Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. Weinidog, mae'r bwlch sgiliau cynyddol, yn enwedig ym maes sgiliau digidol, yn llesteirio gallu cwmnïau i ddod o hyd i'r gweithwyr y maent eu hangen. Mae gwyddoniaeth yn hanfodol i bobl sy'n ystyried gyrfa mewn meysydd megis TG, peirianneg a meddygaeth, ond mae un rhan o dair o ddisgyblion ysgol Cymru wedi osgoi TGAU gwyddoniaeth arbenigol, problem rydych wedi'i chydnabod eich hun. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i gynyddu nifer y disgyblion, yn enwedig merched, sy'n astudio gwyddoniaeth yn ein hysgolion?