– Senedd Cymru ar 22 Mai 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn—2017-18. Rydw i'n galw ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i wneud y cynnig—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch yn gyhoeddus i'r comisiynydd a'i thîm am yr holl waith gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r comisiynydd wedi ennill parch a ffydd pobl hŷn ledled Cymru, ac yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, mae'r comisiynydd a'i thîm wedi cwrdd â 169 grwpiau a 3,300 o unigolion. Mae'r ymgysylltu helaeth hwn wedi caniatáu i'r comisiynydd siarad yn wybodus a hyderus ynghylch sut y gallwn ni i gyd gydweithio i greu cymunedau cydnerth a bod yn genedl lle gall pawb edrych ymlaen at heneiddio.
Diolch i Paul Davies am y gwelliant cyntaf a gyflwynwyd, i gyflwyno Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn, ond rwy'n gwrthwynebu'r gwelliant hwn. Nawr, rwy'n cytuno â Paul fod yn rhaid inni rymuso pobl hŷn i siarad pan nad yw eu hawliau yn cael eu bodloni, ond rwy'n anghytuno bod angen deddfwriaeth newydd, ychwanegol, fel Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r comisiynydd sy'n ymadael i gytuno ar ddewis amgen i ddeddfwriaeth a fydd yn gwireddu hawliau i bobl hŷn. Yn wir, mae'r comisiynydd wedi dweud y bu hi'n falch o'n hymrwymiad i'r agenda hawliau, ac roedd hi'n croesawu'n gryf ein cynigion yn lansiad ei hadroddiad etifeddiaeth yr wythnos diwethaf.
Felly, mae'r camau gweithredu yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda'r comisiynydd yn cynnwys ond nid yn gyfyngedig i'r canlynol: datblygu'r hawliau statudol clir yr ydym ni wedi eu rhoi ar waith o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 drwy gyd-gynhyrchu canllawiau ymarferol—canllawiau ymarferol—sy'n dangos sut i wireddu egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i bobl hŷn; diwygio'r canllawiau sy'n ymwneud â phryderon cynyddol ynglŷn â chau cartrefi gofal, a fydd, rwy'n gwybod, o ddiddordeb i rai Aelodau yn y fan yma; cynnwys y naratif hawliau dynol yn adroddiadau arolygu cartrefi gofal; a chael cyngor gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG ynglŷn â sut i sicrhau bod hawliau wrth wraidd ein GIG yng Nghymru. Ond bydd ein pwyslais cychwynnol ar ddiogelu ac eirioli, gan ein bod yn cytuno â'r comisiynydd bod y rhain yn feysydd y mae angen inni eu cael yn iawn os ydym ni i gefnogi'r holl bobl hŷn i wneud penderfyniadau am eu gofal ac ansawdd eu bywydau.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Os caf i barhau am eiliad yn unig. Dyna pam rwyf i'n hapus i gefnogi'r ail welliant, sydd hefyd wedi'i gyflwyno gan Paul Davies. Derbyniaf yr ymyriad.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich sylwadau agoriadol, yn dweud eich bod yn cytuno mewn egwyddor â'r angen i ymestyn a datblygu hawliau pobl hŷn a'r ymwybyddiaeth ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Ond a allwch chi ddweud wrthyf i pam mae Llywodraeth Cymru mor anghyson o ran hawliau? Pam mae gan blant a phobl ifanc ddarn penodol o ddeddfwriaeth ar lyfr statud Cymru i ddiogelu eu hawliau a does gan hen bobl ddim un? Onid ydych chi'n credu bod hen bobl mor werthfawr i gymdeithas â phobl ifanc, ac felly y dylen nhw gael eu hamddiffyn gan ddarn o ddeddfwriaeth hefyd?
Gallaf weld y prif bwynt yr ydych chi'n ei wneud, Darren, ond byddwn yn eich cyfeirio'n ôl at y datganiad y gwnaeth y comisiynydd pobl hŷn yr wythnos diwethaf wrth lansio ei hadroddiad etifeddiaeth, lle roedd hi mewn gwirionedd yn croesawu'r dull yr oeddem ni'n ei ddefnyddio, oherwydd ei fod yn gwneud hawliau'n bethau go iawn. Nid yw'n chwilio am ddarn arall o ddeddfwriaeth oddi ar y silff ar Fil hawliau, mewn gwirionedd mae'n dweud, 'Sut ydym ni'n gwneud y rhain yn bethau gwirioneddol a diriaethol ym mywydau pobl hŷn?' Nawr, os gallwn ni gytuno mai dyna'r cyfeiriad y dylem ni fod yn mynd iddo—y canlyniadau ar gyfer pobl hŷn—yn hytrach na Bil hawliau arall neu beth bynnag, yna gadewch inni fwrw iddi, ac fe'i croesawyd gan y comisiynydd pobl hŷn. Rydym ni'n bwriadu gweithio gyda'r comisiynydd newydd fydd yn cael ei benodi, pan gaiff hynny ei gyhoeddi, i fwrw ymlaen â hyn hefyd.
Felly, beth bynnag, fel y dywedais i, rwy'n hapus, ac rwy'n siŵr y bydd yn dod â gwên i wyneb Darren, y byddwn ni'n cefnogi'r ail welliant, a gyflwynir gan ei gyd-Aelod, Paul Davies. Gall gwasanaethau eirioli annibynnol roi llais i bobl sy'n cael trafferth gwneud dewisiadau ynglŷn â'u bywydau eu hunain. Rydym ni'n cydnabod y ceir adegau pan fydd angen cymorth ar unigolyn i sicrhau y caiff eu hawliau eu parchu.
Yn rhan o'r gyfres o gamau yr ydym ni wedi cytuno arnyn nhw gyda'r comisiynydd i wireddu hawliau i bobl hŷn, byddwn ni'n ailystyried rhan 10 o'r cod ymarfer ar eiriolaeth gyda'r bwriad o ddatblygu canllawiau ymarferol ynglŷn â rhoi sylw dyledus i egwyddorion y Cenhedloedd Unedig. Yn ogystal â hyn, mae fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gwasanaethau eirioli annibynnol ar gyfer oedolion yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Bydd y fframwaith yn gwella ansawdd, cysondeb ac argaeledd gwasanaethau ledled Cymru.
