Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Lee. Mae 'Cenhadaeth ein Cenedl' yn egluro ein bod yn cymryd camau, drwy gwricwlwm newydd gyda phwyslais penodol ar les dysgwyr, datblygiadau mewn dysgu proffesiynol a chynlluniau peilot mewngymorth y gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, i gynorthwyo ysgolion i hyrwyddo a chefnogi iechyd meddwl cadarnhaol a lles.