Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 22 Mai 2018.
Gallaf, mi allaf. Yr hyn y byddwn yn cyfeirio cymunedau a grwpiau cymunedol i edrych arno yw cynllun grantiau bach Cymru o Blaid Affrica. Fe'i lansiwyd yn ddiweddar ac mae wedi ei gynllunio i ganolbwyntio ar wella cyfraniad Cymru at fynd i'r afael â thlodi yn Affrica, ond mae hefyd wedi'i gynllunio, wrth gwrs, i helpu grwpiau cymunedol a chysylltiadau cymunedol i gyfrannu at yr agenda honno. Mae'r cynllun grant hwnnw ar gael i sefydliadau sefydledig—ceir llawer ohonynt ledled Cymru—ond hefyd sefydliadau newydd sydd â syniadau newydd. Felly, dyna'r cynllun y byddwn i'n awgrymu i bobl ei ystyried er mwyn gweld sut y gellir eu helpu i helpu pobl eraill.