Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 1:41, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae 55 mlynedd wedi bod ers i Brif Weinidog y DU ar y pryd, Harold Wilson, rybuddio, er mwyn i'r wlad ffynnu, y byddai angen creu Prydain newydd yng ngwres gwynias chwyldro gwyddonol. Mr Wilson a ddywedodd hynny. Heddiw, mae newidiadau technolegol yn digwydd mor gyflym fel bod sgiliau'n newid yn gynt nag y gall addysgwyr ffurfiol ddal i fyny â hwy. Erbyn i gwricwlwm gael ei lunio a'i gymeradwyo gan y cyrff amrywiol ac erbyn i fyfyrwyr raddio yn y pen draw, efallai na fydd eu sgiliau digidol wedi dal i fyny â'r dechnoleg. Sut y bydd y Gweinidog yn sicrhau bod sefydliadau addysgol yng Nghymru yn dal i fyny â chyflymder newid yn y byd hwn?