3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Cynllun Gweithredu Economaidd

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 22 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Russell George Russell George Conservative 2:53, 22 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai fy mhryder gwirioneddol yw bod busnesau ar hyd a lled y wlad, os ydynt yn gwrando ar hyn, yn crafu eu pennau ac yn meddwl, 'Am beth mae hyn i gyd?', ac mae hynny'n rhan o'r broblem i mi. Roedd yn aros am rywbeth diriaethol yn eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan oeddech chi hanner ffordd drwy'r datganiad ac wedi dechrau sôn am y contract economaidd a'ch amcanion, meddyliais, 'Mae hynny'n wych; nawr rydych chi'n mynd i siarad am y manylion a sut mae gwneud hynny', ond ni soniwyd am hynny—yn sicr nid yn fy marn i. Wrth gwrs, dyma'r bedwaredd strategaeth economaidd i'w lansio ers datganoli, felly tybed a yw hyn yn arwydd o gefnu ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru ers tro byd wedi mynd i'r afael â pholisi economaidd yng Nghymru.

Nid yw'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud yn eich datganiad heddiw mewn gwirionedd yn cynnwys unrhyw beth y gallaf i anghytuno'n sylfaenol ag ef mewn egwyddor. Ond, i mi, does dim gwybodaeth newydd yma heddiw, ac, yn bwysicach i mi, nid oes unrhyw dargedau y gellir mewn gwirionedd dwyn y Llywodraeth i gyfrif yn eu cylch, a dyna ein gwaith yn y Siambr hon ac fel aelodau o'r Cynulliad—dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Allwn ni ddim gwneud hynny oni bai bod gennym ni rai targedau pendant i roi llinyn mesur yn eich erbyn.

Nawr, rydych chi'n dweud, Ysgrifennydd y Cabinet, bod y cynllun gweithredu economaidd yn nodi agenda uchelgeisiol ar gyfer newid. Ond ni allaf weld unrhyw beth sy'n amlinellu unrhyw gynigion pendant o gwbl ynghylch cynyddu cynhyrchiant yn economi Cymru—digon o amcanion, ond dim cynigion pendant. Nawr, mewn cyfarfod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ym mis Ionawr, fe wnaethoch chi ddweud bod gwaith ar y gweill i gyflawni'r cynllun gweithredu economaidd newydd hwn, a bod peth rhwystredigaeth gan yr Aelodau nad oedd dim rhagor o fanylion ar y pryd. Pan ofynnodd aelodau'r Pwyllgor i chi am hynny, a gofyn am fanylion, fe wnaethoch chi sôn sut mae trafodaethau ar y gweill rhwng Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid perthnasol a dywedasoch y byddai mwy o fanylion yn dilyn. Ond dri mis yn ddiweddarach, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig i chi yn eich holi am y cynnydd, ac fe wnaethoch chi ateb y buoch chi'n trafod ein dull gweithredu gyda busnesau a sefydliadau eraill ledled Cymru.

Wel, mae hynny yr un peth yn union ag y dywedasoch chi wrthym ni dri mis cyn hynny. Felly, ymddengys i mi mai ychydig iawn o gynnydd a wneir. Felly, a gaf i ofyn: pryd fyddwn ni o'r diwedd yn gweld rhywbeth ystyrlon yn digwydd o ran gweithredu'r cynllun? A allwch chi amlinellu pa fesurau fydd yna ar gyfer llwyddiant, oherwydd, cyn belled ag y gallaf i weld, mae yna strategaeth sy'n cynnwys 17,000 o eiriau teg, ond dim un targed?

Nawr, cyn belled ag yr wyf i'n deall hefyd, nid yw'r contract economaidd yn rhoi unrhyw fanylion ystyrlon ynghylch sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi busnesau yn y dyfodol. Yr hyn a welaf i yw llawer o dâp coch a gwaith gweinyddol. Felly, yn hynny o beth, a gaf i ofyn ichi amlinellu pa atebion polisi syml, ymarferol ac ystyrlon sydd wedi'u cynnwys yn eich cynllun gweithredu economaidd i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng cynhyrchiant yng Nghymru, a fydd yn gwneud gwahaniaeth ymarferol i sut mae busnesau yn gweithredu o ddydd i ddydd ar hyd a lles Cymru ac, yn y pen draw, yn eu galluogi i godi cyflogau eu gweithlu, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr ydym ni i gyd eisiau ei weld? Felly, rwy'n edrych am atebion yn eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Hefyd, sut mae ardaloedd menter a denu buddsoddiad uniongyrchol o dramor yn asio i'ch cynllun gweithredu? Nid oes unrhyw sôn o gwbl am hynny yn eich cynllun gweithredu nac yn eich datganiad y prynhawn yma.

Nawr, rwy'n amau bod hwn yn faes y byddwch yn cytuno â mi yn ei gylch. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno bod angen i economi Cymru newid i fod yn ddiwylliant buddsoddi sy'n cefnogi cwmnïau o Gymru ac yn sicrhau gwerth i drethdalwyr Cymru. Felly, sut mae eich strategaeth yn gwneud cynnydd tuag at y diwylliant buddsoddi hwnnw? Pa bwyslais sydd yna ar gefnogi ein busnesau bach a chanolig presennol? Os oes busnes bach a chanolig yn gwylio heddiw, yn gwrando ar hyn, helpwch nhw i ddeall sut mae hyn yn mynd i'w cefnogi. Pa fwriad sydd gan y Llywodraeth o ddefnyddio caffael cyhoeddus i gefnogi economi Cymru, oherwydd, yn ôl a ddeallaf i, nid yw'r cynllun gweithredu yn cynnwys unrhyw fesurau ymarferol i gynyddu faint o gymorth y mae cwmnïau yng Nghymru yn ei gael o wariant cyhoeddus yng Nghymru? Hefyd, sut y caiff strategaeth ddiwydiannol Llywodraeth y DU ei hintegreiddio i'ch cynllun economaidd? A sut fyddwch chi'n rhoi sylw i'r anghydraddoldeb rhanbarthol sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o Gymru?

O ran codi cyflogau, mae gweithgarwch allforio yn gwbl hanfodol, wrth gwrs, ar gyfer cynyddu twf a swyddi a chyflogau ledled Cymru. Pan holais chi am hyn mewn datganiad ysgrifenedig ychydig wythnosau yn ôl, soniasoch am gyhoeddi manylion ar eich gwefan a bod peth gwaith ymgysylltu wedi ei wneud drwy ClickShare a chysylltiadau fideo ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond ydych chi'n gwbl fodlon, Ysgrifennydd y Cabinet, bod gweithredu economaidd yn gwneud y gwaith o hybu allforion Cymru yn y tymor hir?

Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, ar wahân, wrth gwrs, i fygythiad i gyflwyno treth newydd andwyol ar y diwydiant twristiaeth yng Nghymru, pa fesurau penodol a geir o fewn y cynllun gweithredu a gaiff eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r sector twristiaeth yng Nghymru yn y dyfodol? Beth all y sector twristiaeth ymfalchïo ynddo yn eich cynllun gweithredu y prynhawn yma? Felly, mae'n ddrwg gennyf ddweud, i mi, nid yw'r ddogfen yn cynnwys yr atebion ymarferol i fynd i'r afael â'r heriau economaidd sy'n ein hwynebu.