Part of the debate – Senedd Cymru am 4:45 pm ar 22 Mai 2018.
Y llynedd, sefydlais y panel arbenigol rhyw a chydberthynas i ddarparu cyngor annibynnol ar y materion hyn, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i aelodau'r panel arbenigol a'i gadeirydd, yr Athro Emma Renold, am eu gwaith rhagorol. Cydnabu eu hadroddiad bod rhai arferion rhagorol yn digwydd yn ein hysgolion. Fodd bynnag, nid yw hyn yn digwydd ym mhob un o'n hystafelloedd dosbarth, a llawer ohonynt ddim ond yn canolbwyntio ar agweddau biolegol y cydberthnasau dynol. Ond, ni ellir ac ni ddylid dysgu rhyw ar wahân. Dylid ei roi yn y cyd-destun ehangach o faterion cymdeithasol a diwylliannol sy'n effeithio ar sut yr ydym yn canfod ein hunain ac yn meithrin perthynas ag eraill.
Gwnaeth y panel arbenigol 11 o argymhellion sydd, gyda'i gilydd, yn ffurfio cynllun cyfannol ar gyfer gwella'r ddarpariaeth, ar gyfer ein carfan bresennol o ddysgwyr a'r rhai fydd yn dysgu dan ein cwricwlwm newydd. Un argymhelliad yw y dylai'r maes astudiaeth hwn fod yn rhan statudol o'r cwricwlwm newydd ar gyfer Cymru. Bydd statws statudol yn diogelu mynediad at addysg rhyw draddodiadol, ond hefyd yn annog ysgolion i ymgysylltu ag ystod ehangach o bynciau a nodwyd gan y panel arbenigol. Bydd hefyd yn gwella pwyslais y cwricwlwm newydd ar iechyd a lles.
Wrth inni newid y ffordd yr ydym yn meddwl am addysg rhyw, argymhellodd y panel y dylid hefyd newid ei enw i gynrychioli yn well yr amrywiaeth ehangach o bynciau y mae'n ymdrin â nhw. Rwy'n bwriadu ailenwi'r maes astudiaeth hwn yn 'addysg rhywioldeb a pherthnasoedd'—RSE. Mae hyn er mwyn rhoi pwyslais ar ddysgu am ffurfio a chynnal perthnasoedd iach fel un o ddibenion allweddol y maes astudiaeth hwn.
'Addysg rhywioldeb' fel y'i diffinnir gan sefydliad iechyd y byd, yw dysgu am wneuthuriad cymdeithasol, diwylliannol ehangach ynghylch perthnasoedd. Mae hyn yn cynnwys sut yr ydym yn ffurfio credoau ac agweddau, sut yr ydym yn sefydlu amrywiaeth o berthnasoedd a sut y mae materion diwylliannol, megis hunaniaeth o ran rhywedd, stereoteipiau ac anghydraddoldeb, yn llywio ein gwerthoedd. Mae'r dysgu ehangach hwn, sydd wedi'i gynnwys o dan 'addysg rhywioldeb', yn hanfodol ac yn hollbwysig i ddatblygu dealltwriaeth pobl ifanc o amrywiaeth eang o faterion, materion megis caniatâd, trais yn erbyn menywod, mathau eraill o drais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a pharch at amrywiaeth. Drwy ddysgu am berthnasoedd a rhywioldeb, mae dysgwyr yn ffurfio dealltwriaeth lawn o sut y gall gwerthoedd yr unigolyn, y gymuned a'r gymdeithas effeithio ar ein gallu i sefydlu perthnasoedd parchus a boddhaus.
Fodd bynnag, ni fyddaf yn aros am y cwricwlwm newydd i fwrw ymlaen â'r newid hwn; mae'n rhywbeth y gallwn ei wneud ar unwaith. Bydd fy swyddogion yn diweddaru'r canllawiau presennol ar gyfer ysgolion i adlewyrchu'r newid hwn mewn enw, yn ogystal â darparu mwy o gefnogaeth ar amrywiaeth o bynciau.