Ym mis Ionawr 2018, cyhoeddodd y comisiynydd adroddiad dilynol i'w hadolygiad yn 2014 i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal. Mae'r adroddiad yn datgan bod cynnydd da wedi'i wneud mewn llawer o feysydd, ac mae'n dda iawn gwybod, bod y rhai hynny sy'n gweithio yn y sector gofal preswyl yn dechrau meddwl mewn ffordd wahanol iawn ac yn rhoi mwy o bwyslais ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau wedi gweld hyn wrth ymweld â rhai o'r cartrefi yn eu hardaloedd eu hunain. Ond mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r meysydd hynny lle nad yw gwaith wedi datblygu.
Un o'r meysydd hyn, er enghraifft, yw atal codymau. Sonnir am godymau eto fel thema yn y rhaglen Heneiddio'n Dda ac rwy'n rhannu barn y comisiynydd bod angen inni wneud mwy yn y maes hwn. Felly, rydym ni'n gweithio gyda My Home Life Cymru i ddechrau sgwrs â rheolwyr cartrefi gofal ynghylch sut y gallan nhw sicrhau cydbwysedd rhwng atal codymau â chymryd risgiau cadarnhaol. Ac mae gwaith yn parhau gyda rhaglen Gwella 1000 o Fywydau Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu rhaglen diogelwch cleifion a gwella ansawdd ar gyfer cartrefi gofal. Nod y rhaglen yw lleihau nifer y codymau mewn cartrefi gofal ac mae'n cynnwys mesurau i wella gofal anymataliaeth a rheoli meddyginiaethau, ond fel y dywed adroddiad y comisiynydd, ni allwn fod yn hunanfodlon; mae mwy i'w wneud.
Gadewch imi droi at agwedd arall ar waith y comisiynydd, sef yr adroddiad 'Ail-ystyried Seibiant'. Edrychodd yn fanwl ar un o'r canfyddiadau allweddol o'i hadroddiad 'Dementia: mwy na dim ond colli’r cof' yn 2016. Trwy drafodaethau â phobl sy'n byw â dementia a chyda'u gofalwyr, canfu'r comisiynydd bod diffyg hyblygrwydd yn y gwasanaethau yn aml i ddiwallu anghenion pobl, ac eto rydym ni'n gwybod bod darparu gofal seibiant yn un o'r blaenoriaethau cenedlaethol allweddol i wella bywydau gofalwyr yng Nghymru. Rydym ni bellach yn darparu £3 miliwn y flwyddyn i awdurdodau lleol ddarparu gofal seibiant ychwanegol i ofalwyr. Yn 2017-18, gwnaeth y cyllid gefnogi modelau mwy hyblyg, arloesol sy'n dangos bod y gofalwr a'r person y gofelir amdano wrth wraidd y ddarpariaeth seibiant.
Hoffwn ganmol y comisiynydd pobl hŷn am ei gwaith yn arwain y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru. Rwy'n cydnabod bod y rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru wedi gwneud cyfraniad mawr at gefnogi pawb i fyw bywydau iach, egnïol sy'n rhoi boddhad. Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd dod â phobl ynghyd sy'n ymrwymo i wneud newidiadau gwirioneddol i'r man lle maen nhw'n byw. Gall cysylltu pobl greu cyfeillgarwch, rhwydweithiau cymorth, a phartneriaethau sy'n helpu i ddatblygu cymunedau cydnerth.
Ac yn olaf, os gallaf gyfeirio at y meysydd y mae'r adroddiad yn cyfeirio atyn nhw gyda llawer o enghreifftiau o arfer da, mae'n dangos bod gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) Deddf 2014, a ddaeth drwy'r Cynulliad hwn, bod y rheoliadau a ddeilliodd ohoni a'r canllawiau statudol yn dod â newid cadarnhaol i bobl hŷn. Felly, hoffwn ddiolch i'r comisiynydd am gefnogi Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar y meysydd sydd fwyaf pwysig i bobl hŷn—a'u blaenoriaethau nhw yn dod yn flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog mai fy nheitl o hyn ymlaen fydd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Trwy wneud fy rôl yn fwy amlwg a chlir, byddaf yn gallu mynd ati i sefydlu dull o weithio ar draws y Llywodraeth ar faterion pobl hŷn. Rwy'n hyderus y bydd y rhaglen waith rŷm ni wedi cytuno arni gyda'r comisiynydd yn adeiladu ar ein deddfwriaeth drawsnewidiol ac yn cryfhau hawliau pobl hŷn.
Rydw i am i Gymru fod y lle gorau i heneiddio ynddo: gwlad lle mae llais pobl hŷn yn cael ei glywed, a'u cyfraniad i gymdeithas yn cael ei werthfawrogi, a hwythau yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i fyw bywydau bodlon. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, ac rydw i'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Janet Finch-Saunders.
Gwelliant 1. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil hawliau pobl hŷn, i godeiddio yng nghyfraith Cymru yr hawliau hynny sy'n berthnasol i bobl hŷn, er mwyn galluogi pobl hŷn i siarad lle nad yw eu hawliau'n cael eu bodloni.
Gwelliant 2. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i ymdrin â phryderon a godwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru na all nifer sylweddol o bobl hŷn yng Nghymru gael mynediad at wasanaethau eiriolaeth annibynnol.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliannau 1 a 2 yn enw Paul Davies, ac wrth wneud hynny rwy'n dymuno diolch i Sarah Rochira am ei gwaith yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru dros y chwe blynedd diwethaf. Mae ei harloesi a'i ysgogiad i ddatblygu agenda mwy cadarnhaol ar gyfer pobl hŷn wedi bod yn nodedig.
Nawr, o edrych ar yr adroddiad blynyddol, mae'r comisiynydd yn nodi nifer o themâu trawsbynciol i waith achos a wnaethpwyd yn ystod y flwyddyn. Mae prosesau cymhleth, cyfathrebu gwael a diffyg dealltwriaeth o anghenion pobl hŷn a'r effaith a gaiff penderfyniadau ar eu bywydau bob dydd yn peri pryder penodol. Mae'r rhain yn cyfrannu at ein gwelliant cyntaf sy'n galw am yr angen i sefydlu Bil hawliau ar gyfer pobl hŷn, wedi'i serio mewn cyfraith, ac nid ar chwarae bach yr ydym ni'n gwneud hynny. Ac rwy'n siomedig ar y cam hwyr hwn—a gwn y crybwyllwyd hyn yr wythnos diwethaf—fod y pwyslais wedi mynd oddi ar hynny erbyn hyn oherwydd, yn sicr, gyda'r gwaith yr wyf i wedi'i wneud gyda'r comisiynydd pobl hŷn dros y chwe blynedd diwethaf, dyma ble rwyf i wedi gweld ac wedi tystio yn uniongyrchol i hawliau sylfaenol hanfodol ein pobl hŷn yn cael eu tramgwyddo.
