Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 22 Mai 2018.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn. Rydw i’n croesawu agoriad y Gweinidog, a’i deitl newydd—nid oeddwn i wedi sylweddoli bod ychwanegiad i’ch teitl. Ond, yn bennaf oll, wrth gwrs, yn y ddadl yma, rydym ni’n talu teyrnged i waith y comisiynydd, fel rydym ni wedi ei glywed, sydd yn gadael ar ôl chwe blynedd, ac mae wedi bod yn waith clodwiw iawn. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cydweithio sawl tro efo'r comisiynydd pobl hŷn ar sawl arolwg, ac y mae ei barn a’i thystiolaeth wedi bod o fudd arbennig bob tro. Dim ond wythnos diwethaf yr oeddem ni’n lansio’r adroddiad yna ar y defnydd—defnydd anaddas, yn aml—o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, ac mae yna her sylweddol o flaen y Llywodraeth a phawb yn y maes yn fanna i wireddu dyheadau'r adroddiad yna. Ac, hefyd, roedd y comisiynydd pobl hŷn ynghlwm â sawl arolwg arall, gan gynnwys ein hadroddiad ni i unigrwydd ac unigedd, ac roedd ei phrofiad hi wrth gyfarfod â phobl ledled Cymru wedi helpu i lywio argymhellion yr adroddiad yna hefyd.
Mi fyddwn ni, fel plaid, yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma. Mae angen mwy o bwerau ar y lle yma yn nhermau hawliau pobl hŷn, ac, wrth gwrs, efo Deddf Cymru 2017 a nawr y Bil ymadael ag Ewrop, rydym ni’n colli pwerau o’r lle yma. Rydw i’n falch i groesawu’r syniad bod hyd yn oed y Ceidwadwyr eisiau rhagor o bwerau yn y lle yma, felly, yn naturiol, mi fyddwn ni yn cefnogi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad.
Mae yna sawl thema, wrth gwrs—yn fyr rŵan. Rydym ni wedi clywed lot am y baich o bobl hŷn, ond, ar ddiwedd y dydd, mae eisiau hefyd dathlu'r ffaith bod cynifer gyda ni o bobl hŷn yn ein gwlad. Mae pobl yn barod iawn i feirniadu ein gwasanaeth iechyd, ond mae’n wir i ddweud bod gennym ni’r nifer fwyaf o bobl hŷn a fu yma erioed, a’r mwyaf posib ohonyn nhw hefyd yn dal yn heini; yn dal yn ffit—mwy o bobl nag erioed o’r blaen.
Yn ôl ym 1950, fel rydw i wedi dweud wrthych chi o’r blaen, dim ond 250 o bobl trwy Brydain a wnaeth gyrraedd 100 mlwydd oed. Erbyn 1990, roedd y ffigwr yna wedi codi i 2,500 o bobl yn cyrraedd eu 100 mlwydd oed, ac yn teilyngu cael cerdyn pen-blwydd oddi wrth y Frenhines. Ddwy flynedd yn ôl, roedd y nifer yna wedi cyrraedd dros 14,000 o gardiau pen-blwydd yr oedd yn rhaid i’r Frenhines eu harwyddo. Goblygiadau amlwg, felly, i weithdrefnau'r Frenhines, os dim byd arall, ond hefyd arwydd o lwyddiant y gwasanaeth iechyd, dŵr glân, system imiwneiddio, gwell deiet, cartrefi clyd ac ati—ond yn benodol y gwasanaeth iechyd, sydd wastad dan y lach. Ond mae angen cynllunio am y twf yna yn y boblogaeth hŷn, nid yn unig ychwanegu at deitl y Gweinidog ond cynllunio, a gwasanaeth gofal sydd angen ei gynllunio yn fanna, ac mae ar hwnnw angen llawer mwy o flaenoriaeth. Mae wastad yn gysgod i’r gwasanaeth iechyd; mae’n rhaid i’r gwasanaeth gofal gael llawer mwy o flaenoriaeth, y cyllid, a’r drefn i fod ar yr un donfedd â’r gwasanaeth iechyd, a hefyd gyda’r ddarpariaeth tai.
Mae'r agenda llymder yn Lloegr a'r tanwario ar wasanaethau gofal yn Lloegr yn achosi 22,000 o farwolaethau ymysg pobl hŷn bob blwyddyn. Dyna ganlyniad arolwg y llynedd gan y British Medical Journal. Meddyliwch amdano fe: 22,000 o bobl hŷn yn marw yn gynnar o achos diffyg darpariaeth gwasanaethau gofal achos arbediadau ariannol. Diffyg cyllid yn golygu codi'r trothwy i dderbyn gofal gan siroedd Lloegr, a'r diffyg gofal yna yn esgor ar farwolaethau cynnar.
Felly, mae hyn i gyd, i ddiweddu, yn her i gymdeithas. A ydym ni'n wirioneddol yn parchu ein pobl hŷn, yn parchu ein cenhedlaeth hŷn? A ydym ni'n parchu ac yn rhoi urddas pwrpasol i genhedlaeth hŷn sydd wedi bod drwy lawer? Mae'r gallu gyda nhw. Mae'r profiad gyda nhw. Maen nhw wedi gweld pob peth o'r blaen. Ac eto rydym ni'n diystyru eu profiad nhw. A ydym ni'n dathlu eu goroesiad nhw, neu a ydym ni'n fodlon parhau efo'r tanwario ar y gwasanaethau sylfaenol hynny sydd yno i'w cynorthwyo? Mae angen llawer gwell darpariaeth gwasanaeth gofal yn ein cymunedau ni, a hefyd gwasanaethau darparu gofal seibiant pan fydd pobl yn sâl yn eu henaint. Mae angen cadw a chynyddu gwelyau yn y gymuned er mwyn i bawb allu edrych ar ôl ei gilydd gydag urddas a gyda pharch.
Felly, diolch yn fawr iawn i'r comisiynydd pobl hŷn am guro'n gryf ar y drysau a oedd angen clywed y curo ac am godi llais. Beth am Lywodraeth i ymateb?