Mae addysg statudol yng Nghymru yn dechrau yn bump oed, felly, bydd addysg rhywioldeb a pherthnasoedd statudol hefyd yn dechrau ar yr oedran hwn. Hoffwn egluro, Llywydd, nid ydym yn bwriadu dysgu plant am bynciau nad ydynt yn barod yn ddatblygiadol ar eu cyfer. Ar hyn o bryd mae gennym y cyfnod sylfaen, sy'n darparu dysgu ar gyfer ein plant ieuengaf, ac mae hyn eisoes yn cynnwys maes dysgu ar gyfer datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth diwylliannol. O fewn y maes hwn, mae plant yn dysgu am berthnasoedd â ffrindiau a theulu a sut i gadw eu hunain yn ddiogel. Felly, gan fod dysgu ynghylch y maes hwn eisoes wedi'i gyflenwi'n dda mewn addysg blynyddoedd cynnar, byddwn yn disgwyl gweld dulliau tebyg o dan y cwricwlwm newydd.
Nid yw gwneud RSE yn statudol, ar ei ben ei hun, yn ddigon i sicrhau y byddwn yn gwireddu'r weledigaeth hon o ddarpariaeth o ansawdd uchel yn ein hysgolion, ar gyfer ein dysgwyr presennol ac yn y dyfodol. Mae dysgu proffesiynol, cefnogi ein hathrawon i fod yn wybodus, yn hyderus ac yn ymatebol i anghenion dysgwyr, yn hanfodol. Pwysleisiodd y panel arbenigol bwysigrwydd sefydlu llwybrau dysgu proffesiynol arbenigol ar gyfer RSE, o fewn addysg gychwynnol athrawon ac ar gyfer y gweithlu presennol. Rwy'n cytuno, wrth inni symud i system a arweinir gan ysgol a gan athrawon, fod yn rhaid inni ddechrau'r broses o sicrhau bod ganddynt yr hyfforddiant a'r cymorth sydd eu hangen arnynt i ddarparu addysgu effeithiol.
Rwyf felly hefyd yn bwriadu derbyn, mewn egwyddor, argymhellion eraill y panel arbenigol er mwyn inni gymryd ymagwedd strategol a chyfannol at wella RSE. Nid wyf yn edrych i dincran o gwmpas yr ymylon; fy ngweledigaeth i yw ein bod yn trawsnewid y ffordd y darperir y maes astudiaeth hwn, yn awr ac yn y dyfodol. I gychwyn y broses hon rwyf wedi sicrhau bod £200,000 ar gael i gonsortia i ddechrau ar y broses o nodi anghenion dysgu proffesiynol yn y maes hwn. Dyfarnwyd £50,000 pellach hefyd i Cymorth i Fenywod Cymru i ddatblygu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer athrawon.
Llywydd, mae'r hyn yr ydym yn ei wneud yn aruthrol o bwysig i les y genhedlaeth nesaf. Mae'r perthnasoedd yr ydym yn eu ffurfio trwy gydol ein bywydau, o'n teulu i'n ffrindiau i'n partneriaid rhamantaidd, yn rhwydweithiau cymorth hanfodol. Maen nhw'n gwneud inni deimlo'n ddiogel, maen nhw'n ein gwneud yn hapus ac maen nhw'n rhoi cysur neu o leiaf fe ddylen nhw. Penderfynir ar sut yr ydym yn gallu ffurfio'r perthnasoedd hyn ar oedran ifanc iawn, ac maen nhw'n hanfodol i'n gallu i ffynnu. Drwy fwrw ymlaen ag argymhellion y panel arbenigol, ac felly ysgogi gwelliannau gwirioneddol yn ansawdd y ddarpariaeth RSE, byddwn yn cyfrannu at wneud Cymru yn lle iachach, hapusach a mwy cysylltiedig.