1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 22 Mai 2018.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol rhaglen Cymru o Blaid Affrica? OAQ52215
Mae'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn cynorthwyo unigolion, grwpiau cymunedol a sefydliadau yng Nghymru i fynd i'r afael â thlodi yn Affrica mewn ffyrdd sy'n sicrhau manteision i Gymru ac i Affrica. Dyfarnwyd grant tair blynedd gennym yn ddiweddar i Hub Cymru Affrica a sefydlwyd cynllun grantiau bach gennym i gynorthwyo gweithgarwch ledled Cymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n hyrwyddwr brwd o'r rhaglen, ac rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn gwneud gwaith rhagorol. Yr wythnos diwethaf, dychwelais o orllewin Kenya, lle gwelais y gwaith sy'n cael ei wneud gan Just Earth, sy'n elusen sydd wedi ei lleoli yng Nghymru sy'n helpu ffermwyr ymgynhaliol yn y rhan honno o'r wlad; mae hefyd yn gwneud rhywfaint o waith yn Uganda. O ganlyniad, maen nhw'n cynyddu maint eu cnydau ac mae'n helpu i ddileu tlodi yn y rhan honno o'r byd. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Just Earth ar eu gwaith? Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w cymryd i nodi sefydliadau eraill fel hwy efallai nad ydyn nhw'n rhan o'r rhaglen Cymru o Blaid Affrica, fel y gallwn ni fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y gall gweithio gyda'n gilydd ar y cyd eu cynnig yn Affrica is-Sahara?
Rwy'n cefnogi unrhyw sefydliad, wrth gwrs, sy'n darparu cymorth i'r rhai sydd fwyaf mewn angen. Gofynnodd y cwestiwn, 'Beth ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth?' Wel, fel y dywedais, dyfarnwyd grant tair blynedd gwerth £349,000 y flwyddyn i Hub Cymru Affrica ar gyfer 2018-21. Mae'r ganolfan yn cynnig cyngor, hyfforddiant a chymorth i gannoedd o grwpiau yng Nghymru sy'n gweithredu yn Affrica—mae'r cymorth hwnnw ar gael i unrhyw sefydliad. Gallaf ddweud o ran cyllid grant, ein bod wedi derbyn 105 o geisiadau grant yn ystod 2017-18, felly mae'n dangos bod ymwybyddiaeth eang o'r hyn sydd gennym ni i'w gynnig o ran cymorth grant. Byddwn yn annog unrhyw sefydliad i gymryd rhan yn y broses honno.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â Darren Millar, a chyda llawer ar draws y Siambr, am werth y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwyf innau hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weld drosof fy hun yn Mbale yn Uganda gwerth y cysylltiadau addysg ac iechyd. Yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei grybwyll eisoes, o ran Hub Cymru Affrica a'r cynllun grant, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid gwneud rhagor o waith i adeiladu ar y cysylltiadau rhwng cymunedau? Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb ledled Cymru yn ein cymunedau, o ran sut y gall pobl chwarae eu rhan mewn adeiladu ar y cynnydd a wnaed eisoes.
Gallaf, mi allaf. Yr hyn y byddwn yn cyfeirio cymunedau a grwpiau cymunedol i edrych arno yw cynllun grantiau bach Cymru o Blaid Affrica. Fe'i lansiwyd yn ddiweddar ac mae wedi ei gynllunio i ganolbwyntio ar wella cyfraniad Cymru at fynd i'r afael â thlodi yn Affrica, ond mae hefyd wedi'i gynllunio, wrth gwrs, i helpu grwpiau cymunedol a chysylltiadau cymunedol i gyfrannu at yr agenda honno. Mae'r cynllun grant hwnnw ar gael i sefydliadau sefydledig—ceir llawer ohonynt ledled Cymru—ond hefyd sefydliadau newydd sydd â syniadau newydd. Felly, dyna'r cynllun y byddwn i'n awgrymu i bobl ei ystyried er mwyn gweld sut y gellir eu helpu i helpu pobl eraill.
Prif Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi'n gwbl ymwybodol o'r gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan elusen PONT ym Mhontypridd, sydd wedi datblygu cysylltiadau â Mbale yn Uganda, a'r ffordd sylweddol y mae hynny wedi datblygu er lles y bobl yn Uganda a Mbale. Mae fy nghanmoliaeth arbennig, rwy'n credu, i'r gwaith addysgol y mae'r elusen honno'n ei wneud mewn ysgolion yn Nhaf Elái, fel eich bod chi'n gweld ym mhob ysgol yr ewch chi iddi yn y fan honno erbyn hyn, myfyrwyr ifanc sydd mewn gwirionedd yn ymwneud â monitro'r hyn sy'n digwydd—o ran deall ac ymgysylltu ag ef, a datblygu rhyw fath o ysbryd Cymreig traddodiadol o ryngwladoldeb, o ran ein cyfrifoldebau i weddill y byd, ac i'r gwrthwyneb. Ar adeg pan fo rhwystrau yn cael eu codi ledled y DU ac yn y blaen, onid yw hon yn enghraifft wych i'n plant ysgol o sut y gallwn ni gyfrannu at yr holl faterion byd-eang sy'n effeithio arnom ni i gyd?
Rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i weld gwaith PONT drosof fy hun yn Mbale—roeddwn i yno yn 2014. Er enghraifft, gwelais wasanaeth ambiwlans beic modur PONT. Mae'n darparu triniaeth frys i fenywod sy'n esgor, i'w cludo i'r prif ysbyty o ardaloedd tra anhygyrch â ffyrdd gwael—gwelais hynny'n cael ei ddangos. Ceir cydgysylltydd PONT, sy'n treulio amser yn Mbale yn gweithio gyda phartneriaid i godi safonau. Ac rwyf i wedi gweld, wrth gwrs, yr hyn y mae PONT wedi ei wneud o ran darparu seilwaith yn Mbale hefyd. Mae'n stori ardderchog dros flynyddoedd lawer iawn, ac yn un a oedd yn fraint i mi gael ei gweld.