Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 23 Mai 2018.
Lywydd, efallai y dylwn ddatgan buddiant fel rhiant i dri o blant sy'n mynychu ysgol ddwyieithog ym Mhowys ac sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd ac sydd bellach yn gwneud eu gorau i gael cymaint o addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg ag y gallant—mewn rhai achosion mae hynny'n her. Felly, gallaf gadarnhau, ar sail bersonol, y manteision y mae addysg ddwyieithog wedi'u rhoi i fy mhlant. Rwy'n falch iawn fod fy merched yn gallu gwneud rhywbeth na allwn ond breuddwydio am allu ei wneud, sef gallu sgwrsio'n rhugl yn nwy iaith ein cenedl. Yn sicr nid wyf yn ystyried hyn yn anfantais i'w cyrhaeddiad addysgol—mae wedi bod yn ychwanegiad cadarnhaol. Rwy'n falch ei bod yn ymddangos, ym Mhowys, ein bod yn gweld penderfyniad newydd i sicrhau bod y plant y mae eu rhieni am iddynt gael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'n ddwyieithog—eu bod yn bwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn. Os ydym am gyrraedd targed y Llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae gan addysg ym mhob rhan o Gymru ran hanfodol i'w chwarae yn ein cynorthwyo i gyflawni'r targedau hynny. Rwy'n falch fod Powys yn manteisio ar y cyfle i ateb y galw yn ardal y Drenewydd, ac yn wir, mewn ardaloedd eraill ym Mhowys, am addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog.