Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 22 Mai 2018.
Suzy, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o gwestiynau. Gadewch imi roi sylw iddyn nhw un ar y tro. Yn gyntaf, a ydym ni wedi sylwi ar unrhyw beth o ran yr ymgyrch i gynyddu safonau mewn sectorau preswyl—a yw'n cael unrhyw effaith, yn anecdotaidd? Rwyf yn cael gohebiaeth o bryd i'w gilydd, neu sylwadau, gan Aelodau Cynulliad unigol, ac mae'r arolygiaeth gofal yn ceisio ymdrin â'r rhain yn dringar. Rwy'n gwybod fy mod i'n cyfleu unrhyw bryderon sydd gan Aelodau unigol iddyn nhw yn uniongyrchol ac rwyf wedi edrych ar y mater fy hun. Byddan nhw'n ceisio ymdrin â hyn ar lawr gwlad mewn modd hynod dringar.
Ond, wrth gwrs, mae'r rheoliadau yr ydym ni wedi bod yn ceisio eu cyflwyno wedi bod yn hir ar ddod hefyd. Maen nhw wedi ceisio gweithio'n adeiladol iawn gyda chartrefi gofal unigol, rhai ohonynt yn sefydliadau llai, ac o gefndir mwy traddodiadol, efallai mewn ardal wledig hefyd, lle gallwn fforddio leiaf colli darpariaeth cartrefi gofal da. Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ymwybodol iawn o hyn ac yn awyddus iawn i weithio gyda'r cartrefi hynny i wneud yn siŵr y gallan nhw fodloni'r safonau newydd. Ond, yr hyn na fyddan nhw'n ei wneud—ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n deall hyn, Suzy—yw aberthu'r safonau y mae'r Cynulliad hwn wedi cytuno mewn gwirionedd y mae angen i ni anelu atynt—felly, y pethau hynny fel cael terfyn uchaf o 15 y cant ar faint o lety a rennir mewn cartref, ac y dylai llety a rennir fod drwy gytundeb yr unigolion sy'n ei rannu. Pethau fel hynny—dechrau cyflwyno cyfleusterau en-suite ac ati, ac ati. Mae'r rhain i gyd wedi bod cryn amser yn cael eu gwireddu. Mae adroddiadau anecdotaidd neu fel arall yn dod i fy llaw o bryd i'w gilydd gan Aelodau'r Cynulliad, neu lythyr bob hyn a hyn yn dweud, 'Rydym ni'n cael anhawster i'w fodloni', a bydd Arolygiaeth Gofal Cymru yn ceisio annog y cartrefi hynny, wedyn, a gweithio gyda nhw, ond mae'n rhaid i ni gyrraedd y safonau hynny, oherwydd ar ddiwedd y dydd, dyma'r canlyniadau sy'n ymwneud â'r unigolion hynny yn y meysydd hynny.
Fe wnaethoch chi sôn am effeithiau cofrestru. Mae hi braidd yn rhy gynnar i ddweud yn fanwl ar hyn o bryd. Rydym ni yn y cyfnod ble rydym ni'n gwybod bod gennym ni bobl yn cyflwyno'u hunain ac yn cofrestru o'u gwirfodd, sy'n wych—dyna beth rydym ni eisiau ei weld. Mae'n rhan o'r newid hwn o'r cofrestru gwirfoddol i gofrestru gorfodol, ond mae fwy na thebyg yn rhy gynnar eto. Cyn gynted ag y gallwn ni weld pa effaith mae hynny yn ei gael, yn rhan o gynyddu'n gyffredinol werth y gweithwyr hynny, i geisio, yn wir, eu hannog i aros yn y maes hwn fel proffesiwn, fel gyrfa—. Rhan o hynny, hefyd, yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud wrth ddatblygu strategaeth cymwysterau a gweithlu yn gyffredinol, ac roedd yn ddiddorol mai dim ond yn ddiweddar—rwy'n credu yn y pythefnos neu dair wythnos diwethaf—y gwnaethom ni gyhoeddi'r cymwysterau lefel 2 mewn iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol i raddau helaeth â'n syniadau mai'r hyn yr ydym ni'n dymuno'i wneud yw llunio llwybrau sy'n rhychwantu'r disgyblaethau hyn, fel y gall pobl weld bod gyrfa, nid swydd dewis gwneud neu ddewis peidio a dim mwy na hynny.
Mae'r sector annibynnol elusennol preifat, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, y sector mentrau cymdeithasol, yn rhan o'n gweledigaeth ar gyfer sector amrywiol a all fod yn sail i sector cydnerth, ym maes gofal preswyl ond hefyd ym maes gofal cartref, ochr yn ochr â darpariaeth fewnol hefyd. Felly, yn sicr nid ydym yn eu gweld yn wrthun i'r math o weledigaeth sydd gennym ni ar gyfer gwella ansawdd y gofal yn gyffredinol—maen nhw'n rhan o'r broses honno. Ac mae'n galonogol i mi, mewn gwirionedd, sut mae'r sector elusennol annibynnol a'r sector menter gymdeithasol wedi ymwneud o ddifri â hyn ochr yn ochr â rhanddeiliaid eraill, ac yn gwbl gefnogol o hynny.
O ran cymorth ar ôl cael lleoliad, wel mae cwmpas o fewn yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i fynd ymhellach. Mae'n ddiddorol wrth edrych, er enghraifft, ar y cymhlethdodau sy'n ymwneud â symud i reoleiddio gwasanaethau mabwysiadu neu wasanaethau eiriolaeth. Mae'r rhain yn feysydd cymhleth. Mae cymorth ar ôl cael lleoliad yn y maes mabwysiadu yn un o'r meysydd hynny y gallwn ni ei gynnwys mewn gwirionedd yn y rheoliadau hyn, ond rydym yn arbrofi gyda hyn mewn meysydd eraill yn gyntaf, yn dysgu'r gwersi ac yna, rwy'n siŵr y bydd y Cynulliad yn falch o glywed, byddwn yn ailystyried ac yn gwneud hynny.
Yn olaf, os caf i grybwyll yn fyr yr agwedd gyntaf y soniasoch chi amdani, sef yr amserlenni. Felly, mae'r rheoliadau drafft—ni allaf roi union ddyddiad i chi, ond byddwn yn ymgynghori'n fuan iawn ar y rheoliadau drafft ynglŷn â maethu, lleoliadau oedolion a rhai gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant. Wedyn, o ran mabwysiadu, oherwydd y cymhlethdodau cysylltiedig, byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach, fwy na thebyg yn gynnar yn yr hydref, ynglŷn â hynny, ond â'r nod mewn gwirionedd o gyflwyno pob un o'r rhain ar y cyd i'w gweithredu yng ngwanwyn 2019. Felly, er y bydd oedi cyn ymgynghori ar un o'r materion, ein bwriad, yn amodol ar gytundeb y Cynulliad, yw eu gweithredu i gyd ar yr un pryd.