Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 23 Mai 2018.
Wel, Llyr, rydych yn gywir; mae ysgolion unigol yn cael eu hariannu mewn sawl ffordd. Rwy'n parhau i gredu mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i nodi angen yn eu hardal leol ac i ymateb yn unol â hynny. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i dderbyn sicrwydd gan Debbie Wilcox, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y byddai awdurdodau lleol yn parhau i flaenoriaethu cyllid mewn addysg. Lle rydym yn pryderu efallai nad yw'r arian hwnnw'n cyrraedd y rheng flaen, mae swyddogion yn rhan o'r trafodaethau hynny gyda chonsortia rhanbarthol ac awdurdodau addysg lleol unigol. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, os oes gan bobl bryderon ynghylch y ffordd y caiff gwariant tybiannol addysg ei gyfrifo ar gyfer y grant cynnal refeniw, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros lywodraeth leol a minnau wedi dweud ein bod yn fwy na pharod i edrych ar y data hwnnw. Ond mae dealltwriaeth rhyngom ni a llywodraeth leol yng Nghymru na fydd hynny'n cael ei orfodi arnynt. Mae'n rhaid iddynt ddod at y bwrdd i ofyn hynny i ni, ond rydym yn barod i weithio gyda hwy os ydynt yn teimlo mai nawr yw'r amser i ddiweddaru'r data o ran cyfrifiadau ar gyfer addysg yn y grant cynnal refeniw.