1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 22 Mai 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd yr wrthblaid, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyhoeddi ei adroddiad heddiw yn edrych ar y gwariant sy'n gysylltiedig â Chylchffordd Cymru, a chyn i mi ofyn y cwestiwn i chi, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a gyhoeddodd ei fod ef a'i wraig yn disgwyl eu plentyn cyntaf ymhen ychydig fisoedd.
Pan edrychwch chi ar yr adroddiad hwn, mae wir yn ddigalon ei ddarllen, a dweud y lleiaf. Nid yw'n ystyried y safbwynt polisi a bod yn deg, oherwydd nid dyna swyddogaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus; mae'n ystyried yr arian a wariwyd. Mae'n nodi diffyg goruchwyliaeth weinidogol o ran llawer o'r penderfyniadau a wnaed, ac roedd datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd yn mynd yn groes i'r dystiolaeth a ddatgelwyd gan y pwyllgor yn ddiweddarach a oedd yn dangos bod yr adran yn ymwybodol o'r hyn a oedd yn digwydd gyda'r arian hwn. Chi yw pennaeth y Llywodraeth. Sut ar y ddaear y gall un o adrannau'r Llywodraeth weithredu o dan amgylchiadau o'r fath y mae'r adroddiad yn eu nodi heddiw, sydd fwy neu lai yn nodi bod yr adran yn cael ei rhedeg gan y swyddogion yn hytrach na gan y Gweinidog?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ymuno ag ef yn ei longyfarchiadau i Nick Ramsay? Cefais wybod am ei newyddion da ar Facebook. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddai pob un ohonom ni ar y meinciau hyn yn sicr yn ei longyfarch arno, wrth gwrs—ef a'i wraig.
O ran y mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid, mae cwestiynau y bydd angen i ni roi sylw iddynt yn yr ymateb i adroddiad y pwyllgor, ond, wrth gwrs, fel y mae'r pwyllgor wedi ei adrodd, mae'n gwbl briodol y dylai fod ymateb llawn ar yr amser priodol.
Ac rwy'n derbyn hynny'n llwyr, Prif Weinidog, ond nodaf ymateb y Llywodraeth hyd yma, na wnaeth geisio gwadu'r honiadau mai'r swyddogion oedd yn rhedeg yr adran hon ar y pryd. Ac mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn yn seiliedig ar y dystiolaeth y mae'r pwyllgor wedi ei chasglu. Mae'n bwyllgor trawsbleidiol, roedd yn adroddiad unfrydol ac roedd hefyd yn nodi bod rhai o'r achosion hyn o esgeulustod yn digwydd yn y weinyddiaeth bresennol hon hefyd, mor ddiweddar â 27 Ebrill y llynedd, pan oedd yr Ysgrifennydd y Cabinet presennol yn ei swydd. Mae'n cyfeirio at y datganiadau i'r wasg a gyhoeddwyd a datganiad ysgrifenedig y Llywodraeth.
Mae'n ofid mawr i lawer o bobl sy'n edrych ar hyn o'r tu allan, a byddwch yn ymwybodol o hyn drwy eich gwaith etholaeth—a'r holl Aelodau eraill—pan fyddwch chi'n mynd at sefydliadau sy'n dweud bod Llywodraeth Cymru yn mynnu papur A a phapur B ac adroddiadau diwydrwydd dyladwy, fel y gallant gael grant bach iawn o fil neu ddwy o bunnoedd efallai—. Rydym ni'n sôn yn yr achos hwn am filiynau o bunnoedd a channoedd o filoedd o bunnoedd ar brosiectau penodol. Awgrymaf i chi unwaith eto mai'r hyn yr wyf i'n ceisio ei ddarganfod gennych chi, fel pennaeth y Llywodraeth, yw sut ar y ddaear y gall y swyddogion redeg yr adran heb fod gan y Gweinidog oruchwyliaeth o'r penderfyniadau hyn? Mae hwnnw'n gyhuddiad difrifol iawn sydd angen ateb a does bosib, heddiw, fel pennaeth y Llywodraeth, na allwch chi roi'r ateb hwnnw i ni a'r sicrwydd hwnnw na fydd y newidiadau sydd ar waith yn caniatáu i'r sefyllfa hon ddigwydd eto.
Wel, bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o egwyddor Carltona a'r ffordd y mae'n gweithredu, ond ni fyddai'n briodol i mi ragfarnu ymateb llawn. Mae hwn yn adroddiad difrifol sy'n haeddu ymateb difrifol, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar yr adeg briodol. Bryd hynny, wrth gwrs, mae'n gwbl briodol y dylai'r Aelodau gael y cyfle i graffu ar yr hyn mae'r Llywodraeth wedi ei wneud a'r ymateb y bydd y Llywodraeth yn ei roi ar waith.
