Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 22 Mai 2018.
Wel, yn gyntaf oll, a gaf i ymuno ag ef yn ei longyfarchiadau i Nick Ramsay? Cefais wybod am ei newyddion da ar Facebook. Felly, mae hynny'n rhywbeth y byddai pob un ohonom ni ar y meinciau hyn yn sicr yn ei longyfarch arno, wrth gwrs—ef a'i wraig.
O ran y mater a godwyd gan arweinydd yr wrthblaid, mae cwestiynau y bydd angen i ni roi sylw iddynt yn yr ymateb i adroddiad y pwyllgor, ond, wrth gwrs, fel y mae'r pwyllgor wedi ei adrodd, mae'n gwbl briodol y dylai fod ymateb llawn ar yr amser priodol.