Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 22 Mai 2018.
A gaf i ganmol yr Aelod, yn gyntaf oll, am ei ddiddordeb yn hyn? Gwn fod ganddo ddiddordeb hynod ddwys mewn digido a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig, nid yn unig y bygythiadau yr ystyrir weithiau eu bod yn bodoli. Rydym ni'n adolygu cynnydd o ran y defnydd o'r digidol a data yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, i sicrhau ein bod ni'n sicrhau bod y potensial mwyaf posibl i'r digidol gyfrannu at ein darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.