Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch. Rydych yn llygad eich lle; mae'n bryd inni ailystyried yr ymadrodd 'gwres gwynias technoleg' a'i addasu ar gyfer oes newydd. Rydych yn iawn; os oeddem yn credu bod hynny'n digwydd yn gyflym, credaf y bydd y cyfnod nesaf hyd yn oed yn gyflymach. Felly, rydych yn llygad eich lle; mae angen inni gael ymateb llawer mwy hyblyg i'r newidiadau a fydd yn digwydd. Felly, yn barod, bydd y sgiliau digidol rydym yn eu dysgu i'n plant wedi dyddio ymhen ychydig flynyddoedd. Dyna pam, yn gyntaf oll, y mae angen inni sicrhau bod y bobl sydd gennym, er enghraifft, yn ein colegau addysg bellach, yn ymwybodol o'r wybodaeth gyfredol, y wybodaeth ddiweddaraf, a bod ganddynt y math iawn o dechnoleg ac offer yn eu hysgolion, ac rydym yn helpu i ariannu peth o hynny. Ond hefyd, mae angen inni bwysleisio pwysigrwydd dysgu gydol oes, oherwydd oni bai bod pob un ohonom yn dechrau bod o ddifrif ynghylch dysgu gydol oes, credaf y byddwn mewn trafferth fel cenedl o ran sut rydym yn paratoi ar gyfer economi'r dyfodol.