Mae ugain y cant o bensiynwyr Cymru yn byw mewn tlodi: sy'n cyfateb i un o bob pump; y lefel uchaf ond un yn y rhanbarthau ar ôl Llundain; y lefel waethaf ers 2003; pump y cant yn uwch na chyfartaledd y DU a Lloegr; a 7 y cant yn uwch na'r Alban a Gogledd Iwerddon. Ers 2015, mae 10,000 yn fwy o bensiynwyr Cymru nawr mewn tlodi, a Chymru yw'r unig ranbarth yn y DU yn y pum mlynedd ddiwethaf i weld cynnydd mor sydyn. Yn ogystal â hyn, rydym ni'n gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn dal i wynebu rhwystrau sylweddol: unigrwydd ac arwahanrwydd, mynediad i ofal sylfaenol—mae hwnnw'n hawl sylfaenol hanfodol. Dywedodd mwy na chwarter y bobl hŷn eu bod yn unig, a chredir bod 27 y cant wedi'u hynysu'n gymdeithasol. Mae mwy na 75 y cant o fenywod a thraean o ddynion dros 65 oed yn byw ar eu pennau eu hunain. Yn ogystal â hynny, mae mwy na 40,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn dioddef cam-drin domestig ar hyn o bryd, ac mae dros 150,000 wedi dioddef trosedd yn eu cartrefi eu hunain. Felly, dywedwch wrthyf i; dydw i ddim yn gwybod sut y mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn hawliau sylfaenol hanfodol o ran hynny.
Mae ein hail welliant yn cyfeirio at y diffyg mynediad at eiriolaeth annibynnol: tuedd sy'n prysur weld cynnydd yn y bobl sy'n dod i fy swyddfa fy hun oherwydd na allan nhw ddeall neu hyd yn oed gael gafael ar y driniaeth a'r cymorth sylfaenol sydd eu hangen arnynt ac y maen nhw mewn gwirionedd yn eu haeddu. Mae'r comisiynydd yn datgan nad yw cyrff cyhoeddus yn aml yn dda am ddysgu o'u camgymeriadau neu ddefnyddio profiadau a lleisiau pobl fel sail i'r cymhelliant i wella'r gwasanaeth yn barhaus.
Yn anffodus, rydym ni'n nodi bod y comisiynydd wedi gorfod mynd ar drywydd Llywodraeth Cymru am eu methiant i ddangos digon o gynnydd a gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol sy'n ymwneud â'i hadolygiad o gartrefi gofal yn 2014: gofal anymataliaeth, sy'n hawl sylfaenol; atal codymau; a chynllunio gweithlu—maen nhw i gyd yn faterion y mae angen cymryd camau pellach arnynt. Ac mae yna dystiolaeth, hefyd, o fethu â gallu yfed a bwyta yn gywir a phriodol—hawl sylfaenol hanfodol arall. Mae hanner miliwn o bobl hŷn yng Nghymru yn disgyn bob blwyddyn, a llawer yn cael codwm sawl gwaith cyn eu bod yn y pen draw yn mynd i'r ysbyty ac yna dydyn nhw methu symud yn barhaol, ac yn waeth. Mae hanner can mil yn dioddef anaf difrifol, a'r canlyniad yw nad ydyn nhw byth yn dychwelyd i'w cartrefi nac yn adennill eu hannibyniaeth ar ôl hynny. Mae'r comisiynydd yn datgan bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd ac awdurdodau lleol gymryd camau ystyrlon i gyflawni'r ymrwymiadau a wnaed ganddynt, a gwyddom ni i gyd nad yw canllawiau yn ddigon, mewn llawer o achosion, pan fo hyn dan sylw. Bydd methu â gwneud hynny yn golygu na fydd ein system cartrefi gofal yn gallu bodloni'r newid yn anghenion gofal a chymorth ein pobl hŷn. Bydd hyn yn golygu y bydd gormod o bobl hŷn yn byw mewn cartrefi gofal a byddan nhw'n parhau i gael bywyd o ansawdd annerbyniol.
Yn olaf, mae'r wythnos hon yn Wythnos Gweithredu ar Ddementia ac mae'n adeg briodol i alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu'r meysydd gwella hanfodol i 'Gynllun Gweithredu ar gyfer Dementia Cymru 2018-2022'. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar hawliau, amrywiaeth ac eiriolaeth, mwy o gydnabyddiaeth o lesiant ac anghenion gofalwyr, targedau hyfforddiant mwy uchelgeisiol, gwella gwasanaethau gofal seibiant, gwella swyddogaeth gweithwyr cymorth dementia a gwella llwybrau gofal lliniarol a diwedd oes.
Ac yn olaf, fel aelod o'r union fwrdd a benododd y comisiynydd pobl hŷn sydd ar fin camu i'r swydd, ac o ystyried rhwystredigaethau'r panel ynghylch y gweithwyr penodi yn y dyddiau cynnar a'r oedi a fu, byddwn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ar yr amserlenni dan sylw a phryd mae'n credu y bydd y Prif Weinidog yn gwneud y cyhoeddiad ar gyfer penodi'r comisiynydd nesaf. Mae'n hollbwysig bod ein pobl hŷn yng Nghymru yn cael cymorth comisiynydd, a hyd yn oed yn fwy pwysig eich bod chi, Llywodraeth Cymru, mewn gwirionedd yn ymgorffori mewn cyfraith yr hawliau sylfaenol hanfodol y mae ein pobl hŷn yn eu haeddu.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl yma ar adroddiad blynyddol y comisiynydd pobl hŷn. Rydw i’n croesawu agoriad y Gweinidog, a’i deitl newydd—nid oeddwn i wedi sylweddoli bod ychwanegiad i’ch teitl. Ond, yn bennaf oll, wrth gwrs, yn y ddadl yma, rydym ni’n talu teyrnged i waith y comisiynydd, fel rydym ni wedi ei glywed, sydd yn gadael ar ôl chwe blynedd, ac mae wedi bod yn waith clodwiw iawn. Fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cydweithio sawl tro efo'r comisiynydd pobl hŷn ar sawl arolwg, ac y mae ei barn a’i thystiolaeth wedi bod o fudd arbennig bob tro. Dim ond wythnos diwethaf yr oeddem ni’n lansio’r adroddiad yna ar y defnydd—defnydd anaddas, yn aml—o gyffuriau gwrthseicotig mewn cartrefi gofal, ac mae yna her sylweddol o flaen y Llywodraeth a phawb yn y maes yn fanna i wireddu dyheadau'r adroddiad yna. Ac, hefyd, roedd y comisiynydd pobl hŷn ynghlwm â sawl arolwg arall, gan gynnwys ein hadroddiad ni i unigrwydd ac unigedd, ac roedd ei phrofiad hi wrth gyfarfod â phobl ledled Cymru wedi helpu i lywio argymhellion yr adroddiad yna hefyd.
Mi fyddwn ni, fel plaid, yn cefnogi gwelliannau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma. Mae angen mwy o bwerau ar y lle yma yn nhermau hawliau pobl hŷn, ac, wrth gwrs, efo Deddf Cymru 2017 a nawr y Bil ymadael ag Ewrop, rydym ni’n colli pwerau o’r lle yma. Rydw i’n falch i groesawu’r syniad bod hyd yn oed y Ceidwadwyr eisiau rhagor o bwerau yn y lle yma, felly, yn naturiol, mi fyddwn ni yn cefnogi pwerau ychwanegol i’r Cynulliad.
Mae yna sawl thema, wrth gwrs—yn fyr rŵan. Rydym ni wedi clywed lot am y baich o bobl hŷn, ond, ar ddiwedd y dydd, mae eisiau hefyd dathlu'r ffaith bod cynifer gyda ni o bobl hŷn yn ein gwlad. Mae pobl yn barod iawn i feirniadu ein gwasanaeth iechyd, ond mae’n wir i ddweud bod gennym ni’r nifer fwyaf o bobl hŷn a fu yma erioed, a’r mwyaf posib ohonyn nhw hefyd yn dal yn heini; yn dal yn ffit—mwy o bobl nag erioed o’r blaen.
Yn ôl ym 1950, fel rydw i wedi dweud wrthych chi o’r blaen, dim ond 250 o bobl trwy Brydain a wnaeth gyrraedd 100 mlwydd oed. Erbyn 1990, roedd y ffigwr yna wedi codi i 2,500 o bobl yn cyrraedd eu 100 mlwydd oed, ac yn teilyngu cael cerdyn pen-blwydd oddi wrth y Frenhines. Ddwy flynedd yn ôl, roedd y nifer yna wedi cyrraedd dros 14,000 o gardiau pen-blwydd yr oedd yn rhaid i’r Frenhines eu harwyddo. Goblygiadau amlwg, felly, i weithdrefnau'r Frenhines, os dim byd arall, ond hefyd arwydd o lwyddiant y gwasanaeth iechyd, dŵr glân, system imiwneiddio, gwell deiet, cartrefi clyd ac ati—ond yn benodol y gwasanaeth iechyd, sydd wastad dan y lach. Ond mae angen cynllunio am y twf yna yn y boblogaeth hŷn, nid yn unig ychwanegu at deitl y Gweinidog ond cynllunio, a gwasanaeth gofal sydd angen ei gynllunio yn fanna, ac mae ar hwnnw angen llawer mwy o flaenoriaeth. Mae wastad yn gysgod i’r gwasanaeth iechyd; mae’n rhaid i’r gwasanaeth gofal gael llawer mwy o flaenoriaeth, y cyllid, a’r drefn i fod ar yr un donfedd â’r gwasanaeth iechyd, a hefyd gyda’r ddarpariaeth tai.
Mae'r agenda llymder yn Lloegr a'r tanwario ar wasanaethau gofal yn Lloegr yn achosi 22,000 o farwolaethau ymysg pobl hŷn bob blwyddyn. Dyna ganlyniad arolwg y llynedd gan y British Medical Journal. Meddyliwch amdano fe: 22,000 o bobl hŷn yn marw yn gynnar o achos diffyg darpariaeth gwasanaethau gofal achos arbediadau ariannol. Diffyg cyllid yn golygu codi'r trothwy i dderbyn gofal gan siroedd Lloegr, a'r diffyg gofal yna yn esgor ar farwolaethau cynnar.
Felly, mae hyn i gyd, i ddiweddu, yn her i gymdeithas. A ydym ni'n wirioneddol yn parchu ein pobl hŷn, yn parchu ein cenhedlaeth hŷn? A ydym ni'n parchu ac yn rhoi urddas pwrpasol i genhedlaeth hŷn sydd wedi bod drwy lawer? Mae'r gallu gyda nhw. Mae'r profiad gyda nhw. Maen nhw wedi gweld pob peth o'r blaen. Ac eto rydym ni'n diystyru eu profiad nhw. A ydym ni'n dathlu eu goroesiad nhw, neu a ydym ni'n fodlon parhau efo'r tanwario ar y gwasanaethau sylfaenol hynny sydd yno i'w cynorthwyo? Mae angen llawer gwell darpariaeth gwasanaeth gofal yn ein cymunedau ni, a hefyd gwasanaethau darparu gofal seibiant pan fydd pobl yn sâl yn eu henaint. Mae angen cadw a chynyddu gwelyau yn y gymuned er mwyn i bawb allu edrych ar ôl ei gilydd gydag urddas a gyda pharch.
Felly, diolch yn fawr iawn i'r comisiynydd pobl hŷn am guro'n gryf ar y drysau a oedd angen clywed y curo ac am godi llais. Beth am Lywodraeth i ymateb?
Cyn dechrau, teimlaf y dylwn i ddatgan buddiant a byddwn yn honni fy mod yn amlwg yn dra chymwys i gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n cymeradwyo yn llawn y Gweinidog pan ddywed ei fod yn dymuno i Gymru fod y lle gorau yn y byd i dyfu'n hen a hyd yn oed i fod yn hen. Rydym ni'n byw mewn byd sydd ag obsesiwn am oed a barn ystrydebol am bobl hŷn. Yn rhy aml rydym ni'n siarad amdanyn nhw mewn ffordd ddifrïol, amharchus a hyd yn oed difenwol. A dydw i ddim yn sôn am fy nheulu i yn y fan yma. Gall hyn danseilio hunan-barch, hunan-hyder ac annibyniaeth pobl hŷn. Mae'r ymadroddion 'baich gofal' a 'tswnami arian' a ddefnyddir weithiau gan y gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a sylwebyddion eraill yn gwbl annerbyniol. Mae llawer gormod o bobl hŷn yn teimlo bod gwasanaethau ac, yn wir, rhai rhannau o'r gymdeithas yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran yn unig. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ariannol, gwasanaethau iechyd ac asiantaethau cymorth hanfodol eraill.
Nid yw pobl hŷn yn grŵp unffurf y dylid eu diffinio yn ôl eu hoedran neu stereoteipiau. Mae rhoi cydraddoldeb a hawliau dynol wrth wraidd gwasanaethau cyhoeddus a'r gymdeithas ehangach yn rhoi gwell ansawdd bywyd i bawb, nid dim ond pobl hŷn. Cefais fy ngeni mewn oes pan gai aelodau hŷn o'r teulu nid yn unig eu parchu ond roedden nhw yn ganolbwynt y teulu. Y genhedlaeth hŷn oedd yn sicrhau bod safonau yn cael eu cadw a nhw oedd y rhai a oedd fwyaf tebygol o roi gwybod yn blwmp ac yn blaen i chi os oedd eich ymddygiad yn annerbyniol.
Dywedir bod mwy na 39,000 o bobl hŷn yng Nghymru—ffigur uwch nag yng ngweddill y DU—yn dioddef cam-drin. I lawer, mae hyn yn digwydd yn y lle y maen nhw'n ei alw'n gartref. Gall cam-drin domestig a thrais rhywiol effeithio ar unrhyw un, waeth beth yw eu rhyw, tarddiad ethnig neu eu cyfeiriadedd rhywiol. Mae'n ystadegyn trist bod pobl hŷn ag anableddau mewn hyd yn oed mwy o berygl o gael eu cam-drin na'r rheini heb ddiffygion o'r fath. Fwyfwy, mae pobl hŷn yn wynebu nid yn unig risg gorfforol ond hefyd risg emosiynol ac ariannol. Mae gwaith wedi dechrau yng Nghymru i wella'r modd yr ydym ni'n adnabod y rhai hynny sydd mewn perygl a'u cadw'n ddiogel, ond mae'n rhaid inni hefyd sicrhau bod pobl hŷn yn gallu manteisio ar gefnogaeth lawn ein systemau cyfiawnder sifil a throseddol.
Mae gwaith ymgysylltu ledled Cymru gyda phobl hŷn, eu teuluoedd a rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at bryder cynyddol am y ffordd y cafodd pobl hŷn eu trin yn yr ysbyty, yn enwedig o ran urddas a pharch. Mae gofynion y comisiynydd ar gyfer camau gweithredu yn amlinellu'n glir y newid sydd ei angen i wella ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal ledled Cymru. Erys pryderon sylweddol ynghylch y defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig ar gyfer pobl â dementia a defnydd amhriodol o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal. Mae'n rhaid inni sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio i sicrhau'r newid angenrheidiol a, thrwy hyn, i roi ansawdd bywyd wrth wraidd gofal preswyl a gofal nyrsio yng Nghymru, a sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gofal y mae ganddyn nhw'r hawl iddo.
Hoffwn ddiolch i Sarah Rochira am y gwaith mae hi wedi ei wneud dros y chwe blynedd o fod yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae hi wedi gadael gwaddol fydd yn caniatáu i bobl hŷn yng Nghymru gael eu trin â mwy o urddas a pharch.
Hoffwn ddechrau drwy hefyd ddweud 'diolch' wrth Sarah Rochira am ei chwe blynedd o waith yn Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Wrth gwrs, mae ei chyfnod yn swydd wedi ymdrin â rhai newidiadau mawr iawn, megis dyfodiad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, felly mae hi wedi bod yma ar adeg bwysig iawn. Credaf y dylem ni ddweud pa mor falch yr ydym ni mai Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu swyddogaeth comisiynydd pobl hŷn ac, yn wir, Sarah yw'r ail berson yn unig i gael y swydd honno.
Un o'r agweddau y credaf iddi ymdrin yn dda iawn ag ef yw'r mater o drin pobl hŷn ag urddas. Wrth gwrs, cynhaliodd ei rhagflaenydd, Ruth Marks, yr adolygiad 'Gofal Gydag Urddas?', a dilynodd Sarah hynny â'r adroddiad cynnydd 'Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach'. Credaf fod ei gwaith ar y mater hwn wedi bod yn bwysig iawn oherwydd, fel y dywedodd siaradwyr eraill heddiw, mae angen trin pobl hŷn ag urddas, ac nid ydyn nhw bob amser yn cael eu trin ag urddas. Rydym ni wedi gweld enghreifftiau o'r ffordd y gallai pobl hŷn fod wedi cael eu trin yn y system gofal neu yn yr ysbyty—lleiafrif, ond rwy'n credu mai dyna sy'n rhaid i ni fod yn ymwybodol ohono.
Wrth gwrs, rwy'n credu bod mater y cyffuriau gwrthseicotig eisoes wedi'i grybwyll yma heddiw, ac, yn ein hymchwiliad ar y pwyllgor iechyd, fe welsom ni fod cyffuriau gwrthseicotig efallai yn cael eu defnyddio'n amhriodol, ac nid yw hynny, wrth gwrs, yn trin pobl hŷn ag urddas. Felly, rwy'n credu bod ffordd bell i fynd, ond credaf fod Sarah wedi gwneud cyfraniad mawr, mewn gwirionedd, yn y maes penodol hwnnw, ac mae hi'n siarad yn huawdl iawn ynghylch sut y mae hi'n mynd ledled Cymru ac yn gwrando ar bawb. Roedd hi eisiau cael yr holl sgyrsiau hyn, ac fe wnaeth, a chredaf y llwyddodd hi i grisialu yr hyn yr oedd pobl hŷn eu hunain ei eisiau, ac, wrth gwrs, mae cael eu trin ag urddas yn un o'r materion mawr.
Y mater arall, wrth gwrs, yw pobl sy'n byw â dementia a'u teuluoedd. Unwaith eto, credaf y bu hi'n huawdl iawn yn tynnu sylw at y problemau o fyw gyda dementia. Rwy'n gwybod yr aeth nifer ohonom ni i sesiwn y Gymdeithas Alzheimer amser cinio heddiw ynghylch gwneud y Cynulliad yn lle sy'n deall dementia, ac rwy'n meddwl bod Sarah wedi helpu i gyfrannu at godi ymwybyddiaeth o hynny. Deallaf fod hanner yr holl Aelodau Cynulliad bellach wedi cytuno i ddod yn ffrindiau dementia, a gobeithiaf, mewn gwirionedd, y bydd pawb yn cytuno yn y pen draw. Credaf fod Sarah wedi bod yn rhan werthfawr iawn yn hynny o beth.
Roeddwn yn falch iawn ddoe o glywed y lansiwyd Caerdydd Dementia Gyfeillgar, a bod Caerdydd, y ddinas, wedi ymrwymo i ddod yn lle sy'n deall dementia, a sefydliadau fel Bws Caerdydd a Chlwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn ymrwymo i fod yn sefydliadau sy'n deall dementia. Rwy'n gwybod, yng Nghanolfan Celfyddydau Chapter, bydd sesiynau sgrinio a fydd yn agored i bobl â dementia, eu gofalwyr, teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. Rwy'n credu bod hynny'n ddatblygiad mawr yn y maes hwnnw hefyd. Rwy'n croesawu hefyd yr agenda Heneiddio'n Dda yng Nghymru a grybwyllodd y Gweinidog, drwy greu cymunedau sy'n deall dementia yn ogystal â chymunedau sy'n cefnogi dementia.
Ac, wrth gwrs, mae Sarah wedi tynnu sylw at y mater o unigrwydd ac arwahanrwydd, ac rwy'n credu pan edrychasom ni yn y Pwyllgor ar y mater o unigrwydd, y sylweddolwyd bod hwnnw'n un o'r materion mawr y mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef yng Nghymru ac y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad hwn fynd i'r afael ag ef. Credaf fod Sarah wedi gwneud cyfraniad enfawr i hynny.
Mae gan fy etholaeth i, Gogledd Caerdydd, fwy na dwbl y nifer o bobl dros 50 oed yn byw yno nag mewn unrhyw ran arall o'r ddinas. Mae 35,000 o bobl dros 50 yng Ngogledd Caerdydd, ac er nad wyf yn cyfrif 50 yn hen—yn bendant ddim—mae 35,000 o bobl ac, fel y dywedaf, mae'r crynodiad o bobl hŷn yng ngogledd y ddinas, yn fy etholaeth i. Rwy'n credu ei bod yn eithaf pwysig gydnabod y ffaith y gall unigrwydd fodoli pan ydych chi'n byw mewn dinas, mewn ardal â llawer o bobl ynddi ac nid yn unig mewn cymunedau gwledig.
Y mater pwysig yr wyf i eisiau tynnu sylw ato ar gyfer pobl hŷn sy'n byw yn unrhyw le yw'r diffyg cyfleusterau toiled, oherwydd rwy'n teimlo mewn gwirionedd ein bod ni wedi crybwyll hynny ac wedi trafod hyn yn helaeth yn y Cynulliad hwn, yn enwedig yn ystod y Cynulliad diwethaf, a tybed, mewn gwirionedd, faint o gynnydd sydd wedi'i wneud ynglŷn â hynny. Rwy'n gwybod bod hwn yn rhywbeth y mae Sarah Rochira wedi sôn amdano sawl gwaith yn ei chyfraniadau.
Felly, fe wnaf i orffen drwy ddweud fy mod i'n credu ei bod hi'n hollol wych bod gennym ni gomisiynydd, a hoffwn ddiolch i Sarah eto am bopeth y mae hi wedi'i wneud.
Dim ond am gyfnod byr yr wyf eisiau siarad, mewn gwirionedd, i ddweud 'diolch' wrth Sarah Rochira am fod yn gomisiynydd pobl hŷn gwych dros y chwe blynedd diwethaf. Fi oedd yn gyfrifol am y briff pobl hŷn am nifer o flynyddoedd yn y Cynulliad blaenorol, ac roedd yn llawenydd pur gallu gweithio gyda'r comisiynydd, ac yn wir gweddill ei thîm, a gweithio ochr yn ochr â hi a gweld pa mor galed yr oedd hi'n gweithio i ymgysylltu â phobl hŷn ledled y wlad. Ymwelodd sawl gwaith â fy etholaeth i. Fe wnaethom ni rai cymorthfeydd bws, felly roedd y ddau ohonom ni yn mynd ar y bysiau ac, yn wir, fe wnaethom ni ymweld â chartrefi gofal yn fy etholaeth i hefyd. Rwyf wedi bod yn ddiolchgar iawn iddi am y ffordd y mae hi wedi ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol yn yr ardal hefyd.
Felly, hoffwn ddiolch ar goedd iddi am ei hymdrechion. Gallwn weld o adroddiad arall eto y lefel wych honno o weithgarwch sydd ar waith yng Nghymru o ran y ffordd y mae hi'n estyn allan ac yn ceisio eiriol dros bobl hŷn fel y bu dros y chwe blynedd diwethaf. Nid yw hi wedi ymatal rhag cadw'r Llywodraeth ac awdurdodau lleol a darparwyr gofal annibynnol ac ysbytai ar flaenau eu traed dros y blynyddoedd. Mae hi wedi torchi ei llewys ac mae hi wedi cynhyrchu rhai adroddiadau ardderchog sydd wedi bod, a dweud y gwir, yn ddeifiol iawn ar adegau ac y bu eu darllen yn anodd iawn, ond mae pob un o'r rheini wedi cynnwys rhai argymhellion defnyddiol iawn o ran gallu bwrw ymlaen â'r agenda urddas a pharch yn arbennig, ac rwy'n gwybod y gall fod yn falch o'r gwaddol y bydd hi'n gadael ar ei hôl pan fydd hi'n gadael y swydd hon ac yn ei throsglwyddo i'r person nesaf.
Dim ond dau sylw cryno iawn os caf i: fe wnaethoch chi gyfeirio yn gynharach, Gweinidog, at agenda hawliau pobl hŷn a'r ffaith ein bod ni i gyd o'r un farn o ran y canlyniadau yr ydym ni eisiau eu cyflawni ond nad ydych chi'n teimlo bod angen deddfu mewn gwirionedd er mwyn sicrhau'r canlyniadau hynny. Ond byddwch chi'n gwybod, drwy welliant a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig, bod gennym ni gyfeiriad at egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer pobl hŷn ar wyneb Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a chredaf ei bod hi'n angenrheidiol, a dweud y gwir, i fod â darn mwy eang o ddeddfwriaeth i fod yn gysgod dros y pethau yr ydych chi eisiau eu gwneud fel Llywodraeth, fel y gall pobl hŷn olrhain eu hawliau yn uniongyrchol i ddarn o ddeddfwriaeth ac, yn wir, cyfrifoldebau eraill tuag atynt. Mae gan blant a phobl ifanc hynny; does gan bobl hŷn ddim, ac rwy'n credu ei bod hi'n anfon neges negyddol iawn at bobl hŷn yn sgil ystyfnigrwydd y Llywodraeth i gyflwyno darn o ddeddfwriaeth ynglŷn â hyn.
