1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mai 2018.
1. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i sicrhau bod gweithwyr yn cael eu talu'r cyflog byw go iawn? OAQ52252
Cawsom ein hachredu fel cyflogwr cyflog byw yn 2015. Mae GIG Cymru wedi talu'r cyflog byw ers mis Ionawr 2015, ac mae cynnydd cryf yn cael ei wneud ar draws cyflogwyr eraill yn y sector cyhoeddus ac yn y sector preifat.
Mae hynny'n swnio'n wych, Prif Weinidog, ond byddai gweithwyr ym Maes Awyr Caerdydd yn gwerthfawrogi gweithredoedd yn hytrach na geiriau gwresog. Prynwyd y maes awyr hwn gennych chi yn 2013, ac eto mae gennym ni weithwyr o hyd, rhai ohonynt yn byw yn y Rhondda, sy'n cael eu talu llai na'r cyflog byw hwn. Bydd cytundeb gyda'r Gwneuthurwyr Bwyleri Bwrdeistrefol Cyffredinol yn golygu y bydd y maes awyr, a dyfynnaf, yn gweithio tuag at fod mewn sefyllfa i gyflwyno'r Cyflog Byw Sylfaenol erbyn diwedd 2020.
Os bydd hynny yn digwydd, yna bydd hynny wedi bod yn saith mlynedd lawn ar yr hyn a alwyd yn gyflog tlodi wedi ei ariannu gan y cyhoedd. Mae llawer o'r gweithwyr hyn yn staff diogelwch, sy'n cyflawni swyddogaethau hanfodol gan gadw mesurau diogelu'r maes awyr ar waith a chadw teithwyr yn ddiogel. Pa bwysau allwch chi ei roi nawr i sicrhau bod yr ased hwn yn dod yn gyflogwr cyflog byw sylfaenol achrededig erbyn yr Wythnos Cyflog Byw nesaf ym mis Tachwedd?
Mae'r maes awyr wedi gwneud ymrwymiad pendant i weithio tuag at sicrhau'r cyflog byw gwirioneddol. Cyflwynwyd cynnig i'r ddau undeb cydnabyddedig—y GMB ac Unite—erbyn hyn, y bydd y cyflog byw gwirioneddol yn cael ei dalu fel isafswm i holl staff y maes awyr a gyflogir yn uniongyrchol erbyn mis Ebrill 2020. Nawr, bydd yr undebau yn cynnal pleidlais ar y cynnig hwn ac rydym yn deall y bydd yr undebau yn gwneud argymhelliad cadarnhaol i aelodau. Bwriedir i'r codiad hwnnw gael ei wneud mewn dwy gynyddran—y gyntaf ym mis Ebrill 2019 a'r ail ym mis Ebrill 2020—ac mae hynny'n adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes yn y maes awyr, sy'n cynnwys cael gwared ar gontractau dim oriau a chyflwyno gwell cyfraddau cyflog am oramser a gweithio ar wyliau banc.
Fel aelod o'r grŵp arweinyddiaeth cyflog byw gwirioneddol, roeddwn i'n falch o glywed gan y corff achredu Cynnal Cymru bod 143 o gyflogwyr wedi cael eu hachredu yng Nghymru, gan gynnwys cyflogwyr preifat yn ogystal â chyflogwyr sector cyhoeddus a'r trydydd sector. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod angen i ni ymsefydlu ymrwymiad a chynnydd tuag at y cyflog byw gwirioneddol yn y cynllun gweithredu economaidd ac, yn wir, yr adolygiad rhywedd, gan ei bod hi'n eglur y bydd hyn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru?
Wel, rydym ni wedi ymrwymo'n gadarn i fynd i'r afael â chyflogau isel ac anghydraddoldeb yn y gweithle yng Nghymru. Rydych chi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud bod cyflogau isel yn effeithio'n anghymesur ar fenywod, a bydd ein hadolygiad rhywedd yn rhoi sylw i hyn. O ran y cynllun gweithredu economaidd, bydd yn cyflwyno contract economaidd newydd a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau sy'n ceisio cymorth busnes gan Lywodraeth Cymru ymrwymo i fuddsoddi yn eu gweithlu trwy gyflogaeth o ansawdd uchel, datblygu sgiliau a gwaith teg.
Prif Weinidog, 20 mlynedd yn ôl roedd gan weithwyr yng Nghymru a'r Alban yr un pecynnau cyflog o oddeutu £301 yr wythnos. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, mae pecyn cyflog Cymru yn cynnwys £498 yr wythnos, tra bod pecyn cyflog yr Alban yn cynnwys £49 yn fwy, sef £547. Er gwaethaf cyfraniad pwysig y cyflog byw a'r system budd-daliadau, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno bod angen i ni sicrhau tegwch, yn enwedig i'r rhai hynny ar incwm is. Beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i gau'r bwlch hwn ac i sicrhau bod swyddi â chyflogau uwch, ac o ansawdd gwell i bobl sy'n byw yng Nghymru, a pha drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU o ran adolygiad Taylor ar arferion gweithio modern?
[Anghlywadwy.]—Llywodraeth y DU yw'r llanastr y maen nhw'n ei wneud o'r system budd-daliadau, yn enwedig o ran y credyd cynhwysol, a fydd yn effeithio yn anghymesur ac yn negyddol iawn ar gynifer o bobl yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld credydau treth mewn gwaith yn cael eu diddymu hefyd. Nid yw hynny wedi helpu pobl o ran eu hincwm. Rydym ni wedi gweld, er enghraifft, Llywodraeth y DU yn gwrthod ariannu Cymru yn briodol, ac, yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi rhoi £1 biliwn i Ogledd Iwerddon, tra bod Cymru wedi cael dim byd o gwbl. Mae llawer iawn o waith yr wyf i'n credu y gall yr Aelod ei wneud gyda'i blaid ei hun o ran gwneud yn siŵr bod Cymru yn cael tegwch, oherwydd nid ydym ni'n ei gael gan y Torïaid.
Prif Weinidog, un o hanfodion economeg yw'r ddeddf cyflenwad a galw. Os bydd y cyflenwad yn fwy na'r galw, bydd pris nwydd yn gostwng. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r cyflenwad o lafur ag unrhyw nwydd arall. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gorgyflenwad llafur rhad, yn enwedig yn y farchnad lled-grefftus a di-grefft, wedi ei achosi gan fewnfudo heb reolaeth ar raddfa fawr, sydd wedi caniatáu i fusnesau mawr gamfanteisio ar weithwyr gyda chyflogau isel?
Mae llawer iawn o sectorau yn economi Cymru sy'n dibynnu'n fawr iawn ar lafur o'r tu allan i'r DU. Os edrychwn ni ar y sector bwyd a diod, ceir llawer o gwmnïau na fydden nhw'n gallu goroesi, gan fod dewisiadau eraill ar gael i weithwyr lleol sy'n cael eu hystyried yn rhai mwy deniadol. Byddai ein lladd-dai, er enghraifft, yn cael trafferthion mawr pe na fyddent yn gallu recriwtio o wledydd eraill. Felly, nac ydw, nid wyf i'n cytuno ei fod yn gwestiwn o or-gyflenwi. Os edrychwch chi ar ddiweithdra yng Nghymru, mae'n isel dros ben yn hanesyddol—4.5 y cant. Mae hynny, i bob pwrpas, yn gyflogaeth lawn o ran economeg, a dyna pam, wrth gwrs, mae angen gallu recriwtio gweithwyr medrus, a gweithwyr sy'n lled-fedrus, o wledydd eraill. Ble fyddai ein GIG, er enghraifft, heb y meddygon yr ydym ni'n eu recriwtio o'r tu allan i Gymru? Mae'n well gen i fod mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael y driniaeth sydd ei hangen arnynt, yn hytrach nag obsesu ynghylch o ble maen nhw'n dod.