Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 22 Mai 2018.
Nid yr wyf i'n ymwybodol ohono. Rwy'n cofio gwneud hyn pan oeddwn i'n Weinidog yr amgylchedd. Mae'n rhywbeth yr ydym ni'n ymchwilio iddo o bryd i'w gilydd. Wrth gwrs, mae'r cyfleusterau ailbrosesu yn Sellafield ar gael i Wylfa. Maen nhw'n eithriadol o bwysig i'r diwydiant niwclear yn y DU. Ond na, nid oes unrhyw gymuned wedi gwirfoddoli, hyd y gwn i.