Un o'r hawliau yr hoffwn i ei weld ar wyneb darn o ddeddfwriaeth—a dim ond â deddfwriaeth yr ydych chi'n gallu gwneud hyn—yw hawl glir i gael gofal seibiant. Rydym ni wedi gweld adroddiad y comisiynydd pobl hŷn ynglŷn â phwysigrwydd gofal seibiant yn ei hadroddiad 'Ailystyried Seibiant', yn enwedig ynghylch dementia. Mae nifer y bobl sy'n dod i'r cymorthfeydd yr ydym ni, Aelodau Cynulliad, yn eu cynnal, wedi gorflino'n llwyr oherwydd nad ydyn nhw'n gallu manteisio ar ofal seibiant wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf—pobl y mae angen iddyn nhw fod yn gadarn er lles eu hanwyliaid ac sy'n gwneud gwaith caled ac anodd iawn na chaiff ei gydnabod yn briodol bob amser gan yr awdurdodau y maen nhw'n ymwneud â nhw, adrannau gwasanaethau cymdeithasol yn enwedig mewn rhai rhannau o'r wlad. Gwyddom y gall hynny ddinistrio eu perthynas â'r bobl hŷn y maen nhw'n gofalu amdanynt—rhai ohonyn nhw y mae'n bosibl y buont yn briod am ddegau o flynyddoedd, sydd â degawdau o flynyddoedd priodasol o dan eu hadain, ac, o ganlyniad i'r gorflinder llwyr hwnnw, y rhwystredigaeth y gall ei achosi yn aml, mae'n dinistrio cariad yn y perthnasoedd hynny. Felly, mae'n rhaid inni weithio'n galetach ar ofal seibiant, a chredaf y dylech chi ystyried un o'r awgrymiadau y mae ein plaid ni wedi ei chyflwyno yn etholiadau diwethaf y Cynulliad, sef i fod â hawl glir, mewn statud, i ofal seibiant ar gyfer pobl hŷn ac eraill sy'n gofalu am eu hanwyliaid, oherwydd dyma'r unig ffordd mewn gwirionedd yr ydym ni'n mynd i sicrhau'r newid mewn agwedd sydd ei angen arnom ni.
Felly, i gloi, unwaith eto hoffwn ddiolch i Sarah Rochira am ei gwaith, ac edrychaf ymlaen at allu ymwneud ymhellach â'r Llywodraeth ar yr agenda bwysig hon fel y gallwn ni wireddu'r hawliau ar gyfer pobl hŷn yma yng Nghymru.
Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am eu cyfraniadau adeiladol iawn, er ein bod efallai'n cytuno i fynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol wrth gyflawni'r hawliau yn arbennig? Ond gadewch i mi ddweud wrth Darren nad oes gennym ni fyth feddwl cwbl gaeedig; nid ydym ni'n bod yn afresymol o ystyfnig, ond yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yw dod i gytundeb â Sarah bod ffordd o wireddu'r hawliau hyn nawr, mewn gwirionedd—felly, mynd o dan groen y prif hawliau Cenhedloedd Unedig hynny a'u trosi mewn gwirionedd i'r canllawiau manwl a'r gweithredu ymarferol ar lawr gwlad. Felly, rwy'n edrych ymlaen at drafod nid yn unig â Sarah wrth iddi ymadael, ond hefyd, yn y dyfodol, â'r comisiynydd newydd er mwyn cyflawni hynny mewn gwirionedd. A byddwn yn gweithio gyda'r Aelodau yma a chyda'r Comisiynydd newydd hefyd er mwyn gwirioneddol gyflawni hynny, oherwydd bod gennym ni'r un nod, ond ein bod ni o'r farn bod gennym ni ffordd fwy uniongyrchol o'i chyrraedd. Ond ni fydd gennym ni byth feddwl cwbl gaeedig. Nid wyf yn Eeyore llwyr, nid wyf yn ful hollol ystyfnig ar y materion hyn; rydym ni bob amser yn cadw meddwl agored.
A gaf i ddiolch am yr holl gyfraniadau yma? Mae pob un yn ddieithriad wedi canmol swyddogaeth Sarah, y comisiynydd ar hyn o bryd, a'r gwaith mae hi wedi'i wneud. Janet, fe wnaethoch chi sôn am y Bil hawliau—rwy'n credu fy mod i wedi egluro sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn, gwneud yr hawliau yn wirionedd a'r ymwneud a fydd gennym. Fe wnaethoch chi ofyn hefyd am y cyhoeddiad a'r comisiynydd newydd—mae ar fin digwydd. Mae'n rhaid i hynny fod ar fin digwydd oherwydd mae ein comisiynydd ar fin ymadael. Ni allaf roi union ddyddiad i chi, ond mae ar fin digwydd.
Dai, diolch i chi am waith eich pwyllgor gyda'r comisiynydd a'r argymhellion yr ydych chi wedi'u cyflwyno dros gyfnod hir o amser, a'r pwynt y gwnaethoch chi am gysoni iechyd a gofal cymdeithasol drwyddi draw. Wel, dyna amser diddorol i'r Cynulliad hwn yn yr adolygiad seneddol sydd wedi bod a'r hyn y gellir ei gyflwyno yn awr gyda'r cynllun tymor hir.
David, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch herio ystrydebau—rydym ni'n clywed ystrydebau oedran dro ar ôl tro. Ac, yn wir, siaradais yn Senedd Pobl Hŷn Cymru ddydd Llun, gan wneud yr union bwynt hwnnw. Wrth wneud y wlad hon y wlad orau bosibl ar gyfer pobl hŷn, mae angen hefyd inni herio'r ystrydebau, ac mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â dweud, 'Edrychwch ar beth rydym ni'n ei wneud gyda phrentisiaethau', a dweud mewn gwirionedd, 'Mae prentisiaethau ar gael i bawb.' Edrychwch ar yr ymweliad yr es i arni â'r gogledd yr wythnos diwethaf pan oeddem ni'n edrych ar ail-gyflwyno pobl i ofal plant, a'r ddau grŵp o bobl a gafodd eu cynrychioli'n arbennig yn y gwaith hwnnw ynglŷn â gofal plant a gefnogir gan y Llywodraeth a Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, oedd y boblogaeth hŷn a'r boblogaeth ifanc iawn NEET. Felly, mae ffyrdd y dylem ni fod yn herio hyn yn ymarferol yn y dyfodol.
