Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 22 Mai 2018.
Fel aelod o'r grŵp arweinyddiaeth cyflog byw gwirioneddol, roeddwn i'n falch o glywed gan y corff achredu Cynnal Cymru bod 143 o gyflogwyr wedi cael eu hachredu yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr preifat yn ogystal â chyflogwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod angen i ni ymsefydlu ymrwymiad a chynnydd tuag at y cyflog byw gwirioneddol yn y cynllun gweithredu economaidd ac, yn wir, yr adolygiad rhywedd, gan ei bod hi'n eglur y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru?