganser y coluddyn yn llawer o gymunedau'r Cymoedd, gan gynnwys ym Merthyr Tudful a Rhymni. Er enghraifft, mae Bowel Cancer UK yn dweud bod y rhai sy'n byw yn ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn wynebu posibilrwydd sylweddol uwch o gael diagnosis o ganser y coluddyn na rhai sy'n byw yn ardal gyfagos bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro. Gwelir amrywiadau tebyg yn y patrwm hefyd ar lefel awdurdodau lleol.
Felly, yn amlwg mae hwn yn fater iechyd sydd o bwys mawr yn fy etholaeth, ac o'r herwydd, roeddwn am fanteisio ar y cyfle hwn i sôn am Chris Daniel ym Merthyr Tudful sydd wedi rhoi ei stori ar wefan Bowel Cancer UK. Mae Chris ar hyn o bryd yn cyflawni taith feicio rithwir 18,000 o filltiroedd o amgylch y byd er cof am ei wraig Rita. Credaf mai heddiw yw diwrnod 167 o'i daith, ac mae Chris newydd basio drwy'r Rockies yng Nghanada. Mewn gwirionedd, mae Chris wedi bod yn beicio tu mewn i Dŷ'r Cwmnïau, wrth iddo symud ei ymdrechion codi arian o gwmpas lleoliadau, ond yn rhyfeddol, drwy dechnoleg, mae ei daith rithwir yn cynnwys efelychiadau o holl natur y tir, gan gynnwys pob dringfa ar ei daith yn ogystal, ac mae ei fideos dyddiol yn awgrymu mai'r Rockies yw'r rhan anoddaf o'i daith hyd yma. Ond yn y broses, mae Chris yn codi arian ar gyfer Bowel Cancer UK, Canolfan Ganser Felindre, ac Ymchwil Canser Cymru—ymateb anhygoel i'r trychineb personol y bu'n rhaid i Chris ymdopi ag ef. Felly, hoffwn fanteisio ar y cyfle yn y ddadl hon i ddiolch i chi, Chris, am eich ymdrechion yn hyn o beth.
Gan fod hwn yn fater mor bwysig, ac oherwydd y straeon sy'n cael eu hadrodd gan bobl fel Chris, rwy'n ymuno â fy nghyd-Aelodau Vikki Howells a Lynne Neagle y dydd Gwener hwn, 18 Mai, mewn diwrnod o ymgyrchu ar y cyd â Bowel Cancer UK ar draws ein hetholaethau yn y Cymoedd er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth, mewn ymgais i helpu i drechu canser y coluddyn. Ein nod yw cefnogi'r elusennau Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer i godi proffil symptomau canser y coluddyn, gan fod gormod o bobl naill ai'n anymwybodol o'r symptomau, neu'n eu hanwybyddu. Mae'n fenter newydd i ni, lle rydym yn dod at ein gilydd i gynnal digwyddiadau i helpu'r elusen i gyflwyno eu negeseuon hollbwysig. Nid ymgyrchu gwleidyddol ydyw, ond defnyddio ein swyddi fel ACau i gynnal digwyddiadau ac i helpu i hyrwyddo'r negeseuon iechyd y cyhoedd. Yn ystod y dydd, byddwn yn cynnal digwyddiadau yn Aberdâr, yn Rhymni, ac yng Nghwmbrân, ac mae croeso i chi ymuno â ni. Gallwch gael manylion o fy swyddfa os oes gennych ddiddordeb. Mae hefyd yn dda gweld bod Lowri Griffiths o Bowel Cancer UK yn siarad â rhwydwaith busnes Martyrs yng Nghlwb Pêl-droed Tref Merthyr bore yfory, gan fod gan gyflogwyr hefyd rôl bwysig i'w chwarae yn helpu i ledaenu ymwybyddiaeth o'r mater hwn ymysg eu gweithwyr.