Julie, fe wnaethoch chi sôn am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud ar heneiddio'n dda yng Nghymru, a gall materion ymarferol iawn hefyd, os ydych chi am wella gallu rhywun i fyw'n annibynnol drwy'r blynyddoedd, drwy'r holl flynyddoedd, pethau ymarferol fel darpariaeth toiledau ac ati fod yn bwysig iawn, iawn. Ac, yn rhyfedd iawn, dyna le y mae'r agenda hawliau yn cael effaith wirioneddol. Os gallwch chi wneud agenda hawliau ymarferol, yr hawl hwnnw i fyw'n annibynnol, yr hawl i deithio o gwmpas, yr hawl i beidio â chael rhwystrau o'ch blaen, yn sydyn, cewch newid ystyrlon gwirioneddol ar lawr gwlad.
A Darren, fe wnaethoch chi sôn am y comisiynydd yn rhoi ambell i broc i Lywodraeth Cymru, neu ddarparwyr, neu eraill. Weithiau, mae'n fwy na phroc, weithiau mae'n hen ergyd fawr. Ond mae hynny'n iawn—mae comisiynwyr yna i herio. Byddwn i hefyd yn cymeradwyo Sarah am y ffordd y mae hi wedi herio ac am beidio â bod ofn gwneud hynny, ond hefyd i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol a dweud, 'Mae ffyrdd o symud ymlaen ar hyn', ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn a'r holl sylwadau a wnaed am y comisiynydd sy'n ymadael.
Yn yr amser byr iawn sydd ar gael i mi, ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau, ond caniatewch imi sôn yn gryno am y rai allweddol a grybwyllwyd. Mae eiriolaeth yn allweddol yn hyn oll. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau â gwasanaethau eiriolaeth a'u datblygu. Rwyf wedi cytuno bod fy swyddogion yn gweithio i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gwasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol ar gyfer oedolion yng Nghymru, i wella cysondeb ledled Cymru. Bydd canlyniadau prosiect Age Cymru yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. A byddwn yn edrych ymlaen, fy swyddogion a mi, at weithio gyda swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i lywio'r gwaith hwn, gan ystyried yn benodol yr adroddiad ynglŷn â phrofiadau pobl hŷn o ddod o hyd i a defnyddio eiriolaeth broffesiynol. Ond ni ddylem ni anghofio chwaith yr ystod o eiriolaeth anffurfiol sydd ar gael, a bod gwaith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru a gyda'r comisiynydd ac eraill i ddatblygu'r rhwydwaith hwnnw o eiriolaeth anffurfiol, o bobl yn eistedd ochr yn ochr â phobl hefyd. Rydym ni wedi sôn am bobl yn cwympo a dulliau o'u hatal yn gynharach, felly ni fyddaf yn sôn am hynny'n benodol.
Soniodd nifer o bobl am y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Rwy'n gwybod y bu ein pwyllgorau yn edrych ar hynny. Mae lleihau nifer y bobl â diagnosis o ddementia sy'n derbyn meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol, yn arbennig mewn cartrefi gofal, wedi'i nodi'n gam gweithredu allweddol yn y strategaeth dementia ddrafft. Rydym ni hefyd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad byr i'r defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a byddwn yn ystyried yn ofalus y safbwyntiau yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth i'n gwaith ni fynd rhagddo. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu cydnabyddiaeth y comisiynydd fod dulliau cemegol wedi'u cynnwys yn y diffiniad o ataliaeth trwy'r rheoliadau arfaethedig o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal.
Fy mhwynt olaf, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd ni fyddaf yn gallu ymdrin â'r holl bwyntiau yma, ac nid wyf i hyd yn oed yn gwybod faint o amser sydd gen i ar ôl—. A gaf i droi at y mater pwysig iawn a soniodd un neu ddau o bobl amdano ynghylch unigrwydd ac arwahanrwydd? Rydym ni'n cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r materion mwyaf sy'n wynebu pobl hŷn. Mae gwella cadernid pobl o bob oedran, a'u gwneud yn llai agored i effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd, a sicrhau y gallan nhw fanteisio ar wasanaethau cymorth, yn hollbwysig i gynnal iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl.
Felly, yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol, Cymru gyfan, i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. Mae'r gwaith wedi dechrau, ac rydym ni'n ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban a'r DU, er mwyn ein helpu i bennu cyfeiriad a llywio ein gwaith yn well. Arweiniodd ymchwiliad y pwyllgor at adroddiad gwerthfawr, gwybodus, o'r materion y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yng Nghymru. Yn ein hymateb, rydym ni hefyd wedi cadarnhau ymrwymiad i asesu effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar iechyd a llesiant, asesu effaith cyswllt rhwng y cenedlaethau, y gwyddom o'n hetholaethau ein hunain ei fod yn cael effaith fuddiol pan gaiff ei wneud yn dda, cyswllt rhwng y cenedlaethau, datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i leihau stigma ac ar gyfer dealltwriaeth y cyhoedd—.
Llywydd, gallaf eich gweld chi'n edrych arnaf oherwydd bod yr amser ar ben. Rwy'n ymddiheuro am y pwyntiau hynny na allaf i ddychwelyd atyn nhw, ond, yn syml, i gloi, a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaed ynghylch y comisiynydd a diolch iddi hi a'i thîm am bob dim maen nhw wedi'i gyflawni yn 2017-18? Mae'r adroddiad yn nodi diwedd cyfnod chwe blynedd y comisiynydd. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn gweld colled enfawr am ymgyrchu angerddol y comisiynydd ar eu rhan. Byddwn ni'n gweld ei cholled yn Llywodraeth Cymru, ar ôl gweithio gydag eiriolwr mor gryf a hyderus dros hawliau dynol. Mae hi wedi annog y Llywodraeth, y sector cyhoeddus a dinasyddion Cymru i feddwl yn wahanol am heneiddio, i gydnabod bod pobl hŷn, ymhell o fod yn faich ar ein cymdeithas, yn ased y dylid ei ddathlu a'u bod yn bobl, yn gyntaf ac yn flaenaf, gyda hawliau a bywydau i'w byw i'r eithaf.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.