Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch. Mae tlodi plant yn bla ar ein gwlad. Nid wyf yn mynd i roi siwgr ar y bilsen i unrhyw un yma heddiw, ac nid wyf yn mynd i geisio camarwain neb ynglŷn â'i achos na'i effeithiau. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi agor y ddadl hon heddiw mewn gwirionedd, i drafod yr un sgandal o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru, tlodi sydd ond wedi gwaethygu yn ystod y degawd diwethaf. Yn syml, mae plant yn byw mewn tlodi pan fo'u haelwyd yn ennill llai na 60 y cant o'r enillion canolrifol. Felly, mewn gwirionedd, tlodi oedolion sydd â phlant dibynnol yw tlodi plant. Mae'n broblem gymdeithasol a hefyd yn broblem economaidd ddofn a strwythurol y mae llawer o gymunedau yng Nghymru wedi'i hwynebu ers degawdau. Rydym yn gwybod llawer o'r ystadegau, ac nid wyf am eu hailadrodd yma heddiw, gan y bydd fy nghyd-Aelodau hefyd yn amlinellu'r rheini'n fwy manwl, ond dengys y ffigurau llinell uchaf yn glir iawn pa mor enbyd yw'r sefyllfa sy'n wynebu'r genhedlaeth nesaf yng Nghymru.
O'r 600,000 o blant yng Nghymru, mae un o bob tri—200,000—yn byw mewn tlodi; mae 90,000 yn byw mewn tlodi difrifol. Mae dros hanner y plant mewn teuluoedd incwm isel yn poeni sut y mae eu rhieni'n mynd i dalu am hanfodion sylfaenol. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod wynebu'r math hwnnw o straen. Ac yn anffodus, nid yw'r sefyllfa'n gwella dim, gyda'r Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn rhybuddio, erbyn 2021, y bydd tlodi plant yn cynyddu 7 pwynt canran, gyda 4 pwynt canran yn uniongyrchol gysylltiedig â thoriadau a newidiadau lles.
Rydym yn gwybod yn rhy dda beth yw effeithiau tlodi plant yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod plentyn sy'n cael ei fagu ar aelwyd dlawd yn llawer llai tebygol na'i gyfoedion ar aelwydydd incwm canolig neu uwch o gyrraedd yr un lefel o gyrhaeddiad addysgol. Gwyddom fod plant sy'n byw mewn tlodi yn fwy tebygol o ddatblygu problemau iechyd meddwl, ynghyd â phroblemau iechyd ehangach. Effaith fwyaf tlodi plant, fodd bynnag, yw'r canlyniadau hirdymor i ddyfodol ein cenedl.