Felly, fel y dywedodd Hefin yn gynharach, gadewch i ni chwalu peth o'r tabŵ o'i amgylch a gadewch i ni siarad am y symptomau. Gadewch inni beidio â'i wisgo mewn iaith gwrtais: rydym yn sôn am waedu o'ch pen-ôl, rydym yn sôn am waed yn eich carthion, rydym yn sôn am newid parhaus ac anesboniadwy yn arferion eich coluddyn. I mi, mae yna neges bwysig i bawb: peidiwch â bod yn swil, gadewch inni siarad am garthion, yn llythrennol, a gadewch inni wneud yn siŵr fod pobl yn cymryd camau i edrych am symptomau canser y coluddyn. Yna, o ganlyniad, efallai y cawn fwy o bobl i gydnabod pwysigrwydd hanfodol sgrinio, oherwydd mae sgrinio'n syml, fel y clywsom eisoes. Gan fod Hefin eisoes wedi ei chwifio, fe wnaf fi ei chwifio hefyd—y pecynnau sydd ar gael yn hawdd. Mae pecynnau sgrinio ar gael yn rhwydd a chânt eu hanfon yn awtomatig at bawb dros 60 oed bob dwy flynedd hyd at 74 oed. Ac wrth gwrs rydym wedi clywed galwadau hefyd am ostwng yr oedran cychwyn ar gyfer sgrinio.
Felly, gadewch i bawb ohonom chwarae ein rhan i gynyddu gwybodaeth am y symptomau ac annog pobl i gael eu sgrinio. Gadewch i ni obeithio y gallwn chwarae ein rhan i atal mwy o bobl fel Rita, gwraig Chris, Sam Gould, Steffan Lewis, a'u teuluoedd, rhag gorfod mynd drwy hynt a helynt diagnosis, triniaeth, ac mewn rhai achosion, marwolaeth. Rwy'n mawr obeithio y bydd Steffan yn parhau i herio ei gyflwr, oherwydd mae pawb ohonom gyda chi—rwyf y tu ôl i chi gant y cant, gyfaill.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch hefyd i Hefin David ac Andrew R.T. Davies, a oedd yn gydnoddwyr y digwyddiad Tynnu Sylw at Ganser y Coluddyn yn y Senedd ar 6 Chwefror. Roedd y digwyddiad yn rhan o addewid i Sam Gould gan Bowel Cancer UK pan gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn. Ar y diwrnod hwn y llynedd, roedd Sam yn dal gyda ni. Ef oedd ein cyfaill a'n cydweithiwr a gweithiodd gyda ni yma yn y Cynulliad nes iddo fynd yn sâl. Bu farw ar ôl brwydr ddewr ond cyflym iawn yn erbyn canser y coluddyn. Rydym yn gweld ei golli bob dydd—esgusodwch fi.
Ni soniodd Sam am ei symptomau wrth ei gydweithwyr tan fis Mawrth y llynedd, ond ag yntau ond yn 33 oed, nid oedd ei feddyg teulu'n poeni'n ormodol gan ei fod yn llawer rhy ifanc i gael canser y coluddyn. Yn fuan iawn, roedd mewn gormod o boen, aeth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys a chafodd ei dderbyn i'r ysbyty a rhoddwyd diagnosis o ganser y coluddyn cam 4 iddo. Felly, nid oedd yn rhy ifanc o gwbl. Sam oedd ein cyfaill, ond roedd ac fe fydd bob amser yn fab annwyl i June a Tim, sy'n gwylio'r ddadl hon o'r oriel gyhoeddus heddiw, brawd Mim a Lizzie, gŵr i Caroline, a thad i Olivia, Louisa a Pippa. Rwy'n dweud eu henwau am nad ydym yn siarad yn haniaethol yma. Nid ynglŷn ag ystadegau, siartiau, tueddiadau neu rywun arall y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud â ni—ein bywydau, ein gwŷr, ein ffrindiau, ein mamau, ein plant, y bobl a garwn, y bobl yr ydym yn eu hadnabod a'r bobl rydym yma i'w gwasanaethu.
Mae pawb a gollir i ganser y coluddyn yn perthyn i rywun. Mae eu colli yn effeithio ar rywun—mae'n achosi'r loes mwyaf i rywun. Ond os caiff ei ddal yn ddigon cynnar, gall y canlyniadau fod yn dda. Rydym yn gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn codi ymwybyddiaeth bellach o ganser y coluddyn ac yn bwysicach na hynny, y bydd yn annog sgyrsiau mewn teuluoedd ac ymhlith ffrindiau am iechyd a lles yn gyffredinol.
