Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Mohammad Asghar. Fe fyddwch yn gwybod ein bod yn hynod ymwybodol o'r angen i uwchsgilio ein gweithlu mewn meysydd lle mae cyflogwyr yn dweud wrthym fod prinder, a dyna pam fod gennym y strwythur a elwir yn bartneriaeth sgiliau rhanbarthol, a sefydlwyd i ofyn i'r cyflogwyr hynny fwydo i mewn i'r strwythurau, i ddweud, 'Beth yw'r sgiliau rydych yn chwilio amdanynt fel cyflogwyr?' Gwyddom eu bod wedi dod yn ôl atom ym mhob un o'r tair partneriaeth sgiliau rhanbarthol gan ddweud, 'Mae sgiliau digidol yn bwysig iawn. Mae angen inni godi lefel y sgiliau hynny'.
Bellach, rydym wedi darparu pot arian o £10 miliwn i golegau addysg bellach fel y gallant ymateb i anghenion cyflogwyr, a bydd sgiliau digidol, rwy'n siŵr, yn cael eu hadlewyrchu yn y bobl a fydd yn defnyddio'r pot hwnnw gan ddweud, 'Dyma sut rydym yn ymateb i anghenion y cyflogwyr.' Gwn fod yr Ysgrifennydd addysg wedi gwneud cryn dipyn o waith yn codi'r safonau mewn perthynas â sgiliau digidol yn ein hysgolion, a gwn ein bod yn gweithio'n galed iawn i sicrhau y bydd y cwricwlwm ysgol newydd yn adlewyrchu anghenion yr economi newydd.