1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ad-drefnu ysgolion ym Mro Morgannwg? OAQ52234
Diolch, Jane. Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am gynllunio lleoedd ysgol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol adolygu i ba raddau y mae patrwm presennol eu darpariaeth ysgolion yn ateb y galw presennol a'r galw a ragwelir am leoedd yn ogystal â gofynion cwricwlwm modern.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe fyddwch yn gwybod bod cynnig Cyngor Bro Morgannwg i adleoli ysgol bentref Llancarfan dros chwe milltir i ffwrdd i safle newydd yn y Rhws wedi ennyn cryn dipyn o wrthwynebiad yn eu hymgynghoriad diweddar. Mae Estyn wedi rhoi gradd dda i'r ysgol, ac fe'i cymeradwyir am ei defnydd o'r amgylchedd gwledig a'r coetir lle mae wedi'i lleoli. Mewn gwirionedd, dywedodd Estyn,
Mae'r disgyblion yn gwneud defnydd da o'r amgylchedd dysgu awyr agored a'i mannau bywyd gwyllt a choediog... Mae'r staff yn gwneud defnydd da o'r ardal er mwyn ehangu profiadau'r disgyblion, megis archwilio pyllau yn y rhyd leol.
Nid oes gan yr ysgol nifer sylweddol o leoedd gwag. Mae cyngor y Fro wedi cyhoeddi cyfnod ymgynghori newydd, gyda dogfen ymgynghori wedi'i diweddaru, o ganlyniad i'r pryderon a godwyd hyd yn hyn, ac rwy'n falch fod fy sylwadau mewn perthynas â diffyg asesiad effaith ar y gymuned yn cael sylw. A allwch egluro, Ysgrifennydd y Cabinet, ar ba sail y gellir codi cynigion sy'n effeithio ar Ysgol Gynradd Llancarfan gyda Gweinidogion, gan fod pryder na fydd y cynigion hyn yn cydymffurfio â'r cod trefniadaeth ysgolion, ac mae diffyg hyder yn y broses ymgynghori?
Diolch, Jane. Fel y dywedais, deallaf fod Cyngor Bro Morgannwg wedi penderfynu ailgychwyn ac ailgyhoeddi eu hymgynghoriad oherwydd pryderon a godwyd ynghylch digonolrwydd y cynnig ymgynghori gwreiddiol, yn enwedig diffyg datganiad o'r effaith ar y gymuned digonol. Buaswn yn annog pawb sydd â diddordeb i ddweud eu barn wrth y cyngor cyn y daw'r ymgynghoriad i ben ar 9 Gorffennaf. Rwy'n disgwyl i bob awdurdod lleol, wrth iddynt ystyried trefniadaeth ysgolion a chau ysgolion, roi sylw dyledus i'r cod trefniadaeth ysgolion a chydymffurfio â'r cod hwnnw. Os oes unrhyw awgrymiadau fod unrhyw awdurdod lleol yn methu cydymffurfio â'r cod, buaswn yn hapus i dderbyn y sylwadau hynny.
Rwyf innau'n falch hefyd fod y penderfyniad hwn yn cael ei ailystyried, a gwneuthum innau sylwadau ysgrifenedig a thrwy gyfarfod â'r uwch ffigurau yng Nghyngor Bro Morgannwg. Credaf fod rhywfaint o ddryswch wedi bod yn lleol ynglŷn â'r rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a amlinellwyd gennych yn yr ymgynghoriad ar y cod trefniadaeth ysgolion diwygiedig, a phwysleisiais wrth y cyngor fy mod yn credu bod y diwygiad arfaethedig yn debygol o ddod yn ddogfen fyw. Credaf fod hyn wedi cael llawer o gefnogaeth yn yr ymgynghoriad, a dylent fod yn defnyddio'r rhagdybiaeth honno ar hyn o bryd o ran beth fydd yn digwydd. O gofio bod yr ysgol hon mewn lleoliad mor wledig, ymddengys i mi y dylid rhoi ystyriaeth ddyledus i hynny hyd yn oed cyn iddo ddod yn ofyniad ffurfiol o ran statws y cod trefniadaeth presennol.
Diolch, David. Rydych yn llygad eich lle yn dweud mai fy mwriad yw diwygio'r cod trefniadaeth ysgolion i gynnwys rhagdybiaeth yn erbyn cau ysgolion gwledig, a dynodi rhestr o ysgolion gwledig. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar y cynigion hynny, ond mae cyfeiriad y polisi yn y maes hwn yn glir iawn i'r 22 awdurdod lleol, a gobeithio y byddent yn cadw hynny mewn cof wrth gynnal unrhyw adolygiad o gynigion trefniadaeth ysgolion yn eu hardaloedd eu hunain.