Yr hyn rwyf am dynnu sylw ato'n benodol yma yw geneteg canser y coluddyn. Gall prawf cymharol syml a rhad ganfod syndrom Lynch. Rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn a mathau eraill o ganser yw hwn. Mae Cymru a'r DU wedi eu rhwymo gan ganllawiau diagnosteg DG27 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n ei gwneud yn ofynnol i brofi cleifion canser y coluddyn ar gyfer syndrom Lynch, ond nid ydym yn gwneud hynny.
Cyhoeddodd Bowel Cancer UK hyn ym mis Ebrill eleni, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn. Nid yw'r DU yn gwneud yn wych ar hyn, ond yng Nghymru ni chyflawnir unrhyw sgrinio o gwbl ar gyfer syndrom Lynch—dim o gwbl. Gwyddom o'r digwyddiad ar 6 Chwefror fod y gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig tu hwnt ynglŷn â'r sefyllfa hon. Maent yn cyfeirio at ddiffyg arweiniad a seilos cyllidebol y gwasanaeth iechyd. Ni chefais unrhyw ymateb gan Betsi Cadwaladr ynglŷn â hyn, ond rwy'n tybio yn ôl faint o negeseuon e-bost a ddaw gan etholwyr eu bod hwythau hefyd yn bryderus iawn.
Felly, nid oes unrhyw sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn digwydd yng Nghymru—dim o gwbl—er gwaethaf y gofynion a'r manteision clinigol, ariannol, economaidd a dynol amlwg o wneud hynny. Rwy'n ystyried bod hyn yn gywilyddus. Os oes gennych syndrom Lynch wedi'i gadarnhau, gallwch roi camau ataliol ar waith fel gofalu am eich deiet, ymarfer corff ac yn fwy perthnasol, cael sgrinio rheolaidd—mae'n gwbl amlwg.
Mae sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn costio £200, o'i gymharu â chost triniaeth ar gyfer canser y coluddyn mwy datblygedig, gyda'r amcangyfrifon oddeutu £25,000, heb sôn am y gost ddynol sy'n anfesuradwy. Crybwyllais enwau teulu Sam—mae ei fam a'i dad i fyny yno—a'i ferched yn gynharach am y rheswm hwn. Gwn nad ydynt wedi cael unrhyw sgrinio dilynol gan y GIG yng Nghymru—ni chynigwyd profion iddynt ar gyfer syndrom Lynch. Nid oes gennyf syniad pam nad yw GIG Cymru a chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb, yn gwneud i hyn ddigwydd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.
Rwy'n eich annog, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i ddangos rhywfaint o arweiniad yma o'r diwedd a gwneud i hyn ddigwydd. Fel rhan o'ch ateb i'r ddadl hon, buaswn yn gofyn yn benodol i chi ateb y cwestiwn hwn: a oes unrhyw unigolyn yng Nghymru wedi'i ddynodi ar gyfer cymryd cyfrifoldeb, a chael y gyllideb angenrheidiol i weithredu NICE DG27? Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n hapus i ymateb i'r ddadl heddiw, a agorwyd gan Hefin David, ac yn falch o nodi y bydd y Llywodraeth yn cefnogi'r cynnig. Ond yn benodol, rwyf am ddechrau drwy gydnabod yr effaith ddynol uniongyrchol a phrofiadau pobl sydd nid yn unig yn cymryd rhan yn y ddadl hon heddiw, ond sydd y tu allan yn gwylio, neu a fydd yn edrych arni wedyn—nid yn unig ynglŷn â'r effaith uniongyrchol yma ar bobl a oedd yn gweithio gyda Sam Gould, neu yn ei adnabod, neu'r rhai ohonom sy'n adnabod Steffan Lewis, ond fel y nododd Hefin David a Mark Isherwood, pobl y byddwn ni ein hunain wedi eu hadnabod sydd wedi cael canser y coluddyn.
