Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 16 Mai 2018.
Mae'n ddiddorol mai hanner y bobl gymwys yn unig sy'n cael eu sgrinio, ond rwyf hefyd wedi cael etholwr sydd wedi cael ei sgrinio'n rheolaidd, neu wedi gwneud y prawf sgrinio, ac yna, yn 75 oed, mae'n dod i ben, ac mewn gwirionedd mae'n achosi llawer iawn o bryder. Tybed a oes unrhyw dystiolaeth yn dod i'r amlwg fod parhau i sgrinio y tu hwnt i 75 yn fuddiol hefyd.