1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 23 Mai 2018.
7. Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i helpu ysgolion i hybu lles meddyliol? OAQ52241
Diolch, Lee. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn egluro ein bod yn cymryd camau, drwy gwricwlwm newydd gyda phwyslais penodol ar les dysgwyr, datblygiadau mewn dysgu proffesiynol a chynlluniau peilot mewngymorth y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gynorthwyo ysgolion i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a lles.
Diolch. Gwn y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno bod cydnabyddiaeth gynnar yn bwysig wrth ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc, ac mae ysgolion weithiau'n cael trafferth i ddarparu'r cymorth mwyaf priodol, o ran sicrhau bod y sgiliau a'r capasiti i'w cael yn yr ysgol, ond hefyd o ran cael mynediad at wasanaethau yn y gymuned a thrwy CAMHS. Mae elusennau iechyd meddwl ac ysgolion yn adrodd nad yw'r amrywiaeth o ymyriadau iechyd meddwl mewn ysgolion yn gydgysylltiedig yn aml, ac y gallant fod yn ddryslyd. Felly, beth y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei wneud i sicrhau bod y gweithredwyr gwahanol yn cydgysylltu a bod llwybr clir i'w gael er mwyn cael mynediad at wybodaeth a chyfeirio disgyblion at y cymorth sydd ei angen arnynt?
Diolch am eich cwestiwn pwysig, Lee. Wrth gydnabod yr anhawster y gall rhai ysgolion ei wynebu i gael gafael ar wasanaethau arbenigol, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau wedi gallu ymuno â'n gilydd a chyfuno adnoddau ariannol o'n cyllidebau i gyd-ariannu prosiect mewngymorth £1.4 miliwn CAMHS sy'n mynd rhagddo ar sail cynllun peilot mewn nifer o ardaloedd ledled Cymru. Diben y cynllun peilot hwnnw yw deall y ffordd orau y gallwn gefnogi athrawon a staff ysgolion i gefnogi eu plant a beth yw'r mecanwaith mwyaf effeithiol ar gyfer rhoi gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol mewn ysgolion. Byddwn yn myfyrio ar y cynllun peilot hwnnw gyda'r nod, os oes modd, os yw'n llwyddiant—a chredaf y bydd yn llwyddiant—o ymestyn y rhaglen honno ymhellach.
Wrth inni ddatblygu ein cwricwlwm newydd, bydd yn bwysig ein bod mewn sefyllfa i ddarparu'r cyfleoedd datblygu proffesiynol i athrawon er mwyn iddynt wybod beth yw'r ffordd orau o fynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, ac rydym yn parhau i edrych ar ymarfer arloesol ledled Cymru lle y gallwn er mwyn gweld a allwn wneud gwelliannau. Felly, yn ddiweddar, ar wahoddiad Paul Davies, ymwelais ag Ysgol y Preseli lle y ceir ffordd arloesol iawn o hyrwyddo iechyd a lles plant fel rhan o brosiect ymchwil rhyngwladol gyda Phrifysgol Harvard. Mae'r effeithiau yno yn rhai real iawn. Mae'n waith arloesol ac roeddwn yn falch iawn o'i weld. Bydd swyddogion yn ymchwilio i weld a oes mwy y gallwn ei wneud mewn rhannau eraill o Gymru i adeiladu ar brofiadau Ysgol y Preseli, lle mae'r ffocws yn bendant iawn ar ymyrryd yn gynnar ac adeiladu hunan-barch plant, eu hunan-werth ac agweddau cadarnhaol tuag at eu dysgu a meithrin eu hyder y gallant lwyddo yn yr ysgol, a thrwy lwyddo yn yr ysgol, y gallant fyw bywyd iachach, hapus, a gwell.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon ynghylch diffyg cydnerthedd ymhlith plant a phobl ifanc yn ein hysgolion. Ond yn ei adroddiad diweddar ar y mater hwn, disgrifiodd arferion ardderchog sydd i'w gweld yn fy etholaeth i yng ngogledd Cymru yn Ysgol Pen y Bryn ym Mae Colwyn, ac rydych wedi ymweld â'r ysgol honno gyda mi i weld y rhaglen ymwybyddiaeth ofalgar sydd ar waith yno.
Un o'r trasiedïau am yr arfer rhagorol hwn yw nad yw'r ysgolion arloesi sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd wedi ceisio gwneud defnydd o'r arbenigedd sydd ar gael yn yr ysgol honno. Pa gamau rydych yn eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i sicrhau, lle y ceir arfer da, y gwneir defnydd ohono mewn perthynas â datblygiad y cwricwlwm newydd, fel y gall mwy o bobl elwa ohono?
