Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 22 Mai 2018.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Yr wythnos diwethaf, roedd yn braf iawn gweld y dyfarnwyd 47 o draethau baner las i Gymru, sy'n golygu bod gennym ni fwy fesul milltir o arfordir nag unrhyw wlad arall yn y DU. Felly, roedd hynny'n newyddion braf iawn. Ond beth, Prif Weinidog, ydych chi'n ei gredu fydd effaith gadael yr UE ar safonau amgylcheddol, gan ei fod wedi golygu tan nawr y bu'n rhaid i ni gael safon uchel ar gyfer pethau fel dŵr ymdrochi a rheoli'r arfordir?