Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch. Roedd swyddogaeth y comisiynydd heddlu a throseddu i fod i ddod ag atebolrwydd lleol i wasanaeth yr heddlu, ond mae'n ymddangos bod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru wedi ymddieithrio yn y bythau pleidleisio, a phrin y mae'r ffigurau yn cyrraedd ffigurau dwbl pan fydd pobl yn pleidleisio dros gomisiynwyr heddlu a throseddu. Bydd etholiadau mewn llai na dwy flynedd, felly beth y gellir ei wneud i gynyddu cyfranogiad ac ymgysylltiad â'r comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru? A ydych chi'n credu y dylai'r swydd gael ei hailwampio i gael gwared ar wleidyddiaeth plaid a rhoi mwy o lais i arweinyddion cymunedol yn hytrach na gwleidyddion?