Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 22 Mai 2018.
Mae'n wir i ddweud bod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, Llafur a Phlaid Cymru, o blaid datganoli plismona, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei gefnogi ers blynyddoedd lawer iawn. Wrth gwrs, bydd hyn yn rhan bwysig o'r hyn y mae'n rhaid i gomisiwn Thomas ei ystyried. Credaf y bu'n wir erioed nad yw'n gwneud fawr o synnwyr i blismona beidio â chael ei ddatganoli pan fo pob gwasanaeth brys arall wedi ei ddatganoli. [Torri ar draws.] Mae hyn yn newyddion i Blaid Cymru. Dylen nhw ddarllen y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf, oni ddylent? Byddan nhw'n darganfod wedyn. Ond mae'n wir—[Torri ar draws.]