Rydym hefyd yn croesawu'r adroddiad gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer. Mewn gwirionedd, mae gennym berthynas dda gydag elusennau canser Cymru a byddaf yn cyfarfod â hwy'n rheolaidd. Yn wir, cyfarfûm â Chynghrair Canser Cymru ddiwethaf ar 19 Ebrill, a buom yn trafod yr adroddiad yn y cyfarfod hwnnw a chyda nifer o grwpiau arweinyddiaeth y GIG, gan gynnwys y grŵp gweithredu ar ganser a'r grŵp gweithredu ym maes endosgopi. Ni ellir amau pwysigrwydd gwella canlyniadau canser y coluddyn na maint yr her sy'n wynebu ein gwasanaethau. Rydym yn dal i fod yn gwbl ymrwymedig i wella canlyniadau canser. Mae hynny'n amlwg yn ein cynllun cyflawni ar gyfer canser diweddaraf, a gyhoeddwyd gennym ym mis Tachwedd 2016, ac mae'r cynllun hwnnw'n cydnabod pwysigrwydd canfod canser yn gynnar, pwynt a wnaed gan nifer o'r Aelodau yn y ddadl heddiw.
Mae gan y grŵp gweithredu ar ganser raglen genedlaethol o'r enw darganfod canser yn gynnar, sy'n edrych ar fynediad at brofion diagnostig, ymwybyddiaeth o symptomau a niferoedd sy'n ymgymryd â sgrinio. Mae'r grŵp yn ariannu dau dreial yn ne Cymru, i gynnwys byrddau iechyd Cwm Taf a Phrifysgol Abertawe Bro Morgannwg, gyda'r nod o ganfod canserau cam cynnar sydd fel arfer yn ymddangos mewn symptomau mwy anodd i'w canfod.
Mae'r llwybr symptomau amwys, a drafodwyd gennym o'r blaen mewn ateb i gwestiwn gan Hefin David, hanner ffordd drwy brawf dwy flynedd ac mae'n cael ei ddarparu ar sail un stop. Credaf y bydd hynny'n sicr yn rhoi llawer o ddysgu i ni ei ddatblygu a'i weithredu ar draws system gyfan, ac yn bendant dylai arwain at fwy o ganfod cynnar, ac yn amlwg, dylai hynny arwain at well canlyniadau i bobl.
Ond wrth gwrs, mae llawer o'r ddadl heddiw wedi canolbwyntio ar sgrinio poblogaeth, sy'n elfen graidd yn ein hymdrechion i ganfod yn gynnar. Mae ein rhaglen sgrinio'r coluddyn yng Nghymru bellach wedi bod ar waith ers 10 mlynedd. Anfonir pecyn sgrinio at ddynion a menywod 60 oed bob dwy flynedd tan eu bod yn 74 oed. Daw'r ystod oedran a ddefnyddiwn, a pheidio â pharhau i sgrinio bobl dros 74 oed, o ganlyniad i gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru er enghraifft, ond yn arbennig, Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y Deyrnas Unedig, sy'n rhoi cyngor i'r pedair gwlad yn y DU ynglŷn â ble i gael y budd mwyaf a chanfod yn gynnar er mwyn osgoi marwolaeth gynamserol.
Mae'r pecyn presennol, fel y dywedwyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol i bobl gasglu samplau lluosog i'w dychwelyd at Sgrinio Coluddion Cymru ar gyfer eu dadansoddi. Yn 2016-17, sgriniwyd mwy na 280,000 o bobl yn rhan o'r rhaglen honno, a nododd fod mwy na 1,600 o bobl angen archwiliad dilynol, ac yn y pen draw nododd fod canser y coluddyn ar 216 o bobl. Ond fel y dywedwyd yn y ddadl hon, mae'r niferoedd hynny'n dangos mai yn 53.4 y cant o'r boblogaeth gymwys yn unig a ddychwelodd becyn yn 2016-17. Ein blaenoriaeth oedd cynyddu'r nifer honno, gan fod y dystiolaeth yn dangos y bydd y manteision yn gorbwyso'r risgiau ar lefel y boblogaeth ar gyfer yr ystod oedran hwn.
