Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 23 Mai 2018.
Diolch, Lywydd. [Torri ar draws.] Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, un agwedd neu ganlyniad i'r ffaith y byddaf yn dad cyn bo hir yw bod fy nghyd-Aelodau bellach yn neilltuo pob cwestiwn sy'n ymwneud â babanod a phlant a phob agwedd ar iechyd plant ar fy nghyfer. [Chwerthin.] Ond rwyf wedi derbyn hynny. Wel, am heddiw, beth bynnag.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae cynllun da wedi bod yng Nghasnewydd yn ddiweddar: cynllun llwyddiannus sydd wedi annog siopau lleol, caffis ac ati i arddangos sticer yn y ffenestr sy'n dangos eu cefnogaeth i fwydo ar y fron. Efallai ei fod yn gynllun bach, ond mae wedi cael cryn effaith yn yr ardal honno. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth rydych yn ei rhoi i adeiladu rhwydweithiau gyda darparwyr iechyd a chymunedau lleol, fel y gall busnesau ddangos eu cefnogaeth yn y ffordd honno a gallwn gynyddu cyfraddau mewn ffordd naturiol a blaengar?