Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 23 Mai 2018.
Rwy'n ymwybodol mai polisi Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon yw cael fformiwla ariannu genedlaethol. Ar hyn o bryd, ni chredaf fod hynny'n briodol. Mae gennym system addysg amrywiol yng Nghymru, boed hynny'n ddarparu addysg mewn ysgol wledig fach iawn lle mae'r costau, yn amlwg, yn uwch, neu'n ddarparu addysg i gymuned ddifreintiedig iawn, lle y gwyddom fod angen inni ddarparu adnoddau ychwanegol er mwyn cefnogi'r plant hynny. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi ceisio ein gorau glas yn rowndiau cyllido'r cyllidebau diweddar i amddiffyn gwariant llywodraeth leol, gan mai dyna ble mae'r rhan fwyaf o ysgolion yn cael eu hadnoddau, drwy'r grant cynnal refeniw. Yn ychwanegol at hynny, rwyf fi, fel y Gweinidog addysg, wedi cynyddu'r swm o arian sy'n mynd i mewn i'r grant datblygu disgyblion, er gwaethaf ein hamgylchiadau anodd. Rydym hefyd wedi nodi arian i gynorthwyo'r broses o leihau maint dosbarthiadau yn yr ardaloedd lle y gwyddom y bydd hynny'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Mae pob awdurdod lleol wedi elwa o'r buddsoddiad hwnnw.