Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 22 Mai 2018.
Wel, bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol o egwyddor Carltona a'r ffordd y mae'n gweithredu, ond ni fyddai'n briodol i mi ragfarnu ymateb llawn. Mae hwn yn adroddiad difrifol sy'n haeddu ymateb difrifol, ac mae'n rhaid gwneud hynny ar yr adeg briodol. Bryd hynny, wrth gwrs, mae'n gwbl briodol y dylai'r Aelodau gael y cyfle i graffu ar yr hyn mae'r Llywodraeth wedi ei wneud a'r ymateb y bydd y Llywodraeth yn ei roi ar waith.