8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:08 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 5:08, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r Aelodau eraill sydd wedi cydgyflwyno'r cynnig hwn heddiw, a diolch hefyd i Hefin David ac Andrew R.T. Davies, a oedd yn gydnoddwyr y digwyddiad Tynnu Sylw at Ganser y Coluddyn yn y Senedd ar 6 Chwefror. Roedd y digwyddiad yn rhan o addewid i Sam Gould gan Bowel Cancer UK pan gafodd ddiagnosis o ganser y coluddyn. Ar y diwrnod hwn y llynedd, roedd Sam yn dal gyda ni. Ef oedd ein cyfaill a'n cydweithiwr a gweithiodd gyda ni yma yn y Cynulliad nes iddo fynd yn sâl. Bu farw ar ôl brwydr ddewr ond cyflym iawn yn erbyn canser y coluddyn. Rydym yn gweld ei golli bob dydd—esgusodwch fi.

Ni soniodd Sam am ei symptomau wrth ei gydweithwyr tan fis Mawrth y llynedd, ond ag yntau ond yn 33 oed, nid oedd ei feddyg teulu'n poeni'n ormodol gan ei fod yn llawer rhy ifanc i gael canser y coluddyn. Yn fuan iawn, roedd mewn gormod o boen, aeth i'r adran ddamweiniau ac achosion brys a chafodd ei dderbyn i'r ysbyty a rhoddwyd diagnosis o ganser y coluddyn cam 4 iddo. Felly, nid oedd yn rhy ifanc o gwbl. Sam oedd ein cyfaill, ond roedd ac fe fydd bob amser yn fab annwyl i June a Tim, sy'n gwylio'r ddadl hon o'r oriel gyhoeddus heddiw, brawd Mim a Lizzie, gŵr i Caroline, a thad i Olivia, Louisa a Pippa. Rwy'n dweud eu henwau am nad ydym yn siarad yn haniaethol yma. Nid ynglŷn ag ystadegau, siartiau, tueddiadau neu rywun arall y mae hyn. Mae hyn yn ymwneud â ni—ein bywydau, ein gwŷr, ein ffrindiau, ein mamau, ein plant, y bobl a garwn, y bobl yr ydym yn eu hadnabod a'r bobl rydym yma i'w gwasanaethu.

Mae pawb a gollir i ganser y coluddyn yn perthyn i rywun. Mae eu colli yn effeithio ar rywun—mae'n achosi'r loes mwyaf i rywun. Ond os caiff ei ddal yn ddigon cynnar, gall y canlyniadau fod yn dda. Rydym yn gobeithio y bydd y ddadl hon heddiw yn codi ymwybyddiaeth bellach o ganser y coluddyn ac yn bwysicach na hynny, y bydd yn annog sgyrsiau mewn teuluoedd ac ymhlith ffrindiau am iechyd a lles yn gyffredinol.

Yr hyn rwyf am dynnu sylw ato'n benodol yma yw geneteg canser y coluddyn. Gall prawf cymharol syml a rhad ganfod syndrom Lynch. Rhagdueddiad genetig i ganser y coluddyn a mathau eraill o ganser yw hwn. Mae Cymru a'r DU wedi eu rhwymo gan ganllawiau diagnosteg DG27 y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, sy'n ei gwneud yn ofynnol i brofi cleifion canser y coluddyn ar gyfer syndrom Lynch, ond nid ydym yn gwneud hynny.

Cyhoeddodd Bowel Cancer UK hyn ym mis Ebrill eleni, yn ystod Mis Ymwybyddiaeth o Ganser y Coluddyn. Nid yw'r DU yn gwneud yn wych ar hyn, ond yng Nghymru ni chyflawnir unrhyw sgrinio o gwbl ar gyfer syndrom Lynch—dim o gwbl. Gwyddom o'r digwyddiad ar 6 Chwefror fod y gweithwyr proffesiynol yn teimlo'n rhwystredig tu hwnt ynglŷn â'r sefyllfa hon. Maent yn cyfeirio at ddiffyg arweiniad a seilos cyllidebol y gwasanaeth iechyd. Ni chefais unrhyw ymateb gan Betsi Cadwaladr ynglŷn â hyn, ond rwy'n tybio yn ôl faint o negeseuon e-bost a ddaw gan etholwyr eu bod hwythau hefyd yn bryderus iawn.

Felly, nid oes unrhyw sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn digwydd yng Nghymru—dim o gwbl—er gwaethaf y gofynion a'r manteision clinigol, ariannol, economaidd a dynol amlwg o wneud hynny. Rwy'n ystyried bod hyn yn gywilyddus. Os oes gennych syndrom Lynch wedi'i gadarnhau, gallwch roi camau ataliol ar waith fel gofalu am eich deiet, ymarfer corff ac yn fwy perthnasol, cael sgrinio rheolaidd—mae'n gwbl amlwg.

Mae sgrinio ar gyfer syndrom Lynch yn costio £200, o'i gymharu â chost triniaeth ar gyfer canser y coluddyn mwy datblygedig, gyda'r amcangyfrifon oddeutu £25,000, heb sôn am y gost ddynol sy'n anfesuradwy. Crybwyllais enwau teulu Sam—mae ei fam a'i dad i fyny yno—a'i ferched yn gynharach am y rheswm hwn. Gwn nad ydynt wedi cael unrhyw sgrinio dilynol gan y GIG yng Nghymru—ni chynigwyd profion iddynt ar gyfer syndrom Lynch. Nid oes gennyf syniad pam nad yw GIG Cymru a chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet sydd â chyfrifoldeb, yn gwneud i hyn ddigwydd. Nid yw'n gwneud unrhyw synnwyr.

Rwy'n eich annog, fel Ysgrifennydd y Cabinet, i ddangos rhywfaint o arweiniad yma o'r diwedd a gwneud i hyn ddigwydd. Fel rhan o'ch ateb i'r ddadl hon, buaswn yn gofyn yn benodol i chi ateb y cwestiwn hwn: a oes unrhyw unigolyn yng Nghymru wedi'i ddynodi ar gyfer cymryd cyfrifoldeb, a chael y gyllideb angenrheidiol i weithredu NICE DG27? Diolch yn fawr iawn.