Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Pan lansiais y cynllun gweithredu economaidd, eglurais fy mod yn cyflwyno dull newydd o sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda phwrpas cymdeithasol i gefnogi ein strategaeth genedlaethol 'Ffyniant i bawb' a'i phum maes blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, iechyd meddwl, cyflogadwyedd a sgiliau, tai, a gofal cymdeithasol. Drwy'r cynllun, rydym ni'n adeiladu ar y cynnydd ardderchog a wnaed gennym. Gyda dros 37,000 o swyddi wedi eu cefnogi ledled Cymru gyfan yn y flwyddyn ddiwethaf a thros 190,000 yn y pum mlynedd diwethaf o Lywodraeth, mae gennym ni hanes llwyddiannus. Fodd bynnag, mae ein heconomi yn newid ac mae'n rhaid inni newid gydag ef i fod yn gynhwysol ac yn gystadleuol yn y dyfodol. Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi cam mawr ymlaen wrth gyflawni'r cynllun a'i weledigaeth gymhellol i gryfhau ein sylfeini economaidd, diogelu busnesau ar gyfer y dyfodol a grymuso rhanbarthau cynhyrchiol a phobl.
Ers lansio'r cynllun gweithredu economaidd bum mis yn ôl, fe'm calonogwyd gan y ffordd gadarnhaol y cafodd ei dderbyn. Rydym ni wedi teithio ar hyd a lled Cymru i siarad â busnesau, cyrff cynrychioliadol ac eraill am y cynllun a cheisio eu barn ynglŷn â sut yr ydym ni yn gweithredu ac yn cyflawni ei ymrwymiadau. Bu'r sgyrsiau hyn yn gyffrous, yn heriol ac, uwchlaw popeth, yn hynod ddiddorol ac addysgiadol. Bu'r hyn a glywsom yn amhrisiadwy o ran y ffordd ymlaen, ac rwy'n ddiolchgar iawn i bawb a roddodd o'u hamser i siarad â ni. Bu natur y sgyrsiau hynny mor amrywiol â'r cyfranogwyr, ond mae nifer o negeseuon cyffredin wedi dod i'r amlwg dro ar ôl tro. Yn gyntaf, mae datblygu economaidd yn seiliedig ar berthynas gref nid yn unig rhwng busnes a Llywodraeth, ond hefyd ag amrywiaeth o bartneriaid eraill hefyd—ein sefydliadau dysgu, undebau llafur, awdurdodau lleol, y trydydd sector, ac, wrth gwrs, bobl. Yr ail yw pwysigrwydd cymesuredd a hyblygrwydd wrth ymdrin ag anghenion busnesau amrywiol o feintiau, mathau a lleoliadau gwahanol ledled Cymru. Yn drydydd, mae gwneud gwahaniaeth yn ymwneud â mwy na dim ond newidiadau mewn polisi; mae'n ymwneud â diwylliannau, arferion a ffyrdd o weithio.
Rydym ni wedi defnyddio'r dysgu hwn i ddatblygu'r model gweithredu newydd yr wyf yn ei lansio heddiw. Drwy'r contract economaidd, byddwn yn datblygu perthynas newydd a chryfach â busnesau i sbarduno twf cynhwysol ac arferion busnes cyfrifol. Bydd busnesau sy'n ceisio ein cefnogaeth yn dechrau ar drafodaeth barhaus gyda ni—un sy'n symud o gydfodolaeth i gydweithio. Rydym yn disgwyl i fusnesau ymrwymo i dwf, gwaith teg, lleihau ôl troed carbon, iechyd, sgiliau a dysgu yn y gweithle. Dyma'r mathau o arferion sydd eisoes i'w gweld mewn nifer o fusnesau llwyddiannus a chyfrifol. Byddwch yn cydnabod y busnesau hynny sydd eisoes yn ymdrechu i fabwysiadu arferion cyflogaeth a busnes cyfrifol, a byddwn yn annog ac yn cefnogi eraill i fabwysiadu arferion tebyg. Mae a wnelo hyn ag ymgysylltu, cymhelliant a lledaenu arferion da—dull rhywbeth-am-rywbeth cyfatebol.
Os yw'r contract economaidd yn canolbwyntio ar yr hyn y mae busnesau yn ei wneud heddiw, yna ein galwadau i weithredu fydd yn paratoi busnesau ar gyfer yfory. Rydym ni eisiau gweithio gyda busnes i gyd-fuddsoddi yn y math o fuddsoddiad a fydd yn eu paratoi i wynebu'r dyfodol a chryfhau ein heconomi heddiw ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. O heddiw ymlaen, pum galwad i weithredu fydd y lens newydd y byddwn yn sianelu drwyddo ein cyllid busnes uniongyrchol.
Mae'r galwadau i weithredu yn herio'r Llywodraeth a busnesau i ystyried buddsoddi yn y dyfodol drwy'r cyfraniad y bydd yn ei wneud i arloesi ac entrepreneuriaeth, ymchwil a datblygu ac awtomeiddio, allforion a masnach, swyddi a sgiliau o ansawdd uchel, a datgarboneiddio. Dyma rai o'r heriau strategol allweddol sydd gennym i fynd i'r afael â nhw os ydym yn mynd i sicrhau twf nid yn unig heddiw, ond twf sy'n gydnaws â'r dyfodol er mwyn manteisio i'r eithaf yn y cyfleoedd sydd o'n blaenau. Gyda'i gilydd, mae'r contract economaidd a'r galwadau i weithredu yn sail i'n model gweithredu newydd sydd wedi'i dargedu at sicrhau buddsoddiad cyhoeddus gyda diben cymdeithasol—gan sbarduno cyfoeth a lles, twf cynhwysol heddiw, a pharatoi busnes a'r economi ar gyfer yfory.