Mae yna ran anodd yma, oherwydd ni allwch anwybyddu effaith ddynol yr hyn sy'n digwydd, ond rhaid inni wneud dewisiadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth am y boblogaeth gyfan a sgrinio poblogaeth-gyfan. Dyna pam y byddwn yn parhau i ddilyn y cyngor gorau sydd ar gael i ni. Ond yn blwmp ac yn blaen, nid yw'r prawf presennol o reidrwydd yn brawf poblogaidd iawn nac yn un hawdd i'w wneud. Fe soniaf am brawf newydd yn y man.
Mae'r pwynt am syndrom Lynch wedi'i grybwyll fwy nag unwaith, ac yn 2017, cyflwynodd NICE ganllawiau newydd a argymhellai y dylai pob claf canser y coluddyn gael ei brofi wrth gael diagnosis. Nawr, roeddem yn meddwl i ddechrau y gallem wneud hynny drwy wasanaeth wedi'i gomisiynu'n arbennig ond ni fu hynny'n bosibl, felly, yn dilyn cyngor a thrafodaeth gyda rhwydwaith canser Cymru, rydym yn edrych ar y ffordd orau o weithredu'r canllaw. Ar hyn o bryd caiff ei gomisiynu drwy Wasanaeth Geneteg Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Wrth newid i symud y tu hwnt i hynny, rydym yn edrych ar argymhellion a roddwyd ar ei weithrediad a gafwyd gan rwydwaith canser Cymru a bydd y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd yn trafod hynny yn awr gyda byrddau iechyd a'r rhwydwaith patholeg sy'n bodoli. Felly, bydd gennym fwy i'w ddweud ynglŷn â sut y byddwn yn gwneud rhagor i gyflawni'r canllaw NICE.
Ond wrth gwrs, mater i unigolion yw derbyn y cynnig i sgrinio. Mae'n fater o ddewis. Ni allwn orfodi pobl i wneud hynny. Rydym yn cydnabod, fel rwy'n dweud, fod anymarferoldeb y prawf presennol yn datgymell rhai pobl, ond rwy'n croesawu'r gwaith a nododd Dawn Bowden yn ei chyfraniad—nid yn unig ynglŷn â'r gydnabyddiaeth gan eraill fod yna wahaniaethau economaidd-gymdeithasol yn y nifer sy'n cael eu sgrinio, ond hefyd yr angen i geisio codi ymwybyddiaeth o symptomau ac annog pobl i wneud y prawf. Felly, ysgogiad cadarnhaol iawn i Dawn Bowden, ynghyd â Vikki Howells a Lynne Neagle, ymgyrchu ar y mater hwn.
Dylem weld gwahaniaeth go iawn yn Ionawr 2019 pan fyddwn yn cyflwyno'r prawf imiwnogemegol ysgarthion newydd, neu'r prawf sgrinio FIT. Un sampl yn unig sydd angen ei gymryd ar gyfer y prawf ac mae treialon wedi gweld cynnydd o 5 i 10 y cant yn nifer y bobl sy'n ei ddefnyddio, sy'n welliant sylweddol a chadarnhaol. Yn ogystal â bod yn hawdd i'w ddefnyddio, fel sydd wedi'i ddweud heddiw, mae'r prawf yn fwy cywir yn ogystal. Mae angen ystyried y trothwy sensitifrwydd ar gyfer y prawf yn ofalus. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru, trwy fodelu gofalus, wedi ein cyghori y dylai'r trothwy yng Nghymru fod yn 150 mg y gram i ddechrau, ac ar y trothwy arfaethedig hwnnw, y cyngor yw bod y prawf yn fwy sensitif a bydd yn nodi mwy o ganserau o ganlyniad.
