Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno, fel rhan o'r cwricwlwm, fod sicrhau bod pobl ifanc yn deall beth yw eu hawliau a'u cyfrifoldebau cyfreithiol mewn cymdeithas, os ydynt am chwarae rôl briodol a bod yn barod i ymuno â chymdeithas yn llawn fel oedolion—. Tybed pa gynnydd, felly, sy'n cael ei wneud ar ddatblygu ac ymgorffori addysg gyfreithiol gyhoeddus yn y cwricwlwm. Hefyd, hoffwn ofyn ichi, fel rhan o hynny, o dan Ddeddf Gwasanaethau Cyfreithiol 2007, ceir rhwymedigaeth o dan y bwrdd gwasanaethau cyfreithiol i gymryd camau, yn y bôn, i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o hawliau a dyletswyddau cyfreithiol y dinesydd. Tybed a fyddai'n briodol cysylltu â hwy i ganfod beth yw eu cyfraniad tuag at addysg gyfreithiol ymysg ein pobl ifanc. Ymddengys i mi fod y ddau beth yn mynd law yn llaw â'i gilydd.