Nid yw'n ymddangos fel fy mod i'n mynd i gael ateb. Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond edrychaf ymlaen at yr ateb pan ddaw. Ond a wnewch chi roi sicrwydd i ni, felly, y prynhawn yma, Prif Weinidog, os bydd y Llywodraeth yn cydnabod y cyhuddiadau hyn, yr haeriadau hyn, ar sail y dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor—y pwyllgor trawsbleidiol a ymchwiliodd i hyn—. Hyd yma, does neb, o'r hyn a ddeallaf, wedi cael ei ddisgyblu na'i gosbi oherwydd y cyhuddiadau difrifol iawn a gadarnhawyd yn yr adroddiad hwn. A wnewch chi, felly, ymrwymo i ymateb gan y Llywodraeth sy'n dangos bod cosbau wedi eu cyflwyno lle mae angen eu cyflwyno, oherwydd, fel y dywedais, ni all fod yn iawn i bobl allu cael arweinyddiaeth o'r fath mewn adran a hwythau heb fod yn Aelodau etholedig—y Gweinidogion neu Ysgrifenyddion y Cabinet—a bod y swyddogion yn rhedeg yr adrannau hynny? Mae'n ymddangos yn amlwg bod yr adran hon allan o reolaeth, Prif Weinidog.
Wel, yn gyntaf oll, mae nifer o faterion y mae'r pwyllgor yn eu codi y mae'n rhaid i ni eu hystyried, ond mae gennym ni hawl i gyflwyno ymateb fel Llywodraeth, a, bryd hynny, bydd yr Aelodau yn dymuno pwyso a mesur, wrth gwrs, yr hyn y mae'r pwyllgor wedi ei ddweud a'r pwyntiau pwysig y mae'r pwyllgor wedi eu codi, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth, a dyna, yn fy marn i, yw'r ffordd briodol o wneud pethau. Bryd hynny, wrth gwrs, y bydd craffu ar benderfyniadau'r Llywodraeth, ond nid wyf yn credu ei bod hi'n briodol rhagfarnu unrhyw ymateb y gallem ni ei gyflwyno. Ond mae'n amlwg yn adroddiad y mae'n rhaid i ni edrych arno yn ofalus iawn, iawn, oherwydd mae materion yno y bydd angen i ni roi sylw iddyn nhw fel Llywodraeth, ond byddant yn cael sylw pan fydd yr ymateb llawn yn cael ei gyhoeddi.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi. A yw'r Prif Weinidog yn credu mai ei Lywodraeth ef, neu'r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael â'r argyfwng cenedlaethol hwn?
O ran bod yn y 'sefyllfa orau' i fynd i'r afael ag ef, nid oes amheuaeth bod gan Lywodraeth y DU swyddogaeth gref iawn, drwy'r system lles, drwy'r ffordd mae'n gallu edrych ar gredydau treth, ond yn anffodus mae wedi troi ei chefn ar y swyddogaeth y dylai Llywodraeth ei chyflawni, sef, yn gyntaf, lleihau anghydraddoldeb mewn cymdeithas ac, yn ail, sicrhau bod arian yn mynd i le mae angen arian fwyaf o gwmpas y DU. Mae hynny'n rhywbeth nad ydyn nhw wedi bwrw ymlaen ag ef dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Prif Weinidog, chi yw Llywodraeth Cymru a gallwch chi gymryd cyfrifoldeb. Gallwch chi godi pobl allan o dlodi, ac eto rydych chi'n dewis peidio â gwneud hynny. Mae eich Gweinidogion yn honni y byddai datganoli'r broses o weinyddu lles yn tanseilio undeb cymdeithasol y DU. Nawr, gan roi o'r neilltu y ffaith fod gan bob Llywodraeth arall yn y DU rym i weinyddu lles, a yw e'n credu mai'r tanseilio di-hid hwn o'r undeb cymdeithasol sydd wedi ysgogi galwadau i ddatganoli lles gan y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, Shelter Cymru, pwyllgor cydraddoldeb trawsbleidiol y Cynulliad, Sefydliad Bevan, Ymddiriedolaeth Trussell, Plaid Lafur yr Alban, Plaid Democratiaid Rhyddfrydol yr Alban, Plaid Lafur y DU, maer Llafur Manceinion—ac mae llawer mwy? A ydych chi'n credu bod pob un o'r rhain yn genedlaetholwyr dadunol sy'n ceisio tanseilio'r undeb cymdeithasol?