Rydym yn bwriadu cynyddu sensitifrwydd y prawf dros amser yn unol ag ehangu parhaus y gwasanaethau diagnostig a gwasanaethau triniaeth, a byddwn yn gwneud hynny mewn modd diogel a chynaliadwy, gan weithredu ar gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a byrddau iechyd, oherwydd ni fyddai profi pobl a'u cyfeirio at wasanaeth nad yw'n barod i'w gweld o werth yn y byd. Mae gwasanaethau iechyd eraill, mewn gwirionedd, wedi rhoi eu hunain mewn sefyllfa anodd a bellach yn gorfod lleihau sensitifrwydd y prawf am nad yw eu gwasanaethau dilynol yn eu lle, ac mewn perthynas â gostwng yr oedran sgrinio, rydym wedi ymrwymo i ostwng yr ystod oedran yn unol â chyngor gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny. Byddwn yn gwneud hynny'n raddol dros amser. Ond fel gyda chyflwyno FIT, bydd cynyddu'r ystod oedran yn cynyddu'r galw am wasanaethau eraill, ac mae angen inni sicrhau bod byrddau iechyd yn gallu rheoli'r galw ychwanegol hwnnw mewn ffordd ddiogel a chynaliadwy. Yn y cyfamser, rhaid i'n ffocws fod ar wella'r nifer sy'n cael eu sgrinio o blith y grŵp presennol o bobl sydd gennym sy'n wynebu'r risg mwyaf o ddatblygu canser y coluddyn.
Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd i wella capasiti colonosgopi fel y gall gwelliannau ddigwydd yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, ac mae'r grŵp gweithredu ym maes endosgopi, grŵp arweinyddiaeth cenedlaethol, yn gweithio ar yr union fater hwnnw. Mae hynny wedi cael sylw ychwanegol ym mis Ionawr gan y bwrdd gweithredol cenedlaethol, gydag argymhellion i'w dychwelyd y mis nesaf.
Rwy'n cydnabod bod angen inni gael hyn yn iawn, ac mae'n ymwneud â mwy na chapasiti sgrinio, ond y—[Anhyglywadwy.]—llawer mwy sy'n ymwneud â phobl yr amheuir bod canser arnynt, cleifion dan wyliadwriaeth ar gyfer canser, yn ogystal â rhai eraill, megis clefyd llid y coluddyn. Bydd mynd i'r afael â'r mater hwn yn galw am ffocws sylweddol gan fyrddau iechyd ar gynhyrchiant, trefniadau gweithlu a modelau gwasanaeth, ac yn gynyddol, mae penodi endosgopegwyr anfeddygol yn helpu i leddfu pwysau yn y system.
Hefyd—cyn i mi orffen, Ddirprwy Lywydd—mae yna botensial pwysig y gellir defnyddio'r FIT fel ffordd ddiogel o frysbennu atgyfeiriadau at golonosgopeg, ac mae nifer o fyrddau iechyd wrthi'n ystyried hyn, a gallai leihau'n sylweddol, mewn ffordd ddiogel, yr atgyfeiriadau a wnaed at wasanaethau i'w galluogi i ateb y galw a sgrinio cleifion allanol yn well. Edrychaf ymlaen at adrodd yn ôl ar y cynnydd a wnawn yng Nghymru ar gyflawni'r nodau a'r amcanion a amlinellwyd yn y cynnig heddiw.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i ymateb i'r ddadl? Rhun.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma prynhawn yma. Rydw i'n hynod o falch ein bod ni wedi cael y cyfle i roi hyn ar agenda y Cynulliad y prynhawn yma. Mae cyfres o gyfranwyr ar draws y pleidiau gwleidyddol wedi disgrifio yn glir iawn yr angen i sicrhau diagnosis cynnar, y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth, yr angen i gydnabod a dathlu rhagoriaeth ein staff, sydd yn gwneud popeth y gallan nhw o fewn ein gwasanaeth iechyd ni yn y maes yma, ac wedi pwysleisio, wrth gwrs, y rôl gwbl allweddol y mae sgrinio yn gallu chwarae wrth daclo'r canser yma, un o'r mathau mwyaf creulon o ganser, sy'n cymryd mwy o fywydau yng Nghymru na bron bob canser arall. Ond rydym ni i gyd yn credu—ac rydych chi wedi ein clywed ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet—bod modd gwneud mwy.
