Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 22 Mai 2018.
Mae'n anhygoel, onid yw? Rydym ni'n cael ein cyhuddo o weiddi ac wedyn mae gennym ni—[Anghlywadwy.]—yn y Siambr. Dyna ni. Nid oes ots gen i gael ychydig o fywyd yn y Siambr; mae hynny'n rhywbeth sy'n ychwanegu at ei chymeriad. Ond yr ateb yw 'ydw'. Rwyf i'n cefnogi datganoli plismona, a gwn fod pob un o'r pedwar comisiynydd heddlu a throseddu yn ei gefnogi hefyd.