Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 22 Mai 2018.
Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am eu cyfraniadau adeiladol iawn, er ein bod efallai'n cytuno i fynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol wrth gyflawni'r hawliau yn arbennig? Ond gadewch i mi ddweud wrth Darren nad oes gennym ni fyth feddwl cwbl gaeedig; nid ydym ni'n bod yn afresymol o ystyfnig, ond yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud yw dod i gytundeb â Sarah bod ffordd o wireddu'r hawliau hyn nawr, mewn gwirionedd—felly, mynd o dan groen y prif hawliau Cenhedloedd Unedig hynny a'u trosi mewn gwirionedd i'r canllawiau manwl a'r gweithredu ymarferol ar lawr gwlad. Felly, rwy'n edrych ymlaen at drafod nid yn unig â Sarah wrth iddi ymadael, ond hefyd, yn y dyfodol, â'r comisiynydd newydd er mwyn cyflawni hynny mewn gwirionedd. A byddwn yn gweithio gyda'r Aelodau yma a chyda'r Comisiynydd newydd hefyd er mwyn gwirioneddol gyflawni hynny, oherwydd bod gennym ni'r un nod, ond ein bod ni o'r farn bod gennym ni ffordd fwy uniongyrchol o'i chyrraedd. Ond ni fydd gennym ni byth feddwl cwbl gaeedig. Nid wyf yn Eeyore llwyr, nid wyf yn ful hollol ystyfnig ar y materion hyn; rydym ni bob amser yn cadw meddwl agored.
A gaf i ddiolch am yr holl gyfraniadau yma? Mae pob un yn ddieithriad wedi canmol swyddogaeth Sarah, y comisiynydd ar hyn o bryd, a'r gwaith mae hi wedi'i wneud. Janet, fe wnaethoch chi sôn am y Bil hawliau—rwy'n credu fy mod i wedi egluro sut yr ydym ni'n mynd i'r afael â hyn, gwneud yr hawliau yn wirionedd a'r ymwneud a fydd gennym. Fe wnaethoch chi ofyn hefyd am y cyhoeddiad a'r comisiynydd newydd—mae ar fin digwydd. Mae'n rhaid i hynny fod ar fin digwydd oherwydd mae ein comisiynydd ar fin ymadael. Ni allaf roi union ddyddiad i chi, ond mae ar fin digwydd.
Dai, diolch i chi am waith eich pwyllgor gyda'r comisiynydd a'r argymhellion yr ydych chi wedi'u cyflwyno dros gyfnod hir o amser, a'r pwynt y gwnaethoch chi am gysoni iechyd a gofal cymdeithasol drwyddi draw. Wel, dyna amser diddorol i'r Cynulliad hwn yn yr adolygiad seneddol sydd wedi bod a'r hyn y gellir ei gyflwyno yn awr gyda'r cynllun tymor hir.
David, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch herio ystrydebau—rydym ni'n clywed ystrydebau oedran dro ar ôl tro. Ac, yn wir, siaradais yn Senedd Pobl Hŷn Cymru ddydd Llun, gan wneud yr union bwynt hwnnw. Wrth wneud y wlad hon y wlad orau bosibl ar gyfer pobl hŷn, mae angen hefyd inni herio'r ystrydebau, ac mae rhywfaint o hynny yn ymwneud â dweud, 'Edrychwch ar beth rydym ni'n ei wneud gyda phrentisiaethau', a dweud mewn gwirionedd, 'Mae prentisiaethau ar gael i bawb.' Edrychwch ar yr ymweliad yr es i arni â'r gogledd yr wythnos diwethaf pan oeddem ni'n edrych ar ail-gyflwyno pobl i ofal plant, a'r ddau grŵp o bobl a gafodd eu cynrychioli'n arbennig yn y gwaith hwnnw ynglŷn â gofal plant a gefnogir gan y Llywodraeth a Chymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd, oedd y boblogaeth hŷn a'r boblogaeth ifanc iawn NEET. Felly, mae ffyrdd y dylem ni fod yn herio hyn yn ymarferol yn y dyfodol.
Julie, fe wnaethoch chi sôn am y gwaith rhagorol sydd wedi'i wneud ar heneiddio'n dda yng Nghymru, a gall materion ymarferol iawn hefyd, os ydych chi am wella gallu rhywun i fyw'n annibynnol drwy'r blynyddoedd, drwy'r holl flynyddoedd, pethau ymarferol fel darpariaeth toiledau ac ati fod yn bwysig iawn, iawn. Ac, yn rhyfedd iawn, dyna le y mae'r agenda hawliau yn cael effaith wirioneddol. Os gallwch chi wneud agenda hawliau ymarferol, yr hawl hwnnw i fyw'n annibynnol, yr hawl i deithio o gwmpas, yr hawl i beidio â chael rhwystrau o'ch blaen, yn sydyn, cewch newid ystyrlon gwirioneddol ar lawr gwlad.
A Darren, fe wnaethoch chi sôn am y comisiynydd yn rhoi ambell i broc i Lywodraeth Cymru, neu ddarparwyr, neu eraill. Weithiau, mae'n fwy na phroc, weithiau mae'n hen ergyd fawr. Ond mae hynny'n iawn—mae comisiynwyr yna i herio. Byddwn i hefyd yn cymeradwyo Sarah am y ffordd y mae hi wedi herio ac am beidio â bod ofn gwneud hynny, ond hefyd i ymgysylltu mewn ffordd adeiladol a dweud, 'Mae ffyrdd o symud ymlaen ar hyn', ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn a'r holl sylwadau a wnaed am y comisiynydd sy'n ymadael.
Yn yr amser byr iawn sydd ar gael i mi, ni fyddaf yn gallu ymateb i'r holl bwyntiau, ond caniatewch imi sôn yn gryno am y rai allweddol a grybwyllwyd. Mae eiriolaeth yn allweddol yn hyn oll. Rydym ni wedi ymrwymo i barhau â gwasanaethau eiriolaeth a'u datblygu. Rwyf wedi cytuno bod fy swyddogion yn gweithio i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gwasanaethau eirioli proffesiynol annibynnol ar gyfer oedolion yng Nghymru, i wella cysondeb ledled Cymru. Bydd canlyniadau prosiect Age Cymru yn cynnwys ymgysylltu ag awdurdodau lleol i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf. A byddwn yn edrych ymlaen, fy swyddogion a mi, at weithio gyda swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn i lywio'r gwaith hwn, gan ystyried yn benodol yr adroddiad ynglŷn â phrofiadau pobl hŷn o ddod o hyd i a defnyddio eiriolaeth broffesiynol. Ond ni ddylem ni anghofio chwaith yr ystod o eiriolaeth anffurfiol sydd ar gael, a bod gwaith yn mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru a gyda'r comisiynydd ac eraill i ddatblygu'r rhwydwaith hwnnw o eiriolaeth anffurfiol, o bobl yn eistedd ochr yn ochr â phobl hefyd. Rydym ni wedi sôn am bobl yn cwympo a dulliau o'u hatal yn gynharach, felly ni fyddaf yn sôn am hynny'n benodol.
Soniodd nifer o bobl am y defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig. Rwy'n gwybod y bu ein pwyllgorau yn edrych ar hynny. Mae lleihau nifer y bobl â diagnosis o ddementia sy'n derbyn meddyginiaeth gwrthseicotig yn amhriodol, yn arbennig mewn cartrefi gofal, wedi'i nodi'n gam gweithredu allweddol yn y strategaeth dementia ddrafft. Rydym ni hefyd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad byr i'r defnydd o feddyginiaeth gwrthseicotig mewn cartrefi gofal gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, a byddwn yn ystyried yn ofalus y safbwyntiau yn ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth i'n gwaith ni fynd rhagddo. Rydym yn cydnabod ac yn croesawu cydnabyddiaeth y comisiynydd fod dulliau cemegol wedi'u cynnwys yn y diffiniad o ataliaeth trwy'r rheoliadau arfaethedig o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal.
Fy mhwynt olaf, Llywydd, rwy'n credu, oherwydd ni fyddaf yn gallu ymdrin â'r holl bwyntiau yma, ac nid wyf i hyd yn oed yn gwybod faint o amser sydd gen i ar ôl—. A gaf i droi at y mater pwysig iawn a soniodd un neu ddau o bobl amdano ynghylch unigrwydd ac arwahanrwydd? Rydym ni'n cydnabod bod unigrwydd ac arwahanrwydd yn un o'r materion mwyaf sy'n wynebu pobl hŷn. Mae gwella cadernid pobl o bob oedran, a'u gwneud yn llai agored i effeithiau niweidiol unigrwydd ac arwahanrwydd, a sicrhau y gallan nhw fanteisio ar wasanaethau cymorth, yn hollbwysig i gynnal iechyd, llesiant ac annibyniaeth pobl.
Felly, yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, rydym ni wedi cadarnhau ein hymrwymiad i ddatblygu strategaeth draws-lywodraethol, Cymru gyfan, i fynd i'r afael â'r materion hyn erbyn mis Mawrth 2019. Mae'r gwaith wedi dechrau, ac rydym ni'n ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid, gan gynnwys Llywodraeth yr Alban a'r DU, er mwyn ein helpu i bennu cyfeiriad a llywio ein gwaith yn well. Arweiniodd ymchwiliad y pwyllgor at adroddiad gwerthfawr, gwybodus, o'r materion y mae pobl hŷn yn eu hwynebu yng Nghymru. Yn ein hymateb, rydym ni hefyd wedi cadarnhau ymrwymiad i asesu effaith unigrwydd ac arwahanrwydd ar iechyd a llesiant, asesu effaith cyswllt rhwng y cenedlaethau, y gwyddom o'n hetholaethau ein hunain ei fod yn cael effaith fuddiol pan gaiff ei wneud yn dda, cyswllt rhwng y cenedlaethau, datblygu ymgyrch ymwybyddiaeth genedlaethol i leihau stigma ac ar gyfer dealltwriaeth y cyhoedd—.
Llywydd, gallaf eich gweld chi'n edrych arnaf oherwydd bod yr amser ar ben. Rwy'n ymddiheuro am y pwyntiau hynny na allaf i ddychwelyd atyn nhw, ond, yn syml, i gloi, a gaf i adleisio'r sylwadau a wnaed ynghylch y comisiynydd a diolch iddi hi a'i thîm am bob dim maen nhw wedi'i gyflawni yn 2017-18? Mae'r adroddiad yn nodi diwedd cyfnod chwe blynedd y comisiynydd. Rwy'n siŵr y bydd llawer o bobl hŷn ledled Cymru yn gweld colled enfawr am ymgyrchu angerddol y comisiynydd ar eu rhan. Byddwn ni'n gweld ei cholled yn Llywodraeth Cymru, ar ôl gweithio gydag eiriolwr mor gryf a hyderus dros hawliau dynol. Mae hi wedi annog y Llywodraeth, y sector cyhoeddus a dinasyddion Cymru i feddwl yn wahanol am heneiddio, i gydnabod bod pobl hŷn, ymhell o fod yn faich ar ein cymdeithas, yn ased y dylid ei ddathlu a'u bod yn bobl, yn gyntaf ac yn flaenaf, gyda hawliau a bywydau i'w byw i'r eithaf.