Diolch, Darren. Fel y dywedwch, mae amrywiaeth o ymyriadau y gellir eu defnyddio yn llwyddiannus yn yr ysgol i fynd i'r afael â lles disgyblion—gwn fod ymwybyddiaeth ofalgar yn un arbennig o lwyddiannus yn yr ysgol y buom yn ymweld â hi gyda'n gilydd. Drwy rwydwaith yr ysgolion arloesi a'r meysydd dysgu a phrofiad unigol, maent yn cael amrywiaeth o dystiolaeth a chyngor gan grwpiau arbenigol. A ninnau bellach ar y cam hwn yn y broses o ddatblygu'r cwricwlwm, buaswn yn disgwyl gweld lefel uwch o lawer o ryngweithio rhwng ysgolion arloesi ac ysgolion eraill, gan weithio yn eu trefniadau clwstwr, ac rwyf wedi cael adborth gan rai ysgolion a fu gynt yn feirniadol o'r diffyg rhyngweithio, yn dweud bod pethau yn well o lawer erbyn hyn.
Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr ddoe i fy nghlywed yn dweud fy mod wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gynnig trefnu ymweliadau penodol â'r ysgolion arloesi ar gyfer Aelodau'r pwyllgor, fel y gall yr Aelodau weld y gwaith hwn ar lawr gwlad, a gobeithio y gall yr Aelod fanteisio ar y cyfle i wneud hynny. Ond rwyf am weld cymaint o ddeialog â phosibl rhwng y rhwydweithiau arloesi a'r rhwydweithiau eraill.
Byddai diddordeb gen i weld y peilot yr oeddech chi'n sôn amdano—
Mae'n flin gennyf; mae wedi diflannu.
O'r gorau. Byddai diddordeb gennyf—. A yw'n gweithio?
Dim byd. Mae'n flin gennyf. Caf fenthyg un Lesley—gobeithio bod eich clustiau'n lân. [Chwerthin.]
A ydy e'n gweithio nawr? Ydy hynny'n ocê?
Ydy.
Byddai diddordeb gen i glywed am y peilot roeddech chi’n sôn amdano wrth Lee Waters, oherwydd rydw i wedi bod yn gofyn, am nifer o flynyddoedd nawr, am waith mewn ysgolion yng nghyd-destun hunanhyder, yn sgil y gwaith rydw i’n ei wneud ar y grŵp trawsbleidiol ar anhwylderau bwyta. Ar y sail honno, rydw i eisiau gofyn pa waith rydych chi wedi bod yn ei wneud gyda’r Gweinidog iechyd ar y fframwaith anhwylderau bwyta, sydd yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae yna weithdai’n digwydd ar draws Cymru. Yn y cyfarfod diwethaf y cawsom o’r grŵp trawsbleidiol, roedd sôn yna am ba mor bwysig yw uno addysg a iechyd yn y maes yma oherwydd po gyflymaf yr ydym yn gallu gweld bod anhwylder bwyta gan berson ifanc y lleiaf tebygol ydyn nhw o waethygu, os ydyn nhw’n gallu cael system addysgiadol cryf i’w helpu nhw i beidio â gorfod ymdrin â'r problemau sydd yn dod gydag anhwylder bwyta. Felly, byddwn i’n erfyn arnoch chi i fod yn rhan o adolygiad y fframwaith, os nad ydych chi, a hefyd i rannu’r peilot rydych chi’n sôn amdano hefyd.
Diolch, Bethan. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau'n cydnabod y bydd effaith ein gweithredoedd yn fwy o lawer drwy weithio gyda'n gilydd. Rydym hefyd yn cydnabod, oni bai ein bod yn mynd i'r afael â iechyd a lles plentyn, yn enwedig eu hiechyd meddwl, na allant wneud y mwyaf o'u cyfleoedd o fewn y system addysg i gyflawni hyd eithaf eu gallu. Sut y gallwn ddisgwyl i blentyn sy'n dioddef gofid meddyliol allu cael mynediad at gwricwlwm? Ac felly, rydym yn parhau i weld lle y gallwn weithio gyda'n gilydd, ar draws ein portffolios, i gael yr effaith honno. Dyna pam rydym yn ariannu prosiect mewngymorth CAMHS mewn nifer o awdurdodau lleol ledled Cymru, fel y gallwn ddeall yn well sut y gallwn gefnogi ysgolion, fel y dywedais, i gefnogi eu plant yn well ac i gael mynediad cyflym at wasanaethau mwy arbenigol os oes angen. Ond o ganlyniad i'ch cwestiwn, byddaf yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd os yw'n barod i wneud hynny i drafod, mewn perthynas â'r mater penodol hwn sy'n ymwneud ag anhwylderau bwyta, beth arall y gallwn ei wneud i gydgysylltu gwaith yn adrannau'r ddau ohonom.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Mike Hedges.