Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 16 Mai 2018.
Hoffwn ddiolch i bob Aelod sy'n rhan o gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Fel yr amlygwyd gan y cynnig, mae canser y coluddyn yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Dyma'r pedwerydd canser mwyaf cyffredin yn y DU, gydag un o bob 14 o ddynion ac un o bob 19 o fenywod yn datblygu'r canser yn ystod eu hoes. Mae bron i 16,000 o bobl yn marw o ganser y coluddyn yn y DU bob blwyddyn, a gellid atal llawer o'r marwolaethau hyn pe baem yn gallu gwneud diagnosis o'r clefyd yn gynharach. Mae gennym raglen sgrinio ar gyfer canser y coluddyn i ddynion a menywod rhwng 60 a 74 oed, ond dylem fod yn sgrinio pawb dros 50 oed. Mae llawer o bobl yn gwrthod gwneud y prawf oherwydd embaras neu oherwydd cymhlethdod y prawf cartref.
Diolch byth, ceir prawf sgrinio llawer symlach a chywirach, sef y prawf imiwnocemegol ysgarthion neu'r prawf FIT. Rwyf wedi siarad droeon yn y Siambr hon am FIT, am yr angen i'w gyflwyno yn gynharach, am yr angen i ostwng yr oedran ar gyfer cynnal profion ac yn bwysicach, yr angen i gyflwyno trothwy sensitifrwydd mwy cadarn yn wyddonol. Mae'r prawf FIT eisoes wedi'i gyflwyno yn yr Alban ac yn fuan dyna fydd y prawf safonol yn Lloegr. Yng Nghymru rydym yn gorfod aros am flwyddyn arall. Mae'r prawf yn symlach o lawer gan mai un sampl yn unig sydd ei angen ac mae'n llawer mwy cywir—neu fe fyddai pe na bai Llywodraeth Cymru wedi dewis gostwng y trothwy sensitifrwydd. Mae Cymru yn cael trothwy profi sy'n hanner yr hyn a argymhellir yn yr Alban ac sy'n is na'r hyn a argymhellir ar gyfer Lloegr. Dywedir wrthym mai'r rheswm am hyn yw oherwydd nad oes gennym gapasiti yn y gwasanaethau endosgopi ar gyfer cynnal profion dilynol. Faint o ganserau a gollir o ganlyniad? Faint o bobl fydd yn marw oherwydd ein bod wedi dewis y llwybr hawdd?
Wrth ymateb i'r ddadl hon, gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn amlinellu ei gynllun ar gyfer cynyddu capasiti colonosgopi yng Nghymru, yn amlinellu'r camau y bydd ei Lywodraeth yn eu cymryd i gyflymu'r gwaith o gynyddu sensitifrwydd y prawf FIT, ac yn amlinellu amserlen ar gyfer gostwng yr oedran sgrinio i 50. Mae sgrinio yn achub bywydau ac amcangyfrifir bod oddeutu 6,000 o bobl yn eu 50au yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob blwyddyn. Fel y nododd Aelodau eraill, pan wneir diagnosis cynnar o ganser y coluddyn, mae 90 y cant o gleifion yn goroesi, yn hytrach nag un o bob 10 yn unig pan wneir diagnosis yn ddiweddarach. Mae'n gwneud synnwyr i ostwng oedran sgrinio i 50, o gofio bod bron 95 y cant o'r achosion mewn pobl dros 50 oed.
Yn anffodus, yma yn y Siambr, rydym yn ymwybodol iawn y gall canser y coluddyn daro ar unrhyw oed—nid yw'n parchu oedran—gydag un o'n plith yn ymladd yr afiechyd, ac ar ôl colli aelod o staff, Sam Gould. Felly, rhaid inni gynyddu ymwybyddiaeth o'r symptomau oherwydd, fel y gwyddom, os caiff ei ddal yn gynnar, gellir trechu'r clefyd ofnadwy hwn.
Rydym hefyd yn gwybod bod cyflyrau genetig megis syndrom Lynch yn gallu cynyddu'r ffactor risg o ddatblygu canser y coluddyn. Dylai pob claf canser y coluddyn gael eu sgrinio ar gyfer syndrom Lynch a dylid cynnig sgrinio wedyn i aelodau'r teulu.
Rwy'n annog Llywodraeth Cymru i wneud popeth yn ei gallu i wella sgrinio, i atal pobl rhag marw'n ddiangen am na chanfuwyd y clefyd tan yn rhy hwyr. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn. Diolch.