Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 22 Mai 2018.
Rwyf i wedi bod yn ddigon ffodus i weld gwaith PONT drosof fy hun yn Mbale—roeddwn i yno yn 2014. Er enghraifft, gwelais wasanaeth ambiwlans beic modur PONT. Mae'n darparu triniaeth frys i fenywod sy'n esgor, i'w cludo i'r prif ysbyty o ardaloedd tra anhygyrch â ffyrdd gwael—gwelais hynny'n cael ei ddangos. Ceir cydgysylltydd PONT, sy'n treulio amser yn Mbale yn gweithio gyda phartneriaid i godi safonau. Ac rwyf i wedi gweld, wrth gwrs, yr hyn y mae PONT wedi ei wneud o ran darparu seilwaith yn Mbale hefyd. Mae'n stori ardderchog dros flynyddoedd lawer iawn, ac yn un a oedd yn fraint i mi gael ei gweld.