8. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Canser y coluddyn

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 16 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:26, 16 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Byddwn yn dangos ein cefnogaeth ar 14 Gorffennaf yn y daith gerdded i godi arian i Felindre yn eich enw chi, Steffan.

Ond, wyddoch chi, ni allwn fynd i'r afael â'r materion sy'n cael sylw gennym heddiw ar gyflymder cerdded; rhaid inni fynd benben â chanser y coluddyn. Ein neges i'r Llywodraeth—rwy'n credu ein bod wedi ei gwneud yn glir: gostwng yr oedran sgrinio, rhoi cyfle i fwy o bobl gael diagnosis cynnar, mynd ati ag egni newydd i oresgyn yr heriau mewn endosgopi, mewn colonosgopi a phatholeg, yr holl rannau o'r system ddiagnostig sydd angen eu cryfhau, a phrofi i ni bob amser eich bod yn cadw sensitifrwydd y prawf FIT newydd o dan arolwg pan gaiff ei gyflwyno y flwyddyn nesaf.

Mae canser y coluddyn wedi cael y llaw uchaf ers llawer gormod o amser; mae'n bryd inni ymladd yn ôl.