Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 23 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:43, 23 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oeddwn yn disgwyl ichi beidio â chydnabod hynny, a dweud y gwir, ond mae'r rheng flaen yn dweud yn hollol glir bellach fod yna argyfwng a'n bod wedi cyrraedd y pwynt hwnnw o argyfwng. Mae'n arwain at ddosbarthiadau mwy o faint, a gwn fod hynny'n rhywbeth nad ydych yn dymuno'i weld. Mae wedi arwain at orddibyniaeth ar gynorthwywyr addysgu, nad ydynt, yn aml iawn, yn cael eu talu'n briodol. Mae'n cael effaith andwyol ar y cwricwlwm, gyda llai o oriau cyswllt, athrawon yn gorfod dysgu amrywiaeth ehangach o bynciau, a rhai pynciau, yn wir, yn diflannu'n gyfan gwbl.

Tybed a ydych yn ystyried lefel sylfaenol o gyllid fesul disgybl yng Nghymru sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn derbyn addysg dda. Nid wyf am ofyn i chi beth yw'r lefel honno, ond rwy'n siŵr fod gennych, neu o leiaf rwy'n gobeithio bod gan y Llywodraeth ryw fath o syniad o ble mae'r llinell na ddylem fynd oddi tani ar unrhyw gyfrif. Yn wir, yn eu cynhadledd genedlaethol ym mis Tachwedd, dywedodd Cymdeithas Genedlaethol Prifathrawon Cymru nad yw arweinwyr ysgolion yn gwybod a oes digon o arian yn y system ysgolion mwyach ac roeddent yn galw am archwiliad cenedlaethol o gyllidebau ysgolion. Tybed a fyddech yn ystyried cynnal archwiliad o'r fath.