O heddiw ymlaen, byddwn yn newid yn gwbl ddidrafferth i'r dull newydd hwn. Ymdrinnir â'r holl gynigion buddsoddi busnes newydd a gyflwynir ar gyfer cymorth ariannol uniongyrchol dan fy rheolaeth uniongyrchol i yn y modd newydd hwn, gyda'r hen ffordd o weithio ond yn berthnasol i brosiectau etifeddol i warantu parhad busnes a throsi esmwyth. Wrth inni weithredu'r dull newydd hwn, rwy'n benderfynol ein bod yn manteisio ar yr hyn a ddysgir ac yn defnyddio hyn i fireinio ac ysgogi gwelliant parhaus. Mae hyn yn rhan o'n ffordd newydd o weithio, ac felly byddaf yn parhau â'r sgwrs â busnesau i gael eu barn ynglŷn â sut y mae model gweithredu newydd yn gweithio yn ymarferol fel y gall barhau i esblygu a llywio ein dull gweithredu yn unol â hynny. Fy ngweledigaeth i, ac un y Cabinet, yw, dros amser, y byddwn yn ehangu cwmpas y dull newydd hwn ac yn cofleidio cymorth ariannol uniongyrchol i fusnesau ar draws yr holl Lywodraeth. Fodd bynnag, mae hwn yn newid sylweddol, ac rwyf am sicrhau ein bod yn ei weithredu'n dda ac yn defnyddio ein dysgu ar gyfer gweithredu pellach.
Rwy'n cydnabod y galwadau gan fusnesau ac eraill i wneud ein dull ni o weithio yn fwy llyfn ac effeithiol lle bynnag y bo modd. Un o'r meysydd lle rydym ni'n clywed y ple hwn uchaf yw mewn cysylltiad â'n cymorth ariannol. Nid oes unrhyw amheuaeth bod busnesau yn gwerthfawrogi'r cymorth ariannol a ddarperir gennym ni ac mae ganddo ran fawr yn helpu rhai busnesau i gyflawni eu dyheadau i gynnal eu hunain a thyfu. Fodd bynnag, weithiau, gall yr amrywiaeth o gynlluniau, rhaglenni a chronfeydd a gynigiwn ni fod yn ddryslyd a chymhleth. Rwy'n ymateb i'r pryderon hyn ac, yn rhan o'r model gweithredu newydd, rwyf wedi cyfuno nifer o gynlluniau presennol o fewn cronfa newydd, sef cronfa dyfodol yr economi. Rwyf eisiau i'r cymorth ariannol uniongyrchol a gynigiwn i fusnes fod yn glir, yn hawdd ei ddeall ac yn ymatebol. Bydd cronfa dyfodol yr economi yn gwneud cyfraniad pwysig yn hynny o beth.
Yn unol â'r agenda hon o symleiddio, rwy'n falch o gyhoeddi y sefydlir bwrdd cynghori gweinidogol cyffredinol newydd ochr yn ochr â phroses gyfochrog i symleiddio'r cyrff cynghori presennol pan fo'n bosibl ac ymarferol. Bydd y bwrdd cynghori gweinidogol newydd yn ategu trefniadau partneriaeth cymdeithasol presennol ac yn darparu mecanwaith allanol cryf ar gyfer herio a chynghori a chefnogi'r broses o roi'r cynllun gweithredu economaidd ar waith yn effeithiol. Rwy'n sefydlu'r bwrdd cynghori gweinidogol yn gyfrwng pontio er mwyn caniatáu amser i gynnal proses penodiadau cyhoeddus. Caiff ei gadeirio gan Syr Adrian Webb, a chyhoeddir rhestr lawn o'r Aelodau ar wefan Llywodraeth Cymru.
Nid yw gweithredu'r cynllun economaidd yn dod i ben gyda'r datganiad hwn heddiw. Mae gennym waith pwysig i'w wneud wrth weithredu agweddau allweddol eraill ar y cynllun—ein dull newydd o ddatblygu economaidd rhanbarthol a gweithgarwch trawslywodraethol ehangach. Y rhain fydd y meysydd y byddwn yn canolbwyntio arnynt yn ail gam gweithredu'r cynllun, ac, i helpu i ddatblygu hyn, rwyf yn sefydlu bwrdd cyflawni trawslywodraethol o uwch weision sifil a byddaf yn ei gadeirio .
Wrth i ni roi'r cynllun hwn ar waith, byddwn yn dysgu o'r arferion gorau yn rhyngwladol, ac mae hyn yn cynnwys cymryd y cam dewr o fod yn agored i gael ein herio yn adeiladol gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chan arbenigwyr rhyngwladol eraill yn y maes datblygu economaidd. Byddaf mewn sefyllfa i roi manylion pellach am y gwaith hwn yn y cam gweithredu nesaf.
Edrychaf ymlaen at ddiweddaru'r Aelodau ar y datblygiadau hyn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd i ddod.