Mae'r cynnig, a'r holl siaradwyr, wedi adlewyrchu pwysigrwydd diagnosis cynnar, pa un a yw'n dod o sgrinio neu gael pobl wedi'u hatgyfeirio ar gyfer eu profi yn llawer cyflymach o ganlyniad i symptomau y soniant amdanynt wrth feddyg teulu, ac mae'r ddau lwybr hwnnw i ddiagnosis a chael mwy o bobl ar y ffordd honno i ddiagnosis yn mynd i fod yn rhan hanfodol bwysig o'r modd y gwellwn gyfraddau goroesi. Credaf fod angen rhywfaint o newid diwylliant gan y cyhoedd yma a'r Llywodraeth a'n gwasanaeth iechyd. Mae'r cyhoedd yn deall bod angen iddynt fanteisio ar y cyfleoedd sgrinio—rydych yn llygad eich lle, Ysgrifennydd y Cabinet, i nodi bod hyn yn wirfoddol. Dylwn gael fy ngheryddu ar y pwynt hwn gan Dawn Bowden am anghofio dod â fy mhecyn profi i lawr i Siambr y Cynulliad gyda mi heddiw; mae i fyny'r grisiau yn fy mag. Ond rhaid inni fod yn barod ac yn awyddus i siarad am y materion hyn, a phan gawn gyfleoedd i archwilio ein hiechyd, dylem fachu'r cyfleoedd hynny â'r ddwy law, ni waeth pa mor annifyr neu anodd y gallai fod inni siarad am y materion hynny.
Hefyd, mae angen i'r cyhoedd ddeall bod rhaid iddynt fynd i weld eu meddyg teulu yn gynharach pan fyddant yn profi symptomau—ac nid osgoi embaras unwaith eto. Ac mae angen i'r Llywodraeth hefyd ddeall y gall ymgyrchoedd llawn bwriadau da yn gofyn i bobl osgoi mynd at y meddyg teulu oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol fod yn wrthgynhyrchiol; mae'n rhywbeth rwyf wedi rhybuddio yn ei gylch yn y gorffennol. A bydd y newidiadau hynny yn anorfod yn arwain at bwysau cynyddol ar ofal sylfaenol, mwy o bwysau ar gapasiti diagnostig, ond yn nhermau'r gyllideb, nid oes gennyf amheuaeth o gwbl y bydd arbedion o ymyrryd yn gynnar lawer yn fwy na'r costau. Ac o roi'r gost ariannol o'r neilltu, wrth gwrs, mae'n ddyletswydd arnom i'r rhai y mae canser y coluddyn yn realiti iddynt ein bod yn rhoi'r cyfle gorau posibl iddynt. Rydym wedi clywed enw Sam Gould yn cael ei grybwyll ar sawl achlysur; rydym yn meddwl am Steffan Lewis y prynhawn yma.
Steffan, rydym ni'n meddwl amdanat ti ac yn anfon cryfder i ti. Mi fyddwn ni yno ar 14 Gorffennaf yn cerdded yng Nghwmcarn, yn codi arian i ysbyty Felindre.
Byddwn yn dangos ein cefnogaeth ar 14 Gorffennaf yn y daith gerdded i godi arian i Felindre yn eich enw chi, Steffan.
Ond, wyddoch chi, ni allwn fynd i'r afael â'r materion sy'n cael sylw gennym heddiw ar gyflymder cerdded; rhaid inni fynd benben â chanser y coluddyn. Ein neges i'r Llywodraeth—rwy'n credu ein bod wedi ei gwneud yn glir: gostwng yr oedran sgrinio, rhoi cyfle i fwy o bobl gael diagnosis cynnar, mynd ati ag egni newydd i oresgyn yr heriau mewn endosgopi, mewn colonosgopi a phatholeg, yr holl rannau o'r system ddiagnostig sydd angen eu cryfhau, a phrofi i ni bob amser eich bod yn cadw sensitifrwydd y prawf FIT newydd o dan arolwg pan gaiff ei gyflwyno y flwyddyn nesaf.
Mae canser y coluddyn wedi cael y llaw uchaf ers llawer gormod o amser; mae'n bryd inni ymladd yn ôl.
Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbyniwyd y cynnig.