Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:45 pm ar 23 Mai 2018.
Ond mae'r darlun o ran cyllido yn un dryslyd iawn, onid yw, pan edrychwch, er enghraifft, ar sut y mae'r Llywodraeth yn ariannu addysg. Mae peth arian yn mynd i gonsortia ac mae peth arian yn mynd i awdurdodau lleol—mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy'r grant cynnal refeniw, mae peth ohono'n mynd i awdurdodau lleol drwy grantiau, mae peth yn mynd yn syth i ysgolion, ac wrth gwrs, mae gennym 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru, sydd, yn y bôn, yn golygu 22 o fformiwlâu gwahanol, ac o bosibl, loteri cod post o ran faint o arian sy'n cael ei wario ar bob plentyn yn dibynnu ar ble maent yn byw.
Y gwir, wrth gwrs, yw bod y gyllideb addysg wedi gostwng eleni. Rydym wedi gweld adroddiadau diweddar hefyd sy'n dweud bod cyllid chweched dosbarth wedi gostwng un rhan o bump dros y chwe blynedd diwethaf, a hyd yn oed heddiw, ceir adroddiadau o £4 miliwn yn cael ei seiffno o addysg a thuag at yr ardoll brentisiaethau. Felly, onid ydych yn credu ei bod hi'n bryd dod â phawb at ei gilydd, o leiaf—yr holl randdeiliaid: y cynghorau, y consortia, yr athrawon, y rhieni a'r disgyblion—er mwyn edrych eto ar sut y mae ysgolion Cymru yn cael eu hariannu?