Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 16 Mai 2018.
Oni wnewch chi dderbyn bod cynnydd wedi'i wneud gyda Dechrau'n Deg i gael plant o ddwy i dair? Ac mae'r hyn a ddywedoch ar y dechrau yn rhywbeth rwyf wedi ysgrifennu amdano ac wedi ei ddweud dros y saith mlynedd diwethaf: mae gormod o blant yn dechrau yn yr ysgol flwyddyn neu ddwy flynedd ar ei hôl hi, ac mae'n rhaid iddynt geisio cau'r bwlch yn y saith mlynedd nesaf. Ond mae'n rhaid ystyried bod Dechrau'n Deg yn gynnydd.