Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Dai. Rwy'n siŵr eich bod eisoes yn ymwybodol mai un o'r chwe maes dysgu a phrofiad yn ein cwricwlwm newydd fydd iechyd a lles. Bydd hynny'n cael statws cyfartal ochr yn ochr â'r pum maes dysgu a phrofiad arall. Lywydd, ddoe cawsom ddadl hirfaith ynglŷn â fy mhenderfyniad i gynnwys addysg perthnasoedd a rhywioldeb statudol yn y cwricwlwm newydd. Mae perthnasoedd yn allweddol wrth fynd i'r afael â'r unigrwydd a ddisgrifiodd Dai Lloyd, ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod gennym addysg arloesol yn y maes hwn yn ein hysgolion.