Part of the debate – Senedd Cymru am 5:42 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rydw i am ganolbwyntio fy sylwadau i ar yr angen i sicrhau mynediad cyfartal i blant i addysg blynyddoedd cynnar. Mi gychwynnaf i drwy rannu ystadegyn gyda chi: mi fydd dros hanner y plant o ardaloedd difreintiedig Cymru yn cychwyn ysgol efo sgiliau cyfathrebu diffygiol. Yn wir, mi fydd plant o'r 20 y cant mwyaf tlawd o'r boblogaeth, erbyn eu bod nhw'n dair oed, bron i flwyddyn a hanner y tu ôl i'r plant cyfoethocaf o ran datblygiad iaith. Nawr, meddyliwch am hynny; pan rydych chi ddim ond yn dair oed, rydych chi eisoes blwyddyn a hanner ar ei hôl hi. Mae hyn yn bwysig oherwydd dyma un o'r mesurau sicraf sydd yna o ragolygon rhywun nes ymlaen mewn bywyd. Mae sgiliau gwan plant o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu yn cael effaith mawr ar ystod eang o ganlyniadau nes ymlaen mewn bywyd, yn cynnwys ymddygiad, iechyd meddwl, parodrwydd ysgol a chyflogadwyedd hefyd.
Nawr, mi oedd Bethan yn cyfeirio yn gynharach at y system gyfiawnder a phobl ifanc o fewn y system gyfiawnder. Mae 60 y cant o'r bobl ifanc sydd yn yr ystâd gyfiawnder ieuenctid ag anawsterau cyfathrebu. Mae gan bron i 90 y cant o'r dynion ifanc sydd wedi bod yn ddiwaith am yr hirdymor anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Heb gymorth effeithiol, mi fydd treian o blant ag anawsterau cyfathrebu heddiw angen triniaeth ar gyfer problemau iechyd meddwl pan fyddan nhw'n oedolion. Mae'r dystiolaeth yn glir mai darpariaeth addysg blynyddoedd cynnar o ansawdd ar gael i bawb yw'r ffordd orau i godi plant allan o dlodi—a dyna beth mae Plaid Cymru eisiau ei weld.