Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, penodwyd Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru i'r bwrdd cyfiawnder troseddol cenedlaethol ac mae wedi addo brwydro i gael plismona wedi ei ddatganoli i Gymru, gan ddweud bod yr amser yn iawn a bod y polisi yn cael ei gefnogi gan bob comisiynydd heddlu a throseddu yng Nghymru. A ydych chi'n cefnogi'r safiad hwn a gymerwyd gan eich dau gomisiynydd heddlu a throseddu? A pha fath o amserlen ydych chi yn ei rhagweld ar gyfer datganoli plismona i Gymru? A yw gweithredoedd comisiynwyr heddlu a throseddu'r Blaid Lafur yn tanseilio eich Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru?