Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn am y gwahoddiad. Yn anffodus, ni fydd modd imi ymuno â chi yfory—nid yw ymrwymiadau fy nyddiadur yn caniatáu i mi wneud hynny y tro hwn. Ond rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld ag ysgolion lle y dangoswyd y defnydd o dechnoleg achub bywydau, megis diffibrilwyr a sgiliau cymorth cyntaf. Fe fyddwch yn gyfarwydd ag Ysgol Penmaes yn Aberhonddu, sy'n ysgol arbennig yn y dref. Roedd yn wych gweld staff o Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio ochr yn ochr â'r plant hynny i ddatblygu'r sgiliau hyn. Rydym wedi ysgrifennu at yr holl ysgolion i'w hannog i gymryd rhan mewn rhaglenni o'r fath.
Nid yw'r meysydd dysgu a phrofiad wedi cwblhau eu gwaith eto; maent yn parhau i dderbyn adborth a myfyrio ar yr hyn a fydd yn cael ei gynnwys yn y cwricwlwm. Fe arhoswn i weld sut y bydd hynny'n datblygu wrth inni symud ymlaen.