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n ei chael hi'n rhyfeddol fy mod yn cael fy nghyhuddo, fel gwleidydd blaengar—ac mae pob un ohonom ni ar y meinciau hyn—ein bod ni'n dewis peidio â mynd i'r afael â thlodi plant. Mae hwnnw'n honiad—[Torri ar draws.]—honiad hynod annheg i'w wneud, ond dyna'r honiad y mae hi wedi ei wneud. Mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r awgrym bod hyn yn llwyr yn nwylo Llywodraeth Cymru yn gwbl anghywir. Rydym ni'n gwybod bod gan Lywodraeth y DU ysgogwyr sylweddol o ran lles, o ran y system budd-daliadau, o ran cyfraith gyflogaeth, o ran pennu'r cyflog byw gwirioneddol. Gallwn, mi allwn ei wneud, o ran y cyrhaeddiad sydd gennym ni at y sector cyhoeddus ac at y trydydd sector, i raddau, ond nid at y sector preifat. Yr hyn y mae hi'n ei wneud yw rhyddhau Llywodraeth y DU o'i chyfrifoldeb, a dyna lle mae'n rhaid i'r cyfrifoldeb fod. Nawr, un peth yw dweud, 'Gadewch i ni weinyddu budd-daliadau', ond mae dwy broblem yn ymwneud â hynny. Yn gyntaf oll, mae'r Albanwyr yn gwario arian ar fiwrocratiaeth—ar fiwrocratiaeth. Maen nhw'n gwario arian mewn gwirionedd ar weinyddu a allai fod yn mynd i dderbynwyr. Mae hynny'n amlwg yn fater y bu'n rhaid i ni ei ystyried. Yn ail, nid yw gweinyddu'r system budd-daliadau yn dda i ddim os na allwch chi reoli'r llif arian; y cwbl yr ydych chi'n ei gael yw'r bai, o dan yr amgylchiadau hynny. Bydd pobl yn dweud wedyn, 'Wel, chi yw'r rhai sy'n gweinyddu'r system budd-daliadau; pam na wnewch chi roi mwy o arian ynddi, pam na wnewch chi hyn, pam na wnewch chi'r llall?' pan, mewn gwirionedd, na allwch chi wneud hynny. Felly, rwyf i wedi bod yn amharod dros ben erioed i ystyried gweinyddu rhywbeth pan fy mod i'n credu ei fod yn fagl a osodwyd gan Lywodraeth y DU.
Felly, mae'r ysgogwyr hyn yn bodoli, ond eto nid ydych chi eisiau rheolaeth drostyn nhw. Rydych chi'n sôn am strategaethau, ac rydych chi'n cwyno am bolisïau lles y Torïaid, er mai eich unrhyw weithred chi mewn gwirionedd yw torri'r budd-daliadau y mae eich Llywodraeth eich hun yn gyfrifol amdanynt: torri'r grant gwisg ysgol; torri'r grant byw'n annibynnol; torri'r grant gwella addysg; torri Cymunedau yn Gyntaf. Mae traean o blant Cymru yn byw mewn tlodi, mae miloedd yn dibynnu ar fanciau bwyd am bryd digonol o fwyd, a dyma'r gorau y gallwch chi ei wneud. Prif Weinidog, mae gen i gwestiwn syml: a ydych chi'n barod i gymryd cyfrifoldeb neu a ydych chi'n hapus i barhau i roi'r bai ar y Torïaid yn San Steffan?
Gadewch i ni edrych ar hyn yn ofalus. Mae arweinydd Plaid Cymru yn cynrychioli plaid sydd eisiau gweld Cymru annibynnol—
Roeddwn i'n gwybod bod hynna'n dod. Syndod o'r mwyaf!
Wel, rwy'n gwybod. Ie, gwn mai dyna'r achos. A'r gwir amdani yw—[Torri ar draws.] Y gwir amdani yw ein bod ni'n dderbynwyr trosglwyddiadau arian drwy'r system budd-daliadau oherwydd ein haelodaeth o'r DU. Os yw hi eisiau dadlau'r achos i bobl Cymru y dylem ni fod yn annibynnol, ac felly bod â llai o arian nag sydd gennym ni ar hyn o bryd, llai o arian i dalu budd-daliadau, llai o arian i gefnogi swyddi, llai o arian ar gyfer y gwasanaeth iechyd, llai o arian ar gyfer addysg, gadewch iddi ddadlau'r achos. Dyna'r rheswm y mae ei phlaid hi'n bodoli. I mi, rwy'n ddatganolwr. Rwy'n credu bod pobl Cymru yn haeddu llais cryf, ond mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr ein bod ni'n rhan o undeb cymdeithasol y DU sy'n cynnig cynifer o fuddion i gynifer o'n pobl. A'r hyn a fyddai'n ei wneud yn well fyth fyddai ethol Llywodraeth Lafur yn San Steffan.
Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penodwyd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r bwrdd cyfiawnder troseddol cenedlaethol ac mae wedi addo brwydro i gael plismona wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ddweud bod yr amser yn iawn a bod y polisi yn cael ei gefnogi gan bob comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru. A ydych chi'n cefnogi'r safiad hwn a gymerwyd gan eich dau gomisiynydd heddlu a throseddu? A pha fath o amserlen ydych chi yn ei rhagweld ar gyfer datganoli plismona i Gymru? A yw gweithredoedd comisiynwyr heddlu a throseddu'r Blaid Lafur yn tanseilio eich Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ei chroesawu hi i'w swydd newydd fel arweinydd UKIP?
Diolch.
Mae'n wir i ddweud bod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu, Llafur a Phlaid Cymru, o blaid datganoli plismona, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei gefnogi ers blynyddoedd lawer iawn. Wrth gwrs, bydd hyn yn rhan bwysig o'r hyn y mae'n rhaid i gomisiwn Thomas ei ystyried. Credaf y bu'n wir erioed nad yw'n gwneud fawr o synnwyr i blismona beidio â chael ei ddatganoli pan fo pob gwasanaeth brys arall wedi ei ddatganoli. [Torri ar draws.] Mae hyn yn newyddion i Blaid Cymru. Dylen nhw ddarllen y newyddion dros y blynyddoedd diwethaf, oni ddylent? Byddan nhw'n darganfod wedyn. Ond mae'n wir—[Torri ar draws.]
Gadewch i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn, os gwelwch yn dda.
Mae'n anhygoel, onid yw? Rydym ni'n cael ein cyhuddo o weiddi ac wedyn mae gennym ni—[Anghlywadwy.]—yn y Siambr. Dyna ni. Nid oes ots gen i gael ychydig o fywyd yn y Siambr; mae hynny'n rhywbeth sy'n ychwanegu at ei chymeriad. Ond yr ateb yw 'ydw'. Rwyf i'n cefnogi datganoli plismona, a gwn fod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yn ei gefnogi hefyd.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ers eu creu, mae cyllideb y comisiynwyr heddlu a throseddu wedi cynyddu'n aruthrol. Yn wir, mae gan gomisiynydd heddlu a throseddu Llafur de Cymru gyllideb o £1.3 miliwn a 28 aelod o staff, yn ogystal â dirprwy gomisiynydd. Felly, mae hyn wedi golygu cynnydd o 40 y cant i'r gyllideb a dwbl y nifer o staff, ac eto, yn y tair blynedd diwethaf, bu cynnydd o 33 y cant i droseddau treisgar yn ardal Heddlu De Cymru. Felly, pe byddech chi'n cael eich dymuniad a bod plismona yn cael ei ddatganoli, a wnaiff Llywodraeth Cymru ddiddymu'r swyddogaeth comisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n dargyfeirio adnoddau oddi wrth blismona rheng flaen?
Wel, mae'n iawn i ddweud, pe byddai plismona yn cael ei ddatganoli, y byddai'n fater i'r lle hwn benderfynu ar ba un a ddylid cadw comisiynwyr heddlu a throseddu ai peidio. Mae hwnnw'n benderfyniad y byddai'n rhaid ei wneud pan—yn hytrach nag os, hyderaf—fydd plismona yn cael ei ddatganoli.
Diolch. Roedd swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu i fod i ddod ag atebolrwydd lleol i wasanaeth yr heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru wedi ymddieithrio yn y bythau pleidleisio, a phrin y mae'r ffigurau yn cyrraedd ffigurau dwbl pan fydd pobl yn pleidleisio dros gomisiynwyr heddlu a throseddu. Bydd etholiadau mewn llai na dwy flynedd, felly beth y gellir ei wneud i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru? A ydych chi'n credu y dylai'r swydd gael ei hailwampio i gael gwared ar wleidyddiaeth plaid a rhoi mwy o lais i arweinyddion cymunedol yn hytrach na gwleidyddion?
Wel, materion i Lywodraeth y DU yw'r rhain, o ystyried y ffaith nad yw comisiynwyr heddlu a throseddu wedi eu datganoli—
Ie, mae hynny'n wir, ond pe byddai hyn yn cael ei ddatganoli.
—felly, mater iddyn nhw yw ystyried y ffordd orau o gynyddu nifer y pleidleiswyr dros gomisiynwyr heddlu a throseddu a'r etholiadau a gynhelir ar gyfer y swyddi hynny. Ond mae fy safbwynt i yn eglur iawn: credaf y dylai fod yn gyfrifoldeb i'r Cynulliad hwn—Senedd fel y bydd yn fuan, hyderaf—wneud y penderfyniad ynghylch pa fath o strwythur ddylai fodoli o ran goruchwylio'r heddlu.