Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 23 Mai 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg cydnerthedd ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ond yn ei adroddiad diweddar ar y mater hwn, disgrifiodd arferion ardderchog sydd i'w gweld yn fy etholaeth i yng ngogledd Cymru yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, ac rydych wedi ymweld â'r ysgol honno gyda mi i weld y rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar sydd ar waith yno.
Un o'r trasiedïau am yr arfer rhagorol hwn yw nad yw'r ysgolion arloesi sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd wedi ceisio gwneud defnydd o'r arbenigedd sydd ar gael yn yr ysgol honno. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, lle y ceir arfer da, y gwneir defnydd ohono mewn perthynas â datblygiad y cwricwlwm newydd, fel y gall mwy o bobl elwa ohono?