Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn y rhestr o 'beth sy'n bwysig' ym maes iechyd a lles y cwricwlwm newydd, ceir ffocws clir ar iechyd a lles y dysgwyr eu hunain, wrth gwrs, ond nid oes datganiad dysgu ar sut y gallai disgyblion helpu eraill i ofalu am eu hiechyd a lles. Efallai y cofiwch yn ôl ym mis Chwefror 2017 fod Aelodau'r Cynulliad wedi cefnogi fy nghynigion i sicrhau bod dysgu sgiliau achub bywyd addas i'r oedran yn elfen orfodol o'r cwricwlwm—rhywbeth roeddech yn ei gefnogi cyn eich bod yn rhan o'r Llywodraeth. Felly, dyma eich cyfle, os caf ei roi felly.
Os nad yw hyn wedi'i gynnwys yn y maes iechyd a lles, lle yr hoffech weld y cynnig hwn, a gefnogir, wrth gwrs, gan y Cynulliad, plant a theuluoedd, Sefydliad Prydeinig y Galon, St John Cymru a llu o rai eraill sydd â diddordeb, o fewn y cwricwlwm newydd hwnnw? Gobeithio y gallwch fynychu'r digwyddiad Calonnau Cymru rwy'n ei noddi yfory i weld pa mor hawdd yw dysgu rhai o'r sgiliau hyn. Diolch.