Part of the debate – Senedd Cymru am 4:55 pm ar 16 Mai 2018.
Rydw i'n falch i groesawu'r ddadl yma, i ddweud y gwir, ac yn diolch am arweiniad Hefin David, sydd yn rhoi canser y coluddyn yn wirioneddol o dan y chwyddwydr. Hefyd, fel nifer ohonom ni, gan fod y canser yma mor gyffredin, mae profiad teuluol gennyf innau hefyd, gan i fy nhad a'm taid ddioddef o'r cyflwr yma dros y blynyddoedd. Fel yr ydym wedi ei glywed, mae yna her sylweddol i wneud y diagnosis. Mae'r symptomau, megis poenau yn y stumog, dolur rhydd, weithiau yn rhwym, pasio gwaed yn y carthion—mae'r symptomau hynny yn rhai cyffredin iawn. Petai meddygon teulu yn arallgyfeirio pawb efo'r symptomau hynny i'r ysbytai, byddai dim lle i wneud unrhyw waith arall o gwbl.
Felly, mae hanes oddi wrth y claf yn hanfodol bwysig. Mae angen rhywbeth yn yr hanes, neu yn hanes yr unigolyn, i bwyntio'r meddyg i gyfeiriad y diagnosis peryglus yma o ganser y coluddyn. Dyna grefft y meddyg teulu, gan gydnabod hefyd fod ambell ganser y coluddyn yn gyfan gwbl heb symptom o gwbl. Dyna bwysigrwydd rhaglen sgrinio. Er mor amherffaith yw e ar hyn o bryd—ac rydw i yn cefnogi y camau arloesol, fel rydym wedi ei glywed gan Mark Isherwood, sydd yn cael eu cymryd yn y maes i gael prawf llawer mwy dibynadwy a manwl. Felly, mae yna waith i'w wneud, ac mae angen ei wneud e ar frys. Dyna pam rwyf yn cefnogi'r ddadl ac yn cefnogi'r cynnig y prynhawn yma.
Gan ei bod ni yn wythnos codi ymwybyddiaeth o glefyd seliag yn ogystal, fel y gwnes i sôn yn gynharach, fe wnaf i hefyd sôn ychydig am hwnnw. Clefyd seliag ydy’r cyflwr yna lle mae’r corff yn adweithio yn anffafriol i brotin mewn gwenith, haidd, rhyg ac ambell fath o geirch. Y protin yna ydy glwten. Mae pawb yn meddwl taw clefyd digon di-nod, yn wir, ydy clefyd seliag, ac o aros ar y deiet arbenigol di-glwten, mae o yn hollol ddi-nod, oni bai am yr holl drafferth o sicrhau bod yr unigolyn yn osgoi glwten—glwten sydd mewn bara, pasta, blawd, pitsa, cacenni, bisgedi, grefi, bysedd pysgod hyd yn oed, selsig—mae’r rhestr yn gallu bod yn faith—ac unrhyw beth lle mae blawd yn cynnwys glwten yn bodoli.
Ond o beidio â gwneud diagnosis o glefyd seliag, sydd hefyd yn rhywbeth anodd ei wneud: eto, mae’r symptomau yn gyffredin iawn, fel blinder, poenau yn y stumog, dolur rhydd, yn enwedig ar ôl bwyta bara, ond ddim o anghenraid—nid o reidrwydd o gwbl—. Rydym wastad yn darllen yn y llyfrau am y symptomau ond, wrth gwrs, mae pawb yn wahanol o ran y ffordd y maen nhw’n cyflwyno eu hunain i’r meddyg teulu, a dyna grefft y meddyg. Ond o beidio â bod ar ddeiet di-glwten, pan mae clefyd seliag arnoch chi, mae yna berig o ddatblygu anemia, breuder yn yr esgyrn—osteoporosis—sgileffeithiau niwrolegol fel ataxia, a hefyd canser y coluddyn bach, a math o lymffoma yn y coluddyn. Ffactor o risg mewn datblygu canser yn y coluddion ydy clefyd seliag, a dyna’i bwysigrwydd, felly. Fel rydw i'n ei ddweud, rydym i gyd yn tueddu i edrych arno fe fel rhywbeth reit ddi-nod, ond o’i esgeuluso mae clefyd seliag yn gallu bod yn ddifrifol iawn, ac mae’n destun pryder ei bod yn aml yn cymryd blynyddoedd i gael y diagnosis yna. Cefnogwch y cynnig, felly. Diolch yn fawr.