1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mai 2018.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i adolygiad o sut y gall digido gefnogi'r gwaith o ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52217
A gaf i ganmol yr Aelod, yn gyntaf oll, am ei ddiddordeb yn hyn? Gwn fod ganddo ddiddordeb hynod ddwys mewn digido a'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig, nid yn unig y bygythiadau yr ystyrir weithiau eu bod yn bodoli. Rydym ni'n adolygu cynnydd o ran y defnydd o'r digidol a data yn y ddarpariaeth o wasanaethau cyhoeddus, i sicrhau ein bod ni'n sicrhau bod y potensial mwyaf posibl i'r digidol gyfrannu at ein darpariaeth o wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n cymryd 55 diwrnod i ddechrau recriwtio nyrs, ar ôl iddyn nhw gyflwyno rhybudd eu bod yn gadael, ac rydym ni'n gwario tua £59 miliwn ar nyrsys asiantaeth. Mae Cydwasanaethau'r GIG yn amcangyfrif, gan ddefnyddio technolegau presennol, y gallan nhw dynnu 30 diwrnod oddi ar y cyfnod hwnnw, gan arbed tua £13 miliwn. Ceir cyfleoedd fel hyn ar draws y gwasanaethau cyhoeddus i ryddhau adnoddau i ddarparu gwasanaethau rheng flaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adolygiad o awtomeiddio a'r digidol, a chefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Athro Phil Brown, sy'n arwain hynny, ac mae'n rhaid i mi ddweud ein bod ni'n ffodus iawn o'i gael yn arwain y gwaith hwnnw a'r panel arbenigol sydd wedi ei ymgynnull. Credaf ei fod yn ddarn o waith cyffrous iawn, ond mae'n ddarn o waith sy'n ystyried sgiliau yn bennaf, a materion gweithlu, nid y llu o faterion ar draws y sector cyhoeddus cyfan. Mae'r ddau yn defnyddio deallusrwydd artiffisial ond, yn hollbwysig, technolegau presennol sydd ar gael i ni nawr nad ydynt yn cael ei harneisio. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ymchwilio i'r sefyllfa gyfan ac nid yr elfennau marchnad lafur yn unig?
Rwy'n cytuno, a gwn ei fod yn fater y mae'r Aelod wedi ei godi gyda mi yn breifat: sut ydym ni'n edrych ar ddigido fel ffordd o wella perfformiad gwasanaethau cyhoeddus? Mae wedi rhoi enghraifft yn y fan yna, y mae wedi ei rhoi i mi o'r blaen, ac mae'n eithriadol o bwysig bod y broses recriwtio yn cael ei chyflymu. Y cwestiwn yw, felly, sut mae gwneud hyn. Wel, ceir nifer o adolygiadau diweddar neu gyfredol sy'n cwmpasu agweddau ar ddigido—fe'i hystyriwyd gan yr adolygiad seneddol ar iechyd, er enghraifft, ym maes iechyd; adolygiad Reid, o ran arloesi; ac adolygiad Bowen o ran y gweithlu. Nawr, ym maes iechyd, mae 'Iechyd a Gofal Gwybodus' yn cyflwyno'r weledigaeth ar gyfer darparu gwasanaethau digidol i gynorthwyo gwasanaethau a pholisïau iechyd a gofal cymdeithasol. Gwnaeth yr adolygiad seneddol argymhelliad penodol ar wasanaethau digidol, a fydd yn cael sylw yn y cynllun gweddnewid, sy'n rhan o bapur a fydd yn cael ei ystyried gan y Cabinet. Ac wrth gwrs, mae gennym ni Julie James, Ysgrifennydd y Cabinet sy'n bwrw ymlaen â'r agenda digido. Yr hyn yr wyf i eisiau ei osgoi yw bwrw ymlaen â digido mewn gwahanol gydrannau yn hytrach na bwrw ymlaen ag ef fel cyfle ar draws Lywodraeth.
Wrth gwrs, Prif Weinidog, ystyrir erbyn hyn bod mynediad at y rhyngrwyd ac, yn wir, cyflymder band eang da yn un o'r prif gyfleustodau y dylai teulu neu aelwyd feddu arnynt. Fodd bynnag, canfu'r adroddiad marchnad gyfathrebu diweddaraf ar gyfer Cymru mai dim ond ychydig dros wyth o bob 10 o aelwydydd sy'n gallu cael mynediad at y rhyngrwyd mewn gwirionedd—83 y cant. Felly, mae hynny'n gadael 17 y cant o bobl na allant gael mynediad at y rhyngrwyd. Nawr, pan na allant gael mynediad at y rhyngrwyd ar gyfer gwasanaethau sydd ar gael ar-lein yn unig, yna maen nhw o dan anfantais enfawr. Nawr, ar hyn o bryd, er enghraifft, hefyd, mae cofrestru fel landlord o dan Rhentu Doeth Cymru yn costio £33.50 os ydych chi'n llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond £80.50 ar gyfer cais ar bapur. Ac yn Aberconwy, bu'n rhaid i nifer o'm hetholwyr dalu'r arian ychwanegol a chanfod bod hon yn system cwbl annheg. A wnewch chi ymrwymo i adolygu prosesau ar draws holl ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cymru i sicrhau bod anghysonderau o'r fath ac, yn wir, y rhwystrau naturiol hyn yn cael eu dileu?
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fy mod i'n meddwl bod yr wybodaeth y mae hi'n ei defnyddio yn hen—flwyddyn ar ei hôl hi o bosibl. Dyna fy nealltwriaeth i. Edrychwn ar Cyflymu Cymru, er enghraifft, a'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud gyda hynny. Mae wedi golygu bod gan nifer sylweddol—bron, nid 100 y cant, ond mwy na 90 y cant—o safleoedd yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn. Ni fyddai hynny wedi cael ei wneud heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru. Pe byddai hyn wedi cael ei adael i'r farchnad, byddai llawer o'i hetholwyr wedi cael eu gadael heb fand eang am byth. Felly, mae'r ymyrraeth yr ydym ni wedi ei rhoi ar waith fel Llywodraeth wedi sicrhau y bydd gan lawer iawn o bobl fynediad at fand eang na fyddai ganddyn nhw fel arall. Bydd canran fechan o'r boblogaeth y bydd angen iddyn nhw ystyried atebion eraill o ran cael mynediad at gyflymder band eang a fydd yn dderbyniol i bobl. Rydym ni'n falch o'n hanes o gyflwyno band eang ar draws cymunedau gwledig yng Nghymru na fyddai ganddyn nhw fynediad o gwbl fel arall.